Â鶹Éç

Croesawu'r Urdd i Lanerchaeron

Croeso Ceredigion ar y llwyfan

Gyda blwyddyn i fynd mae trigolion Ceredigion werdi codi'n barod ddwy ran o dair o'r gronfa leol ar gyfer Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd 2010.

Dyna'r newyddion calonogol gan gadeirydd y pwyllgor gwaith, Deian Creuant, y diwrnod y daeth plant Ceredigion i'r llwyfan i wahodd Cymru gyfan i'r Eisteddfod honno.

"Os yw'r brwdfrydedd a'r awch sy'n cael ei ddangos ar draws y sir yn unrhyw arwydd fe fydd hi yn dipyn o wythnos yng Ngheredigion y flwyddyn nesaf," meddai Deian Creunant.

"Fel gyda phob Prifwyl y mae yna darged ariannol wedi ei osod sef £300,000 ar gyfrer y pwyllgor apêl lleol, sydd ddim yn chwarae bach ar gyfnod ariannol fel sydd gennym ar hyn o bryd on mae'n braf medru cyhoeddi fod dros ddwy ran o dair o'r arian wedi cyrraedd y coffrau ac mae hynny o gofio fod y sir hefyd yn gyfrifol am noddi y Sioe Frenhinol y flwyddyn nesaf a braf yw gweld y cydweithio rhwng nifer o'r pwyllgorau apêl," meddai.

Yn Llanerchaeron y cynhelir Eisteddfod 2010 ar ystad yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol a fydd yn rhoi cyfle i Eisteddfodwyr gyfuno diwrnod yn yr Eisteddfod gydag ymweliad â stâd John Nash, gyda thŷ o'r ddeunawfed ganrif a gerddi rhwng waliau a fferm.

Disgyblion o ysgolion uwchradd Ceredigion ac aelodau hÅ·n yr Urdd o'r ardal oedd ar lwyfan Canolfan y Mileniwm i wahodd pawb i'r eisteddfod honno gyda chyflwyniad - a gynhyrchwyd gan Eifion Evans, Mair Jones, Neville Evans a Ceris Potter - yn rhoi sylw i chwedlau Ceredigion gan gynnwys hanes Cantre'r Gwaelod.


Â鶹Éç iD

Llywio drwy’r Â鶹Éç

Â鶹Éç © 2014 Nid yw'r Â鶹Éç yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.