麻豆社


Explore the 麻豆社

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Tramor

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf



Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



麻豆社 Homepage

Cymru'r Byd
» Tramor
Gogledd a Chanol America
De America
Ewrop
Affrica
Dwyrain Canol
Asia
Awstralasia a'r M么r Tawel

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb


Ynys Ceffolonia Paradwys Ceffalonia
Cymraes yn son am harddwch, hud a rhamant ynys Capten Corelli


Dydd Mawth, 29 Mai 200

Ynys Ceffalonia
Yn sgil poblogrwydd y ffilm Captain Corelli's Mandolin yn y sinemau y mae diddordeb arbennig y dyddiau hyn yn Ynys Ceffalonia oddi ar arfordir Gwlad Groeg.

Cymraes sydd wedi byw yng Ngwlad Groeg am 25 o flynyddoedd yw Lynda Ganatsiou ac yma y mae hi'n son am yr ynys sydd wedi swyno cynulleiddfaoedd y ffilm gyda'i harddwch:

Yng nghanol Môr Iona ar ochr orllewinol y tir mawr y mae Ynys Ceffalonia a'i 32,000 o drigolion.

Dyma'r fwyaf o'r saith ynys yn y rhanbarth yma sydd rhyw 700km sgwâr.

Ei chopa uchaf ydy mynydd Ainos, 5,341 troedfedd.

I'r gogledd iddi mae ynys Leffcadda ac i'r de, ynys Zacynthos neu Zante fel mae'n cael ei galw hefyd.

Enw'r ynys
Yn ôl pob tebyg mae'r enw Ceffalonia yn tarddu o Cefalos, arwr o Attica yn y de a fu'n ymladd ar yr ynys tua'r bumed ganrif cyn geni Crist.

Yn ôl un chwedl Roegaidd rhoddodd Brenin Ceffalonia, Amffirionas, yr ynys yn anrheg i'r Atheniad, Ceffalos, am iddo ei gynorthwyo i fwrw allan y Taffiaid brodorol a dyna sut y cafodd yr ynys ei henw.

Fodd bynnag, damcaniaeth arall yw mai o'r gair ceffales sy'n golygu mynyddig y daw'r enw.


Mae gweddillion hynafiaethol yn awgrymu gwareiddiad a ddatblygodd filoedd o flynyddoedd yn ôl gydag olion o bresenoldeb dynol yn dyddio cyn belled yn ôl a'r cyfnod Paleolithig.

Yn ystod cyfnod y Myceneaid roedd Ceffalonia yn lle llwyddiannus iawn gyda chysylltiadau ag ynysoedd cyfagos Ithaca a Leffcadda a hyd yn oed a'r Cycladdes bell.

Llosgfynydd
Daeth y cysylltiad i ben yn ddisymwth yn 1,500 o flynyddoedd CC - mwy na thebyg oherwydd ffrwydrad llosgfynydd ar ynys Santorini a achosodd ddinistr mawr.

Yr oedd hi ddwy ganrif yn ddiweddarach cyn y gwelwyd llewyrch unwaith eto ond ychydig iawn o wybodaeth sydd ar gael am y cyfnod rhwng yr unfed ganrif ar ddeg cyn Crist a'r seithfed ganrif CC.

Y ganrif wedyn, fodd bynnag, daeth yn ganolfan fasnach ym môr Ionia.

Nodweddion pennaf y bumed ganrif CC oedd datblygiad pedair tref bwysig, Crane, Pali, Pronoi a Sami (sy'n golygu lle uchel) ac sy'n nodedig am eu harfordir tlws heddiw.

Nid yn unig yr oedd gan y trefi yma eu llywodraeth eu hunain ond hefyd eu harian eu hunain.

Yr oedden nhw yn unedig oherwydd bygythiad gelynion cyffredin fel y Persiaid.

Rhufeiniaid a'r Normaniaid

Maeddwyd Ceffalonia gan y Rhufeiniaid 187 CC a'i darostwng i lywodraeth Byzantium rhyw chwe chanrif wedyn.

Yn 1082, methiant fu ymgais barwn Normanaidd, Guiscard, i feddiannu'r ynys ond parhaodd ymdrechion y Normaniaid drwy forladron Fenetiaidd nes i'r ynys syrthio o'r diwedd i ddwylo yr Orsinis yn 1185.

Yn 1483 dinistriwyd hi gan y Twrciaid ond fe'i hadferwyd yn 1500 gan y Fenetiaid a'i meddiannodd tan 1797 pan ei maeddwyd gan y Ffrancwyr dan arweiniad Napoleon.

Bu wedyn am gyfnod byr yn nwylo'r Rwsiaid ac wedyn y Twrciaid nes i Brydain eu trechu yn 1809.

Daeth rheolaeth Brydeinig i ben yn 1864 wrth i'r ynys ymuno â Groeg.

Daeargyn

Mewn daeargryn trychinebus yn 1953 difethwyd trefi a phentrefi cyfain gyda dim ond lleoedd yn y gogledd yn cael eu harbed. Lladdwyd 600 o bobl gan anafu miloedd.

Gyda saith deg y cant o'r adeiladau wedi eu chwalu bu'n rhaid ailadeiladu bron bopeth.

Ar y pryd, gadawodd llawer o'r trigolion yr ynys gan geisio bywyd gwell dramor.

Prif dref a phrif borthladd Ceffalonia er 1757 ydy Argostoli a godwyd ar arfordir mewnol yr orynys ond wedi daeargryn 1953 nid oedd ond ychydig o olion a dim ond un neu ddau o dai, pont fwa yn ymestyn dros y morlyn ac obelisg yn ei ganol sydd yn atgof o'r dyddiau gwell.

Sawl math o brydferthwch

Mae Ceffalonia yn ynys o wrthgyferbyniadau - traethau tawel di-wynt, llechweddau gwyrddlas, clogwyni sydd yn disgyn yn bensyfrdan i'r môr.

Mae ymwelwyr yn cael eu hudo yno gan yr amrywiaeth naturiol diderfyn o fôr, mynydd a gwastadeddau gwyrddion.

Yn sicr mae'r trigolion a'u llygaid ar greu diwydiant ymwelwyr ac wrth i fwy a mwy o letyau agor mae'r nifer o dwristiaid yn lluosogi'n gyflym.

Er gwaethaf y dylifiad blynyddol o ymwelwyr - Eidalwyr yn bennaf - mae'r ynys yn ddigon mawr ichi fedru dianc i lecynnau sydd mor unig y mae'n bosib treulio diwrnodau heb weld neb.

Gorchuddir yr olygfa arw o galchfaen gan goedwigoedd eang ac mae deg o gopaon.

Ogofeydd a cheudyllau

Cuddir ogofeydd anghyffredin a cheudyllau gan greigiau calchfaen sydd erbyn hyn ymhlith y prif atyniadau twristaidd.

Mae'r hinsawdd yn bêr gan ei gwneud yn atyniadol i grwydrwyr yn ogystal â thorheulwyr gyda chyfle i'r rhodwyr grwydro'r erwau mynyddig sydd wedi eu gorchuddio â choed tra bo'r torheulwyr yn manteisio ar y nifer o draethau.

Un o gyfrinachau gorau Groeg yw i'r ynys gael ei dewis y degfed lle mwyaf prydferth yn y byd!

Dyma rai o'r atyniadau:

Ogof Sant Ierassimos mae ogof nawddsant yr ynys ger mynachlog o'r un enw.

Nid oes dim mwy aruthrol a naturiol ar Geffalonia nag ogofeydd Drogarati gyda'r ogof fwyaf iasol yn 150 mil o flynyddoedd oed.

Mae'r llyn tanddaearol yn Melisani y llyn-ogof mwyaf trawiadol ar yr ynys gyda stalactidau 20,000 o flynyddoedd oed.

Trawiadol hefyd yw yr eglwysi a mynachlogydd niferus sydd yn sefyll mewn enbydrwydd ar glogwyni a phentrefi diamser.



Ynys CaffeloniaBun ddirgelwch i ddaearegwyr i blen union yr oedd y môr yn llifo trwy dyllau ger Argostoli nes i gwpwl o ddaearegwyr darganfod mai i lyn tanddaearol Melisani ar ochr arall yr ynys yr oedd y dwr yn llifo

Er gwaethaf ei thirlun creigiog y mae Ceffalonia ar yr un pryd yn un o ynysoedd mwyaf ffrwythlon Groeg gyda digonedd o law yn ystod y gaeaf.

Nid ywn syndod, felly, gweld y ffynidwydd syn arbennig ir ynys yn ffynnu ac y maer perllannau olewydd ar gwinllannoedd lluosog yn dystiolaeth o hyder yr ynyswyr mewn amaethyddiaeth cyn dyfodiad cymharol ddiweddar y twristaidd.

O bentref traddodiadol Fiscardo i bentref bach twristaidd Poros, a phentrefi swynol Lifatho (yr hudodd ei harddwch yr Arglwydd Byron am bedwar mis) mae Ceffalonia yn rhoi cip ar baradwys ir ymwelydd ym mhob congl.

Ymestyn craig fawreddog Ainos 5,341 troedfedd uwchben Môr Ionia gan gynnig golygfa fythgofiadwy nid yn unig or ynys ond or ynysoedd cyffagos.

Mae ir Mynydd Mawreddog neu Monte Nero fel yi gelwir gan y Fenetiaid, goedwig ffynidwydd heb ei hail.

Mae yma gannoedd o bentrefi a threfi bychain tlws syn gyfuniad o dai hardd a villas pitw a chanddynt flodau di-rif syn feddwad o liwiau ac arogleuon pêr.

Efallai mai dymar brydferthaf o ynysoedd Groeg.

Yn y sgwâr mawr ym mhentref Agona mae muriaur tai wedi eu haddurno â darluniau gwerin gan arlunydd lleol.

Ar ben Ainos yr oedd ceffylau enwog a rhagorol Ceffalonia yn byw gydau cyfuniad o nerth a rhyddid yn adlewyrchiad or balchder gwrthryfelgar sydd yn enaid yr ynys ei hun.

Bellach, dim ond deuddeg sydd ar ôl or anifeiliaid digyffelyb yma y tybir eu bod y rhywogaeth hynaf o geffylau anghyffredin.

Dyfodiad pobol y ffilm
Soniodd am garwriaeth ysgafn a gafodd gyda Maria Stamatatou - Pelagia yn y ffilm a chwaraeir gan Penelope Cruz.

Ychwanegodd mewn ffordd siriol, taw yr unig ffaith ddiddorol amdano oedd na wyddai sut i chwaraer mandolin!




ewrop

Gwlad Groeg
Ysblander y saffrwn

Dathlu'r Pasg yng Ngwlad Groeg

Dathlu'r Nadolig yng Ngwlad Groeg

Llythyr o Wlad Groeg

Cymraes yn dathlu'r Nadolig yng Ngwlad Groeg

Rhyfeddod y machlud

Cofio neges ewyllys da

Cyfnod twym yng Ngroeg

Llygedyn o obaith mewn byd o greulondeb

Dod yn agos at fod yn seren

Dedfryd y gwylwyr awyrennau

Ar dân yn cerdded ar dân

Tymor y dathlu yng Ngwlad Groeg

Antur wrth gael gwared a char dros y ffin

Cyfarfod â Seren Thermi !

Canu'n iach â hen offeryn cerdd

Siom wrth ddychwelyd i Gymru

Sinema yn yr awyr iach

Balchder Cenedl

Cysur a hanes mewn rhes o fwclis

Rhamant yr wyau

Hwyl urddasol

Joch o'r Tebot

Gwe-fr e-steddfodol

Bendithio siop Yannis

Samos - ynys Pythagoras

Rygbi'n hudo'r Groegiaid

Rygbi'n gafael

Pencampwyr pêl-rwyd

Ennill Cwpan Ewrop

Arwyddion y Pasg

Wy coch ac oen rhost

Duwiau newydd - enwau newydd

Anrhydeddau Olympaidd

Y Campau Olympaidd yn cyrraedd adref

Yr arwyr yn fy nheulu

'Milwr bychan ydyw . . .'

Dathliadau Mawrth

Masticha - cnwd sy'n cydio

Marathon - y fwyaf o'r rasus

Hiraeth oddi cartref

Helyntion byd

Gweld y Fflam Olympaidd

Groeg - cael cynnig rhan mewn ffilm

Ffasiwn le

Cyrraedd copa'r byd

Chwifio baneri llwyddiant

Ymweliad brenhinol

Dylanwadau tramor

Gwlad Groeg - bore coffi Cymreig

Cymry Olympaidd

Dydi'r dathlu ddim yn darfod wedi'r Nadolig

Fy niwrnod yn y Gemau Olympaidd

Mwgwd, gwin a serch

Pryder y Groegiaid

Bendithio'r dyfroedd

Paradwys Ceffalonia

Carnafali

Dyfodol ansicr yr arth frown

Gwisg Genedlaethol Groeg

Etholiadau gwlad Groeg




About the 麻豆社 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy