麻豆社


Explore the 麻豆社

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Tramor

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf



Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



麻豆社 Homepage

Cymru'r Byd
» Tramor
Gogledd a Chanol America
De America
Ewrop
Affrica
Dwyrain Canol
Asia
Awstralasia a'r M么r Tawel

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb


Rhyfeddod y machlud Rhyfeddod y machlud
Ac yr oedd Wil Morgan ymhlith y rhai a gymeradwyodd a chael gwahoddiad yn ôl eto fory!

Dydd Mercher, Tachwedd 8, 2000

Compo yng Ngwlad Groeg


Mewn Saesneg bratiog gwaeddodd y 'Compo' lleol a dau 'wag' arall ar y cannoedd ohonon ni oedd wedi cymeradwyo'n uchel y machlud uwchben rhaeadr o dai sgwar, gwyngalchog, ar glogwyni uchel ynys hudol ynys Santorini fel petai neb ohonon ni wedi gweld y fath beth erioed o'r blaen:

"Dowch yn ôl eto 'fory yr un peth, yn yr un lle, a'r un pryd!"


Ef oedd yn iawn wrth gwrs. Fel'na mae hi ar Ynysoedd Groeg. Haul tanbaid, awyr ddigwmwl o fora gwyn tan nos, a'r môr yn las, las.

Tywod du dan draed

Ond ar Santorini tywod du, folcanig, sydd dan eich traed ar y traethau - ond wrth ichi blymio dan wyneb y dwr, a'ch snorcel a'ch masg am eich pen, mae'r pysgod amryliw i'w gweld yn eglur mewn dwr glân a'i lesni eang yn ymestyn ymhell o'ch blaen.

Rhyw ddeuddeng milltir sydd yna o un pen i Ynys Santorini i'r llall a rhyw bedair milltir ar ei thraws. Hanner awr o daith mewn bws 'Crosville' unllawr, hen ffasiwn, a'r conductor yn dosbarthu tocynnau unigol o flwch pren pwrpasol.

Hen ddinas Atlantis

Yn ôl rhai archaeolegwyr, dyma safle dinas goll Atlantis, i'r gogledd o ynys Creta.

Ar ben clogwyni uchel y de mae gweddillion caer a dinas Hen Thira:
- teml Apollo a'i holion yn dyddio ganrifoedd cyn Crist yn rhoi gwefr i ddyn wrth gerdded heibio'i cholofnau crwn, bellach yn gorwedd ar y llawr;
- amffitheatr sydd â'r môr yn gefndir iddi fil o droedfeddi yn is,
- hebog yn hofran ar yr awel gynnes rhyngof a'r maes awyr lle mae rhesi o "adar" tipyn mwy yn rhuo rheibio bob rhyw ddeng munud.

Llosgfynydd yn ffrwydro

Gweld dinas Akrotiri, y bu archaeolegwyr yn ei dadorchuddio o'r lafa folcanig er 1967 gan ddangos yn eglur sut yr oedd yr ynyswyr yn byw 1,500 o flynyddoedd Cyn Crist, pan ffrwydrodd mynydd tanllyd a llyncu rhannau o'r ynys yn gyfan.

Bryd hynny lledodd ceudwll y mynydd tanllyd dros ddeugain milltir sgwar ar un ochr i'r ynys. Heddiw mae gweddillion ymylon y ceudwll hwnnw i'w gweld mewn hanner cylch o glogwyni sy'n codi'n serth dros fil o droedfeddi o'r môr.

Ac yno, fel eisin ar gacen ben-blwydd mae'r brifddinas, Thira Newydd, yn gafael yn dynn ar wyneb y graig.

Grisiau a thail asynnod!

Mae cannoedd o risiau i'w dringo o'r ddinas i'r porthladd. Ond ar gyfer y diog, mae rhes o fulod ac asynnod sy'n ddigon o ddychryn wrth iddyn nhw ruthro heibio a'ch gwasgu yn erbyn y wal os mai wedi penderfynu cerdded y llwybr cul, igam-ogam, ydych chi.

Y gamp fwyaf, fodd bynnag, yw peidio â rhoi eich traed yn y tail drewllyd sy'n britho'r grisiau cerrig.


Drewllyd braidd ydi'r llosgfynydd hefyd gyda labordy cemeg a wyau drwg dod i'r cof yn syth.

Mae'r môr mawr wedi llenwi ceudwll y llosgfynydd erbyn heddiw ond mae llosgfynyddoedd eraill wedi codi eto yn ei ganol y diweddaraf yn ystod pumdegau'r ganrif ddiwethaf.

Llosgfynydd sy'n dal i ffrwtian

I'r fan honno roeddwn i'n anelu ar fwrdd hen sgwner anferth, yng nghwmni tua chant o ymwelwyr, i weld llosgfynydd sydd, er yn dal i ffrwtian, yn ddiogel i'w ddringo.



Y Forwyn bluog!Creigiau duon sydd ym mhobman wrth i'r gadwyn o ddringwyr ddilyn yr arweinydd i'r copa. Ond, siomedig braidd oedd sylweddoli fod mwy o stêm yn codi o decell nag o'r ceudwll sy'n cael ei werthu' fel un "byw."

Ond o gyrraedd y copa ar ddiwrnod dathlu duw y losgfynydd, roedd hi'n werth y daith yng ngwres haul canol dydd dim ond i weld y forwyn bluog, liwgar, oedd yno i wneud yn siwr na fyddai'r stêm yn troi'n damchwa o leia yn ystod yr awr honno beth bynnag!


Hwylio ar wyneb y ceudwll oeddan ni, gan edrych i fyny i ben y clogwyni lle mae trefi bychain gwyngalchog yn disgleirio yn yr haul, fil o droedfeddi uwch ein pennau.

Ond dirgelwch i mi oedd gweld hanner dwsin o longau teithio crand wedi eu clymu â rhaffau wrth dri bwi.

Pam tybed nad oedd y llongau gwynion, anferth, hyn wedi gollwng angor?

Wedyn, pan oeddwn yn nofio yn y dwr y cefais yr ateb.

Dychryn mewn dyfroedd dyfion

Yn y cyfamser, trodd ein sgwner i gyfeiriad bae bychan ar ynys y tu ôl i'r mynydd tanllyd roedden ni newydd ei ddringo.

"Allai ddim mynd â'r llong fymryn yn agosach i'r lan na hyn!" cyhoeddodd y Capten drwy'r uchel-seinydd. "Os da chi isho mynd i drochi yn y dwr cynnes o'r llosgfynydd a rowlio yn y mwd llesol, bydd yn rhaid ichi nofio'r pedwar can llath o'r llong!" ychwanegodd.

Allwn i ddim peidio â mynd. Deifio i'r dwr, a nofio yng nghwmni rhyw ddeugain o bobol, a theimlo braidd fel un o ddilynwyr Mao Tse Tung yn Afon Yangtse ers talwm.

Y môr yn gynnes a llawn heli cryf wrth inni nofio'n hyderus tuag at y dwr brown yn ein gwahodd ni tua'r traeth a gweld eglwys wen, fechan, ar y lan.

Popeth yn nefolaidd, nes i'r gwr ifanc oedd yn ein hebrwng mewn cwch achub ddweud yn uchel: "Tybed ydych chi'n sylweddoli fod dyfnder y dwr yr ydych yn nofio ynddo, ddau gant wyth deg o droedfeddi!"

Welais i erioed bobol ar eu gwyliau yn nofio mor gyflym am eu bywyd!

Dwi'n siwr y byddwn i wedi cael medal o ryw fath pe byddwn i'n cystadlu yn Sydney ar y pryd.

Ta waeth, roedd y profiad o ymdrochi mewn dwr cynnes iawn a gorchuddio pob modfedd o'm corff mewn mwd folcanig, meddal, du, tua throedfedd o drwch yn brofiad bythgofiadwy.Mae'r lliw yn dal i fod yn leinin fy ngwisg nofio er gwaethaf sawl golchiad.
Ond bydd yn hir iawn cyn y byddaf yn anghofio'r braw a deimlwn wrth adael y mwd a'r dwr chwilboeth - a gorfod nofio'n ôl ar wyneb y fath ddyfnder i gyrraedd y sgwner!

Gwinllanoedd a gwin heb label

Gwinllanau sy'n britho'r rhan fwyaf o diroedd isaf, calchog, Santorini gyda gwinwydd cwta, bler yr olwg, yn tyfu yno.

Ond yn troi'n win blasus - o brynu potelaid gan un o'r hen ddynion wyneb-lledr a mwstas Stalinaidd, gwyn, a chap stabal am ei ben, sy'n eistedd yng nghysgod olewydd efo rhesiad o boteli, heb labelau, ar wal wen isel ger y traeth.

Ac yn eich gwahodd i brynu trwy fwmian "Vino!" yn isel.

Pobol groesawgar ydi trigolion Santorini ac mae'n braf gweld na lyncwyd y lle gan fasnach.

Twristiaeth yn ffon fara

Twristiaeth ydi'r ffon fara bwysicaf ac mae'n wir dweud bod y lonydd culion yn frith o sgwteri a motobeics er bod yna wasanaeth bysiau cyhoeddus rhagorol a rhad.

Yr hyn sy'n braf yw gweld yr ynyswyr eu hunain yn amlwg fwynhau cymdeithasu llawn cymaint ag unrhyw ymwelydd yn dawnsio mewn cylch gosgeiddig i swn mandolin a gitar gan chwerthin yn iach, fel y rhai y bu'n rhaid i minnau ymuno â nhw mewn dawns ar lan y môr yn Perissa.

Gartref, yng Nghymru, bum yn gwylio'r haul yn machlud o ben clogwyn yn Eryri y tro hwn.

Doedd 'na neb arall yno ar y pryd; a golygfa digon cyffrous oedd hi wrth i'r haul - gwantan braidd - foddi y tu ôl i gymylau llwydion cyn diflannu.

Cofiais am 'Compo' ar glogwyn uchel arall yn Santorini yn gwneud sbort am ein pennau'n cymeradwyo yr un haul yn mynd i'w wely dros orwel y Môr Egeaidd.

Yn anffodus, ngwas i, fedrit ti ddim dweud be ddwedais ti bryd hynny yma achos dim ond ar ambell i gyfnod hudolus ar ambell i ddiwrnod prin - ambell i haf - mae'r rhyfeddod i'w weld!




ewrop

Gwlad Groeg
Ysblander y saffrwn

Dathlu'r Pasg yng Ngwlad Groeg

Dathlu'r Nadolig yng Ngwlad Groeg

Llythyr o Wlad Groeg

Cymraes yn dathlu'r Nadolig yng Ngwlad Groeg

Rhyfeddod y machlud

Cofio neges ewyllys da

Cyfnod twym yng Ngroeg

Llygedyn o obaith mewn byd o greulondeb

Dod yn agos at fod yn seren

Dedfryd y gwylwyr awyrennau

Ar dân yn cerdded ar dân

Tymor y dathlu yng Ngwlad Groeg

Antur wrth gael gwared a char dros y ffin

Cyfarfod â Seren Thermi !

Canu'n iach â hen offeryn cerdd

Siom wrth ddychwelyd i Gymru

Sinema yn yr awyr iach

Balchder Cenedl

Cysur a hanes mewn rhes o fwclis

Rhamant yr wyau

Hwyl urddasol

Joch o'r Tebot

Gwe-fr e-steddfodol

Bendithio siop Yannis

Samos - ynys Pythagoras

Rygbi'n hudo'r Groegiaid

Rygbi'n gafael

Pencampwyr pêl-rwyd

Ennill Cwpan Ewrop

Arwyddion y Pasg

Wy coch ac oen rhost

Duwiau newydd - enwau newydd

Anrhydeddau Olympaidd

Y Campau Olympaidd yn cyrraedd adref

Yr arwyr yn fy nheulu

'Milwr bychan ydyw . . .'

Dathliadau Mawrth

Masticha - cnwd sy'n cydio

Marathon - y fwyaf o'r rasus

Hiraeth oddi cartref

Helyntion byd

Gweld y Fflam Olympaidd

Groeg - cael cynnig rhan mewn ffilm

Ffasiwn le

Cyrraedd copa'r byd

Chwifio baneri llwyddiant

Ymweliad brenhinol

Dylanwadau tramor

Gwlad Groeg - bore coffi Cymreig

Cymry Olympaidd

Dydi'r dathlu ddim yn darfod wedi'r Nadolig

Fy niwrnod yn y Gemau Olympaidd

Mwgwd, gwin a serch

Pryder y Groegiaid

Bendithio'r dyfroedd

Paradwys Ceffalonia

Carnafali

Dyfodol ansicr yr arth frown

Gwisg Genedlaethol Groeg

Etholiadau gwlad Groeg




About the 麻豆社 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy