Â鶹Éç

Galw am sefydlu 'Llyfrgell Glocsiau'

Par y glocsiau i blentyn bach

05 Mehefin 2012

Ar faes Eisteddfod yr Urdd Eryri ddydd Mawrth, galwodd y mudiad Trac am sefydlu Clogell - neu Lyfrgell Glocsiau - drwy gynnal 'amnesti' glocsiau drwy Gymru.

Dywed y mudiad ar gyfer datblygu gwerin fod galw cynyddol am glocsiau yng Nghymru a bod gwneuthurwyr yn cynhyrchu nifer fawr o glocsiau ond nad oedd neb yn siŵr i ble roedden nhw'n mynd.

Drwy greu amnesti clocsiau, mae'r mudiad yn anelu at greu casgliad cenedlaethol o glocsiau a fydd ar gael i'w llogi drwy'r we i grwpiau ac unigolion sydd am gynnal gweithdai, prosiectau dawns a digwyddiadau.

Trefor Owen yn yr Eisteddfod
Mae Trefor Owen yn poeni am ddyfodol y greffto greu glocsiau.

Yn ôl Danny Kilbride, Cyfarwyddwr Trac: "Yn ystod y blynyddoedd diwethaf rydym wedi gweld cynnydd sylweddol yn y diddordeb yn nawns y glocsen draddodiadol yng Nghymru, gan weld grwpiau newydd yn cael eu sefydlu ar draws Cymru. Yn naturiol, gyda thŵf y diddordeb yn y ddawns, rydym wedi gweld cynnydd mawr yn y gofyn am glocsiau.

"Mae'n ymddangos yn gwbl hurt bod 'na focsys llawn clocsiau nad oes neb yn eu defnyddio, a sy'n casglu'n llwch, ynghudd mewn cypyrddau, selerau ac atigau ledled y wlad.

"Rydym yn gofyn i bobl roi eu hen glocsiau i ni; bydd y clocsiau hyn yn cael eu hatgyweirio, a'u defnyddio unwaith eto i helpu dathlu un o hoff draddodiadau gwerin ein gwlad," meddai.

Drud

Dywed y gwneuthurwr glocsiau Trefor Owen o Gricieth iddo gynnig y syniad i Trac am ei fod yn gweld fod y clocsiau roedd yn eu gwneud yn 'diflannu'. A chan fod y pris am bâr newydd o glocs, tua £70, yn ddrud i rywun sydd ddim yn siwr a fydd eisiau parhau i ddawnsio ond sydd eisiau rhoi tro arni, meddyliodd y byddai gallu llogi rhai yn help i hybu'r grefft.

Coedwig uwchlaw maes Eisteddfod yr Urdd 2012
O'r goedwig hon yng Nglynllifon mae
Trefor Owen yn cael y pren i wneud ei glocsiau

Ar wahân i Geraint Jones, sy'n gweithio yn Sain Ffagan, Trefor ydy'r unig wneuthurwr llawn-amser yng Nghymru ac, meddai, un o dri yn unig drwy Brydain sy'n gwneud y gwaith yn llawn- amser. A a dim ond rhyw ugain, meddai, sy'n creu clocsiau o gwbl drwy Brydain.

Ac yntau yn gobeithio ymddeol rywbryd, mae Trefor, sy'n gyn glocsiwr ei hunan, ac yn angerddol am y grefft, yn poeni nad oes neb yn mynd i gymryd yr awenau ac ateb y galw cynyddol am glocsiau yng Nghymru.

Ac os dewch chi â'ch clocsiau yn ôl i Lynllifon, fe fyddan nhw yn 'dod adref', oherwydd o'r goedwig sy'n edrych i lawr dros faes yr Eisteddfod mae Trefor yn cael y pren ar gyfer gwadnau ei esgidiau clocsio.

Mae'r pren masarn meddai, yn gweddu i ddawnsio Cymreig oherwydd ei fod yn ysgafn ac y creu'r 'tap' glân sy'n gysylltiedig â chlocsio Cymreig.


Plant

Dewch i fyd hudol Tree Fu Tom am gemau, anturiaethau a swynau!

C2

Huw Stephens Yn ei Grŵf!

Gêm: Yn y Grŵf

Rhowch dro ar gêm C2 - hwyl a sbri wrth ddewis Huw a mwy fel cyflwynydd!

Ffeil

Darllenwch y penawdau newyddion a'r chwaraeon diweddaraf a gwylio'r rhaglen.

Bitesize TGAU

Logo Bitesize

Cymorth adolygu

Gweithgareddau, testun adolygu, fideos, clipiau sain a phrofion!

Â鶹Éç iD

Llywio drwy’r Â鶹Éç

Â鶹Éç © 2014 Nid yw'r Â鶹Éç yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.