麻豆社


Explore the 麻豆社

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Tramor

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf



Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



麻豆社 Homepage

Cymru'r Byd
» Tramor
Gogledd a Chanol America
De America
Ewrop
Affrica
Dwyrain Canol
Asia
Awstralasia a'r M么r Tawel

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb


Beryl Dod i adnabod Paris
Mae Beryl Llywelyn-Jones o Gaerdydd yn treulio tri mis ym Mharis. . .

Chwefror 2002

Dinas o risiau
Wel, dyma fi o'r diwedd wedi setlo ym Mharis. Be' mae hi'n ei wneud yno medda chi?

Wel, dwi yma'n astudio cwrs ôl-râdd Ewropeaidd mewn rheoli gwasanaethau rhyngweithiol yn y sefydliad amgyfryngol INA Formation.


Afon SeineDewiswyd ugain ohonom dros Ewrop a daw'r lleill o Sbaen, Portiwgal, Ffrainc, Yr Eidal, Groeg, Denmarc, Yr Almaen, Iwerddon a'r Ffindir.

Erbyn hyn, dwi wedi dod i ddygymod â'r ddinas fawr. Ar gychwyn fy nghyfnod, ganol Ionawr, roeddwn yn flinedig iawn ac heb fod yn siwr pam.

Erbyn hyn, dwi wedi sylweddoli mai'r holl risiau oedd yn gyfrifol am hynny.

Dwi erioed wedi dringo cymaint yn fy mywyd! Fflatiau yw cartrefi'r rhan fwyaf yma a'r adeiladau yn hen iawn ac heb lifft' yn y mwyafrif ohonyn nhw.



Y twr
Byw yn y ddinas

Yn wahanol iawn i Lundain, mae nifer fawr o'r trigolion yn byw ynghanol y ddinas ac yn gweithio'r tu allan.

Mae'r coleg dwi'n astudio ynddo hefyd y tu allan i'r ddinas a minnau'n byw yn Vincennes sydd yn agos iawn i ganol Paris.

Y metro a ddefnyddir i deithio o gwmpas y ddinas a'r trên RER a ddefnyddir i deithio allan o'r ddinas ac ar draws y ddinas yn gyflym.

Gellir cael tocyn mis i deithio o gwmpas y ddinas. Gellir ei ddefnyddio mor aml ac a ddymunwch a dyma'r ffordd rataf o deithio yma.

Mae Vincennes yn brydferth iawn.

Mae yma château enwog a phob dydd Sul cynhelir y farchnad fwyd orau a welais erioed a dyma lle byddaf yn prynu caws a physgod ffres yr ardal.

Bob dydd, fel pawb ym Mharis, byddaf yn prynu baguette ffres o'r boulangerie lleol, Weithiau hefyd, byddaf yn ildio i chydig o chocolat cartref a werthir yno.

Brwydr Chirac
Yr wythnos diwethaf, cyhoeddodd Jacque Chirac, Arlywydd Ffrainc y bydd yn ymgeisio am ei ail dymor fel arlywydd y wlad.

Bydd yr etholiad yn y gwanwyn gyda'r rownd gyntaf ar Ebrill 21 a'r rownd derfynol ar Fai 5. Mae'n edrych yn debyg fod nifer o bobl y wlad yn disgwyl mai ef fyddai'n ennill yr etholiad.

Fel dwi'n deall, mae Chirac wedi aros cryn dipyn cyn gwneud hyn yn swyddogol gan y cyhoeddwyd dyddiadau'r etholiad 'nôl ym mis Rhagfyr.

Ei brif gystadleuydd yw'r arweinydd sosialaidd a'r prif weinidog, Lionel Jospin a gadarnhaodd yr wythnos hon y bydd yn ymgeisio.

Bydd yr enillydd yn arwain am bum mlynedd.

Bu'r etholiad diwethaf 'nôl yn 1995 pryd cafodd Chirac yr hawl i arwain am saith mlynedd.

Y tro hwn, dim ond am bum mlynedd y bydd yr arlywydd etholedig yn arwain.

Bu ddydd Sadwrn yn brofiad ysgytwol imi pan orfodwyd imi wylio, yn yr Oz Cafe' yn ardal Châtelet reit ynghanol Paris, y gêm rygbi hynod gyffrous yna rhwng Cymru a Ffrainc.

Roeddwn yn ofnus meddwl amdanaf fel yr unig Gymraes ynghanol llwyth o Ffrancwyr ond doedd dim rhaid imi boeni gan imi weld nifer o grysau cochion ynghanol y gwylwyr soffistigedig.

Roedd y bloeddiadau lu o du'r Cymry ymddangosiedig yn galonogol iawn a buan yr ymunais â'r hwyl.

Wrth gwrs, er mwyn ennill cefnogaeth y Gwyddelod oedd yn ein plith, bu'n rhaid imi eu cefnogi nhw yn y gêm yn erbyn Lloegr.

O fyd y Ffrancwyr i fyd y Chineaid ac oes, mae yna ardal Chineiaidd sylweddol ym Mharis ac i ddathlu eu blwyddyn newydd aethom i weld carnifal lliwgar, enfawr, a ddarparwyd ar gyfer yr wyl.
Roedd y strydoedd yn llawn gyda 200,000 wedi dod ynghyd i ddathlu.

Rwyf wedi gweld sut mae nifer o drigolion a ddaw o wledydd tramor yn byw ym Mharis. Rwyf hefyd wedi bod yn ffodus i gyfarfod pobl sydd wedi byw ym Mharis ar hyd eu hoes ac hefyd, bobl sydd wedi byw yma ers blynyddoedd.

Braf yw gallu cyfarfod ag amrywiaeth eang o bobl i gyd yn yr un ddinas.

Dinas ddeniadol iawn yw hi hefyd.
Gwelaf hyn bob dydd o ffenestr y ddarlithfa.

Os ydyw'r lle mor fendigedig, a ydw i am ddod adra medda chi?

O ydyw, mae hynny'n sicr. Does dim am fy nghadw rhag dod yn ôl i Gymru fach.




ewrop

Ffrainc
Dod o Lydaw i weld teledu Cymraeg

Ewrop

Oes gafr eto?

Adeiladau crwn Profens

Pererinion o Lydaw yng Nghymru

Dod i adnabod Paris

Cymry Paris

Agwedd undeb athrawon yn peri pryder i Lydawyr

LLyfr Cymro am Lydaw

Cofio arwr o Gymro yn Ffrainc

Oes gafr eto?

Terfysg ym Mharis - Tachwedd 2005

Gobaith i'r ieithoedd bach?

Ergyd i'r ieithoedd bach

Celtiaid Ffrainc

Nofelydd gwych y chwyldro Ffrengig

Pobi yn Llydaw

Tai, bwyd a gwin yn Ffrainc




About the 麻豆社 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy