麻豆社


Explore the 麻豆社

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Tramor

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf



Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



麻豆社 Homepage

Cymru'r Byd
» Tramor
Gogledd a Chanol America
De America
Ewrop
Affrica
Dwyrain Canol
Asia
Awstralasia a'r M么r Tawel

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb


Tai, bwyd a gwin yn Ffrainc
Mae Cymro sy'n byw yn Ffrainc wedi creu gwefan i helpu pobl sydd eisiau prynu tai yn y wlad.


Symudodd William Rees i fyw yn Ffrainc rai blynyddoedd yn ôl yn dilyn gyrfa ym myd teledu yng Nghymru ac wedyn yn rhedeg Plas Glansevin a ddaeth yn enwog am ei nosweithiau Cymraeg unigryw ar y pryd.

Plasty crand a fan fach wenYn wir, trwy deithio Ffrainc yn chwilio am winoedd ar gyfer cwsmeriaid Glansevin y daeth Will i adnabod yn gyntaf y rhan o Ffrainc y mae'n byw ynddi'n awr - yn nyffryn Loire sy'n cael ei disgrifio fel 'gardd Ffrainc' ac yn enwog am ei phlastai crand.

"Yma y byddai brenhinoedd Ffrainc yn aros gan symud o un plasty i'r llall," eglurodd Wil pan ymwelodd Hywel Gwynfryn ag ef i ffilmio un o raglenni teledu y gyfres Ar Dy Feic.

Lle perffaith
Yn arbenigwr ar fwydydd a gwin mae William Rees yn gweld Ffrainc yn lle perffaith i fyw ynddo.

"Mae o'n fwy hamddenol nag ydych chi wedi arfer. Efallai'i fod o'n fwy hen ffasiwn.

"Mae'r gwin a'r gwinllannoedd yn ddiddorol," meddai.

"Dwi wrth fy modd yma. Mae rhywbeth yn hudolus am y lle; y gwinllannoedd, y cefn gwlad," ychwanegodd.

Bwydydd ffres
"Ac mae'r Ffrancwyr yn cymryd bwyd o ddifrif," meddai gan ddweud bod y pwyslais ar brynu llysiau a chynnyrch ffres.

"Maen nhw'n hoffi dewis bwyd yn ffres mewn marchnadoedd," meddai gan ychwanegu fod yr adrannau bwyd wedi rhewi yn llawer iawn llai yn yr archfarchnadoedd nag ym Mhrydain.

Prynu tai yn Ffrainc
Ond sut y daeth i benderfyniad ynglŷn â symud i Ffrainc yn y lle cyntaf?

"Yr oeddwn i wedi dod i'r penderfyniad ei bod hi'n bryd i mi wneud rhywbeth gwahanol ac roeddwn i wedi clywed am bobl yn prynu eiddo yn Ffrainc a wnes i ddim i ffeindio yn anodd.



Mwynhau bwydNid tŷ yn unig a brynodd o fan wen, fechan, hefyd sydd mor nodweddiadol o drigolion y rhan hon o'r wlad.

Mae wrth ei fodd gyda'r ffordd Ffrengig o fyw.

"Be ti'n gael yn Ffrainc sy'n llawer brafiach nag ym Mhrydain ydi fod teuluoedd yn mynd allan efo'i gilydd. Does na ddim o'r agwedd yna fod yn rhaid ichi fynd allan i feddwi a chael cyri a mynd adref i ffraeo - mae o'n brafiach o lawer," meddai.

Gwefan werthu tai
Ac yntau wedi cael y profiad o brynu ei dŷ ei hun a'i atgyweirio mae'n awr wedi creu gwefan Saesneg i helpu eraill wneud yr un peth.

Gwrthododd awgrym gan Hywel y gallai hynny bigo ei gydwybod ac yntau yn Gymro.

"Dydw i ddim yn credo y gwna i gynyddu y nifer sy'n prynu tai yma. Mae'r rhai sy'n dod yn dod fel petai. Yn cael eu denu gan y ffaith fod prisiau tai yn Ffrainc yn isel - ond i raddau helaeth mae'r tai sy'n cael eu prynu . . . yn dai nad yw'r Ffrancwyr eu hunain ddim am eu prynu.

"Maen nhw ar y cyfan eisiau symud i dai modern yn ymyl y ddinas a does ganddyn nhw ddim lot o ddiddordeb mewn tai allan yn y wlad - yn yr hen gartref, felly," meddai.




cysylltiadau




ewrop

Ffrainc
Dod o Lydaw i weld teledu Cymraeg

Ewrop

Oes gafr eto?

Adeiladau crwn Profens

Pererinion o Lydaw yng Nghymru

Dod i adnabod Paris

Cymry Paris

Agwedd undeb athrawon yn peri pryder i Lydawyr

LLyfr Cymro am Lydaw

Cofio arwr o Gymro yn Ffrainc

Oes gafr eto?

Terfysg ym Mharis - Tachwedd 2005

Gobaith i'r ieithoedd bach?

Ergyd i'r ieithoedd bach

Celtiaid Ffrainc

Nofelydd gwych y chwyldro Ffrengig

Pobi yn Llydaw

Tai, bwyd a gwin yn Ffrainc




About the 麻豆社 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy