麻豆社


Explore the 麻豆社

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Tramor

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf



Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



麻豆社 Homepage

Cymru'r Byd
» Tramor
Gogledd a Chanol America
De America
Ewrop
Affrica
Dwyrain Canol
Asia
Awstralasia a'r M么r Tawel

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb


Sant Nicolas Dathlu'r Nadolig yng Ngwlad Groeg
gan Lynda Ganatsiou

Yn union fel yr Eglwys Gristnogol, ar Ragfyr 25 mae'r Eglwys Uniongred yng ngwlad Groeg yn dathlu genedigaeth Crist.


Ar draws y Canoldir ar yr un dydd, amser maith yn ôl buont yn dathlu diwrnod y duw Persaidd Mithas, duw yr haul.

Gan fod y gwahaniaeth rhwng goleuni a thywyllwch yn bwysig ym mis Rhagfyr, mae'r rhan fwyaf o draddodiadau ac arferion Groeg wedi eu gwreiddio ar y gwrthgyferbyniad rhwng y tywyllwch a golau o hyd.

Mewn sawl ardal, mae'r wyl yn cael ei rhagflaenu gan ymprydio ond erbyn Rhagfyr 7, Gwyl Sant Nicolas, mae'r tymor yn ei llawn hwyl.

Mae gan pob pentref a thref ei nawddsant ei hun. Nicolas ydy nawddsant Thermi, lle rwyf i'n byw.

Yn draddodiadol, dyma'r dydd pan fyddai teuluoedd yn cyfnewid anrhegion.

Mae'r wyl yn parhau tan Ionawr 6, Dydd Gwyl Ystwyll.

Ar noswyl y Nadolig ar flwyddyn newydd, bydd plant yn mynd o gwmpas i ganu carolau -: calanda ydy enw'r rhain.

Wrth fynd o dy i dy defnyddiant drionglau ac efallai ddrwm bychan o.

Derbyniant arian am eu hymdrechion ond yr arfer gynt oedd rhoi melysion iddyn nhw.

Sant Nicolas.Gan fod gwlad Groeg yn dibynnu cymaint ar y môr a chanddi gymaint o ynysoedd mae Nicolas yn sant pwysig iawn gan ei fod yn nawddsant y morwyr.

Yn ôl traddodiad Groeg, mae ei ddillad wedi eu gwlychu â dwr hallt, a'i farf yn diferu a ddwr y môr, a'i wyneb yn llawn chwys yn dilyn ei ymdrechion yn erbyn y tonnau wrth geisio cyrraedd llongau sydd ar fin suddo.

Nid oes yr un llong yn gadael porthladd yn y wlad, heb ddelw o Sant Nicolas.

Wedi deugain diwrnod o ymprydio, bydd pawb yn edrych ymlaen yn frwdfrydig at wledd y Nadolig. Lleddir moch, wyn a geifr a bydd y menywod yn paratoi pasteiod.

Bydd y pryd ar y bwrdd wedi gwasanaeth boreol yr eglwys ar ddydd Nadolig.

Dim ond ychydig flynyddoedd yn ôl y daeth y goeden Nadolig yn boblogaidd yma. Ym mhob ty, bron, prif symbol y tymor ydy cawg pren bas gyda sbrigyn o basil yn hongian oddi wrth wifren.



Calicandsari  Cedwir ychydig o ddwr yn y cawg i gadw'r basil yn fyw. Unwaith y dydd bydd aelod o'r teulu - y fam fel rheol - yn rhoi croes a'r basil mewn dwr sanctaidd, ac yn eu defnyddio wedyn i wasgaru dwr ym mhob ystafell o'r ty.

Credir fod hyn yn cadw'r Calicandsari draw - creadur sy'n dod o ganol y ddaear a llithro i mewn i dai pobl drwyr simnai.

O'r herwydd cedwir y tân ynghyn gydol y deuddeng niwrnod i'wcadw draw.





ewrop

Gwlad Groeg
Ysblander y saffrwn

Dathlu'r Pasg yng Ngwlad Groeg

Dathlu'r Nadolig yng Ngwlad Groeg

Llythyr o Wlad Groeg

Cymraes yn dathlu'r Nadolig yng Ngwlad Groeg

Rhyfeddod y machlud

Cofio neges ewyllys da

Cyfnod twym yng Ngroeg

Llygedyn o obaith mewn byd o greulondeb

Dod yn agos at fod yn seren

Dedfryd y gwylwyr awyrennau

Ar dân yn cerdded ar dân

Tymor y dathlu yng Ngwlad Groeg

Antur wrth gael gwared a char dros y ffin

Cyfarfod â Seren Thermi !

Canu'n iach â hen offeryn cerdd

Siom wrth ddychwelyd i Gymru

Sinema yn yr awyr iach

Balchder Cenedl

Cysur a hanes mewn rhes o fwclis

Rhamant yr wyau

Hwyl urddasol

Joch o'r Tebot

Gwe-fr e-steddfodol

Bendithio siop Yannis

Samos - ynys Pythagoras

Rygbi'n hudo'r Groegiaid

Rygbi'n gafael

Pencampwyr pêl-rwyd

Ennill Cwpan Ewrop

Arwyddion y Pasg

Wy coch ac oen rhost

Duwiau newydd - enwau newydd

Anrhydeddau Olympaidd

Y Campau Olympaidd yn cyrraedd adref

Yr arwyr yn fy nheulu

'Milwr bychan ydyw . . .'

Dathliadau Mawrth

Masticha - cnwd sy'n cydio

Marathon - y fwyaf o'r rasus

Hiraeth oddi cartref

Helyntion byd

Gweld y Fflam Olympaidd

Groeg - cael cynnig rhan mewn ffilm

Ffasiwn le

Cyrraedd copa'r byd

Chwifio baneri llwyddiant

Ymweliad brenhinol

Dylanwadau tramor

Gwlad Groeg - bore coffi Cymreig

Cymry Olympaidd

Dydi'r dathlu ddim yn darfod wedi'r Nadolig

Fy niwrnod yn y Gemau Olympaidd

Mwgwd, gwin a serch

Pryder y Groegiaid

Bendithio'r dyfroedd

Paradwys Ceffalonia

Carnafali

Dyfodol ansicr yr arth frown

Gwisg Genedlaethol Groeg

Etholiadau gwlad Groeg




About the 麻豆社 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy