Ae gyfer rhaglen olaf Ar Dy Feic 2006 ymwelodd Hywel Gwynfryn ag un sydd wedi gadael Cymru i fyw bywyd gwahanol iawn yn Llydaw lle dewisodd fywyd symlach, agosach i'r tir, gyda'i wraig Lydewig a'u merch fach.
O'r Trallwng y daw Geraint Jones, yn wreiddiol, yn fab i Arthur Hefin sy'n gyfarwydd i lawer fel cyn athro cerdd yn yr ardal.
Wedi cyfnod yn byw yng Nghaerdydd a gweithio yn y Cynulliad, symudodd Geraint i St Cadeau, pentref hynafol ynghanol harddwch garw Llydaw.
Yma y mae ef a Gayle a'u merch fach, Gwenllian, wedi ymgartrefu ac ymdoddi i'r gymdeithas glos.
Maent wedi prynu hen ffermdy carreg, gan weithio yn ddiwyd i'w droi yn gartref clyd i'r teulu bach, a cheisio cadw at deimlad gwreiddiol yr adeilad a defnyddio crefftwyr lleol, rhywbeth sy'n ganolog iawn i ethos bywyd Geraint.
"Un o'r rhesymau ydyn ni yn licio byw ffordd hyn ydi'r gymuned a'r bobol sy'n byw yn lleol, felly mae'n rhaid helpu'r gymuned i fyw trwy roi gwaith i bobol leol," meddai.
Mae cefnogi diwydiannau bach lleol, fel y gwneuthurwyr caws, siop y pentref a'r 'Sioni Winiwns' lleol yn ffordd o fyw, gan gadw'n glir o archfarchnadoedd mawr y trefi cyfagos.
Mae gwaith dydd i ddydd Geraint, yn bobydd sy'n darparu bara i'r gymuned gyfagos, yn ffitio'n daclus i'r patrwm bywyd yma.
Ac yntau o deulu cerddorol, mae hyn wedi profi yn ffordd o ymdoddi'n bellach i'r gymdeithas i Geraint, wrth iddo fo a'i ffrind Etienne drefnu a darparu cerddoriaeth ar gyfer Fez Noz, noson hwyliog o ddawnsio a hwyl i'r ardal gyfan.
Ymwelodd Hywel hefyd â thafarn enwog Ty Coz yn Morlaix gan rannu peint a Llydäwr rhugl yn y Gymraeg cyn neidio ar ei feic i brofi awyrgylch a thirwedd unigryw ardal Finistere.
Dydd Llun, Mehefin 19, 麻豆社 Cymru ar S4C.
|