麻豆社


Explore the 麻豆社

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Tramor

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf



Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



麻豆社 Homepage

Cymru'r Byd
» Tramor
Gogledd a Chanol America
De America
Ewrop
Affrica
Dwyrain Canol
Asia
Awstralasia a'r M么r Tawel

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb


Llosgi ar strydoedd Paris Terfysg ym Mharis - Tachwedd 2005
Gwion Lewis - ein harbenigwr ar faterion rhyngwladol - yn yn trafod y terfysg ym Mharis, Tachwedd 2005

  • La crise de l'identité

  • Tachwedd 10, 2005 Wedi degfed noson o drais ledled Ffrainc, a bron i bedwar cant wedi eu harestio am ddifrod troseddol, dyma yrru ebost at ffrind sy'n gweithio ym Mharis.

    Oherwydd i ni gyfarfod ein gilydd tra'n dilyn cwrs o'r enw Diwylliant a Hawliau Dynol ym Mhrifysgol Efrog Newydd, dyma feddwl y gallai fwrw goleuni ar y problemau cymdeithasol sydd wrth wraidd yr hyn a welwn yr wythnos hon.

    Bu wastad yn eithaf ffurfiol ei natur, ond pan gyrhaeddodd ei ebost â'r teitl The death of France as a concept bu bron i mi fynd i chwilio am gaffi Ffrengig myglyd yn llawn deallusion i wneud cyfiawnder ag ymdrechion y creadur.

    Ffrainc wedi newid
    "Nid yw Ffrainc fy mhlentyndod yn bod mwyach," cyhoeddodd ar ddechrau ei druth.

    "Beth sy'n unigryw amdanom bellach?
    A ydym ar flaen y gâd yn gelfyddydol?
    Nac ydym.
    Mae Llundain ac Efrog Newydd ill dwy yn rhagori ar Baris bellach.

    "Yn wleidyddol, ni allwn honni ychwaith ein bod ni'n wlad o bwys ar y llwyfan rhyngwladol heddiw.

    "A beth ddigwyddodd i'n traddodiad athronyddol? Nid wyf yn siŵr iawn beth yw bod yn Ffrancwr heddiw."

    A minnau wedi gofyn dim mwy o'm ymennydd na phrosesu penawdau GMTV rai munudau yn gynharach, roedd y cyfan braidd yn ormod i mi ben bore, ond ni allwn lai nag edrych ddwywaith ar frawddeg olaf ei neges ffwndrus:
    "Y mae mewnfudwyr wedi lladd Ffrainc fel syniad."

    Annisgwyl
    Yr oedd darllen y gosodiad hwn gan rywun a ystyriwn yn ŵr dinesig, eangfrydig, yn annisgwyl.

    O edrych ar y newyddion teledu lleol yma'n Llundain, ceir yr argraff yn feunyddiol mai mewnfudwyr sy'n bennaf gyfrifol am gyffro prifddinas Prydain ar hyn o bryd.

    Yr ydym oll, boed o Langefni neu Lahore, yn nofio mewn lobsgows diwylliannol sy'n newid ei flas yn gyson, ac mae hynny'n fwyfwy gwir am Gaerdydd hefyd.

    Helynt ar y stryd Y mae ein hamryfal gefndiroedd yn cael eu dathlu y tu allan i'r prifddinasoedd hyn hefyd: fwy nag unwaith cyn yr etholiad diwethaf, disgrifwyd Cymru gan wleidyddion o bob un o'r prif bleidiau (ac eithrio'r Blaid Geidwadol) fel gwlad "amlddiwylliannol", a bod hynny'n rhywbeth i'w gofleidio.

    Oes, mae yna dyndra hiliol yn dod i'r wyneb weithiau ym Mhrydain, fel y gwelwyd yn Birmingham a Bradford yn ddiweddar; ond, ar y cyfan, gellid dadlau nad oes yr un wlad arall yn y cyfnod modern wedi dygymod cystal â Phrydain o safbwynt dod â phobl o wahanol ddiwylliannau at ei gilydd i gyd-fyw'n heddychlon.

    Daeth yn amlwg yr wythnos hon na ellir dweud yr un peth am Ffrainc, gwlad sy'n anodd i'r Cymry a'r Saeson ei deall ar brydiau oherwydd pwyslais digyfaddawd y Ffrancwyr ar wahanu'r Eglwys a'r Wladwriaeth.

    Mynegwyd y pwyslais hwn i'r eithaf ddwy flynedd yn ôl pan gyhoeddwyd na fyddai gan enethod Moslemaidd yr hawl mwyach i orchuddio'u pennau mewn ysgolion a gynhaliwyd gydag arian cyhoeddus.

    Dywed rhai fod y polisi hwn wedi ennill ei dir erbyn hyn a bod protestiadau'r mudiadau Moslemaidd wedi tawelu ond a ellir datgysylltu'r polisi hwn yn llwyr o'r cythrwfl a welwyd yr wythnos hon?

    Sbardun
    Dywedir mai'r sbardun ar gyfer yr ymosodiadau cyntaf oedd marwolaeth dau ŵr ifanc Affricanaidd mewn gorsaf drydan wrth iddynt geisio dianc rhag yr heddlu.
    Ond mae'n rhaid edrych y tu hwnt i'r digwyddiad hwn i gael y darlun yn llawn.

    Yr hyn a welir yn y darlun hwnnw yw gwlad sy'n talu'n hallt am gredu mai cyfrinach cymdeithas sefydlog yw unffurfiaeth ddiwylliannol.

    Un agwedd yn unig yw'r gwaharddiad ar sgarffiau o bolisi diwylliannol sy'n hynod amheus o leiafrifoedd.

    Mae agwedd llywodraeth Paris at y Lydaweg yn enghraifft arall: nid rhan annatod o etifeddiaeth ddiwylliannol Ffrainc yw'r Lydaweg, ond rhywbeth dianghenraid sy'n bygwth undod y wlad. Hyd heddiw, ni roddodd Paris ei chefnogaeth i unrhyw ymdrech i geisio cryfhau'r iaith.

    Plismyn Ar ben hynny, cafwyd tystiolaeth fod nifer sylweddol o blismyn Paris yn defnyddio gormod o rym corfforol yn rheolaidd wrth ymdrin â mewnfudwyr o Affrica.

    Yn ôl Amnest Rhyngwladol, y mae'r fath ymosodiadau hiliol ar gynnydd.

    Fel y byddai rhywun yn ei ddisgwyl, mae'r amheuaeth hon o leiafrifoedd ar lefel wladwriaethol bellach yn treiddio'n ddyfn i'r gymdeithas:
  • 9.2% o bobl o dras Ffrengig sy'n ddi-waith yn Ffrainc;
  • Ymysg mewnfudwyr ifanc, mae'r gyfran honno'n codi i 25%, hyd yn oed wrth ystyried gwahaniaethau mewn cymwysterau.

    'Gwehilion'
    Go brin y bydd y sefyllfa'n gwella os yw Ysgrifennydd Cartref Ffrainc, Nicolas Sarkozy, yn dal i ddisgrifio'r Affricanwyr ifanc a fynegodd eu rhwystredigaeth yr wythnos hon fel "gwehilion cymdeithas".

    Nicolas Sarkozy Tila iawn fu ymdrechion y llywodraeth ym Mharis i geisio cryfhau cartrefi ac ysgolion y "gwehilion" hyn hyd yma.

    Fel y gwelir yn nelweddau amrwd y ffilm gampus, The Beat That My Heart Skipped (De Battre, Mon Coeur s'est Arrêté), a ryddhawyd yma dros y Sul, y mae nifer ohonynt yn byw ar bennau ei gilydd mewn adeiladau sydd ymhell o fod yn ddigonol.

    Cafwyd gwelliannau mewn rhai stadau, ond y mae'r ardaloedd tlotaf yn dal i gael eu hanwybyddu.

    Yr argraff i sylwebwyr o'r tu allan yw nad oes gan Ffrainc lawer o amynedd â'r rhai nad ydynt yn cydymffurfio'n dwt â'r ddelwedd sydd ganddi hi ohoni ei hun.

    Ceir wedi'u llosgi A'r 'hi' honno, heb os, yw'r mwyafrif gwyn sydd, yn gyffredinol, yn dal i chwennych unffurfiaeth ddiwylliannol y maent hwy eu hunain, a hwy yn unig, yn cael ei diffinio.

    Y mae poblogrwydd cynyddol Sarkozy er gwaethaf ei sylwadau hynod ansensitif yn dystiolaeth o hyn.

    Ffolineb o'r radd flaenaf yw gorfodi 'unffurfiaeth' pan nad ydym, wrth reswm, yn unffurf fel pobl.

    Hyd yn oed ymysg aelodau ein hil ein hunain, yr ydym yn hynod wahanol i'n gilydd yn ddiwylliannol, yn ieithyddol, ac yn ysbrydol, i enwi tair agwedd ar ein hunaniaeth yn unig.

    Os mai bod yn wir 'Ffrancwr' yw ceisio anwybyddu'r gwirionedd sylfaenol hwn, nid yw'n syndod, efallai, nad yw fy nghyfaill yn rhy sicr pwy ydyw.

    Dolennau




  • ________________________________________________________________________




  • cysylltiadau
    Erthyglau eraill gan Gwion Lewis

    Gwion Lewis

    ewrop

    Ffrainc
    Dod o Lydaw i weld teledu Cymraeg

    Ewrop

    Oes gafr eto?

    Adeiladau crwn Profens

    Pererinion o Lydaw yng Nghymru

    Dod i adnabod Paris

    Cymry Paris

    Agwedd undeb athrawon yn peri pryder i Lydawyr

    LLyfr Cymro am Lydaw

    Cofio arwr o Gymro yn Ffrainc

    Oes gafr eto?

    Terfysg ym Mharis - Tachwedd 2005

    Gobaith i'r ieithoedd bach?

    Ergyd i'r ieithoedd bach

    Celtiaid Ffrainc

    Nofelydd gwych y chwyldro Ffrengig

    Pobi yn Llydaw

    Tai, bwyd a gwin yn Ffrainc




    About the 麻豆社 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy