麻豆社

Cadair 2009 - rhodd y Llyfrgell

Arwel Jones ac Arnold James

Saernio ei bedwaredd cadair

Rhodd gan y Llyfrgell Genedlaethol yw cadair Eisteddfod Genedlaethol Urdd yng Nghaerdydd eleni.

Ac y mae hi y bedwaredd cadair eisteddfodol i'w gwneud gan Arnold James, cyn athro Celf, Dylunio a Thechnoleg o Lanelli.

"Cadair Eisteddfod Powys yn yr Wythdegau oedd y gyntaf i mi ei chreu, a hynny pan oeddwn i'n byw yn yr ardal. Ro'n i hefyd yn gyfrifol am gadair Eisteddfod yr Urdd, Wrecsam yn '97 a chadair yr Eisteddfod Genedlaethol yn Llanelli, 2000," meddai Arnold sy'n defnyddio garej ei gartref yn Llanelli yn weithdy.

"Creu model fechan o'r gadair yw cam cyntaf y broses bob tro," eglurodd.

Ar 么l i'r Llyfrgell weld a thrafod y cysyniad yr aeth ati i ddewis coedyn addas a chychwyn o ddifri ar y gadair ei hun.

cyfansoddi cerdd

Bydd y gadair yn cael ei chyflwyno i'r bardd buddugol am gyfansoddi cerdd gaeth eu rydd ar y testun Ymlaen yn ystod prif seremoni ddydd Iau yr Eisteddfod.

Y beirniaid yw Hywel Griffiths a Karen Owen.

Wrth gyhoeddi mai rhodd gan y Llyfrgell genedlaethol yn Aberystwyth yw'r gadair dywedodd R Arwel Jones, Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cyhoeddus Llyfrgell Genedlaethol Cymru:

"Mae'r Llyfrgell yn frwd iawn dros y gwasanaeth a gynigir ganddi i blant a phobl ifanc Cymru trwy ei Gwasanaeth Addysg a'r trysorau sydd ar gael iddynt ar lein.

"Rydym yn falch iawn o gael cyflwyno'r gadair i enillydd Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd, Bae Caerdydd ac o'r cyfle i gydweithio gydag Arnold James ar y cynllun."

Ac meddai Aled Si么n, Cyfarwyddwr yr Eisteddfod, wrth ddiolch i'r Llyfrgell:

"Mae seremoni'r cadeirio yn wledd i'r llygaid bob tro ac edrychwn ymlaen at weld y gadair yn cael ei chyflwyno i'r bardd buddugol."


麻豆社 iD

Llywio drwy鈥檙 麻豆社

麻豆社 漏 2014 Nid yw'r 麻豆社 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.