麻豆社


Explore the 麻豆社

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Tramor

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf



Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



麻豆社 Homepage

Cymru'r Byd
» Tramor
Gogledd a Chanol America
De America
Ewrop
Affrica
Dwyrain Canol
Asia
Awstralasia a'r M么r Tawel

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb


Cydio yn y bêl hirgron Rygbi'n hudo'r Groegiaid
Lynda Ganatsiou yn sôn am yr ymdrechion i gyflwyno rygbi i'r Groegiaid.

A minnau'n edmygu un o luniau merch o Loegr mewn arddangosfa gelf yn un o westai gorau Thessaloniki daeth dyn ataf a chyflwyno ei hun.

Nick Clarke oedd ei enw ac o siarad ag ef sylweddolais mai acen De'r Affrica oedd ganddo.

Dywedodd iddo fynychu'r arddangosfa gan obeithio y byddai gan y menywod o dras Prydeinig oedd yn bresennol feibion oddeutu deunaw oed!

Ei obaith oedd perswadio'r bechgyn hyn i ymddiddori mewn rygbi.

Dywedais wrtho mai o Gymru yr oeddwn i'n wreiddiol ac imi ymweld â De Affrica pan oedd y Llewod Prydeinig yn chwarae yno yn '74.

Pwy fyddai wedi meddwl yr adeg honno y byddwn i, menyw o Gymru, yn trafod rygbi gyda dyn o Dde Affrica ym mherfeddion Gwlad Groeg yr holl flynyddoedd wedyn?

Glynu fel gelen
Pan sylweddolodd fod gennyf innau fab o'r oed iawn roedd yn awyddus iawn i'w rwydo i mewn!

A phan glywodd i Andreas fynychu prifysgol Abertawe cymrodd yn ganiataol y byddai'n hyddysg iawn yn y gêm.

Â'r gath yn awr allan o'r cwd, glynodd wrthyf fel gelen gan gredu iddo ddarganfod gem!

Fodd bynnag, eglurais na fyddai Andreas ar gael am flwyddyn a hanner oherwydd gwasanaeth milwrol ond, â'r brwdfrydedd yn ffrydio yn ei waed, ni welai Nick unrhyw anhawster yn hynny ac yntau mor anfodlon i adael i'r enghraifft berffaith hon lithro o'i afael.

Rhoddodd ei gerdyn imi gyda siars i gysylltu ag ef ar ôl imi siarad ag Andreas.

Llwyddiannau fyrdd
Yn dilyn holl lwyddiannau'r Groegiaid eleni nid oes dim all dorri eu calon bellach:
Tîm o ddringwyr yn cyrraedd copa'r byd fis Mai.

Ein tîm pêl-droed yn ennill Ewro 2004.

Ac wedyn yr hwb fawr o lwyfannu'r Gemau Olympaidd a Pharaolympaidd.

Yn sgil hyn oll, penderfynwyd mai da o beth fyddai cynnwys y bêl hirgron ar y rhestr o bethau i'w concro nesaf!

Dweud a gwneud!
Ganol y mis diwethaf bu rownd agoriadol o gemau yn y brifddinas - cam cyntaf undeb dibrofiad sy'n gobeithio y bydd hyn yn arwain at gemau rhyngwladol.

A phwy a ŵyr, lle yng ngornestau Cwpan Rygbi'r Byd rhyw ddydd!

Yn wir, gobeithir cael tîm cenedlaethol yn barod erbyn y flwyddyn newydd ond rhaid yn gyntaf fydd cael ein derbyn gan y Bwrdd Rygbi Rhyngwladol.

I sicrhau hynny bydd yn rhaid wrth dîm cenedlaethol a all gystadlu â gwledydd eraill.

Y clwb cyntaf
Hir pob aros, a bu sefyll yn hir cyn cael undeb oedd wedi'i drefnu'n iawn.

A dweud y gwir, sefydlwyd y clwb cyntaf yng Ngroeg - yr Athens Spartans, yn ôl yn 1982, ond chwarae yn erbyn criwiau'r llongau oedd yn ymweld â'r lle oedd y Spartans gan deithio yn Ewrop yn unig.

Chwilio am chwaraewyrAc i'r Spartans roedd y cwrw cyn bwysiced, os nad pwysicach, na'r gêm ei hun!!

Yr wythnos diwethaf cefais fy syfrdanu o weld hysbyseb yn y papur newydd yn sôn am sesiwn ymarfer y Spartans gyda rhif ffôn i rai gyda diddordeb gysylltu.

O ddifrif
Heb amheuaeth, mae rygbi'n cael ei gymryd yn fwy o ddifrif y dyddiau hyn ac o'r diwedd mae ganddyn nhw sesiynau ymarfer cyson, bagiau yn cynnwys yr offer a thaclau a nawdd gan gwmnïau.

Er bod y gêm yn dal yn ei babandod, gyda physt gôl yn cael eu codi dros dro cyn pob gêm, mae pethau yn gwella.

Yn nhref Thessaloniki sefydlwyd y Thessaloniki Spartacus ac ymhen y misoedd nesaf gobeithir gweld cychwyn y Colossi o Rhodes.

Ar ben hyn mae yna ddau dîm dan 18 oed.

Fodd bynnag, ymhlith aelodau o brif genhedloedd rygbi'r byd y mae'r chwarae yn ffynnu ac ofnir na fydd digon o frwdfrydedd ymhlith y Groegiaid eu hunain er cymaint o newid a welwyd yn agwedd y bobl tuag at chwaraeon yn gyffredinol yn dilyn llwyddiant yn y gemau Olympaidd.

Yn sydyn, deffrowyd y wlad i feddwl; "Rydym ni gystal mewn chwaraeon ag unrhyw wlad arall."

A hwythau'n chwilio am rywbeth newydd, maent wedi sylweddoli nad yw rygbi mor anwar ag yr ymddengys ar y teledu.

Beth bynnag, maent yn caru chwaraeon caled yn gyffredinol a does dim rheswm yn y byd, felly, pam na all rygbi lwyddo yma - yn enwedig pan ystyrir mai Groegiaid pur yw oddeutu 60% o'r chwaraewyr.

Yr ysgolion
Erbyn hyn, chwaraeir y gêm mewn o leiaf ddeg o ysgolion preifat ac mae'r llywodraeth yn trafod ei chyflwyno i'r ysgolion cyffredin.

A chyda llawer o Roegiaid wedi mynychu prifysgolion ym Mhrydain mae ganddyn nhw rywfaint o dealltwriaeth o'r gêm yn barod.

Maen nhw'n obeithiol iawn ei bod yn gêm fydd yn apelio at y bobl ac yn gêm fydd yn gwreiddio yma maes o law.

Gobeithio y mae ei chefnogwyr na ddigwydd yr un peth i rygbi ac a ddigwyddodd i bêl-fas a ddaeth yma gyda'r gemau Olympaidd ond a fu farw'n syth wedyn.



Cefnogwyr CymreigEfallai, gyda'r rheolwyr cywir, y gall rygbi fod yn gymaint o gêm a phêl-foli sy'n cael ei hystyried yn gêm fawr yma yng Ngroeg gyda dilynwyr ffyddlon ac a ystyrir yn drydydd o ran poblogrwydd yn dilyn pêl-droed a phêl-rwyd.

Y freuddwyd fawr yw cael y stadiwm Olympaidd yn orlawn i weld Gwlad Groeg yn curo Lloegr yng ngêm derfynol Cwpan y Byd!

Yn y cyfamser rhaid efelychu'n gyntaf y cynnydd a welwyd mewn gwledydd fel Rwmania, Georgia ac, wrth gwrs, yr Eidal, sydd bellach yn cystadlu ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad.

Bu'r Eidalwyr yn chwarae am dros hanner can mlynedd y Groegiaid ond ers dwy flynedd o ddifrif!

Bydd yn llwybr caled ond pwy a ŵyr na allant gyrraedd yr un pinacl a Chymru rhyw ddydd.
A fo ben bid bont!





ewrop

Gwlad Groeg
Ysblander y saffrwn

Dathlu'r Pasg yng Ngwlad Groeg

Dathlu'r Nadolig yng Ngwlad Groeg

Llythyr o Wlad Groeg

Cymraes yn dathlu'r Nadolig yng Ngwlad Groeg

Rhyfeddod y machlud

Cofio neges ewyllys da

Cyfnod twym yng Ngroeg

Llygedyn o obaith mewn byd o greulondeb

Dod yn agos at fod yn seren

Dedfryd y gwylwyr awyrennau

Ar dân yn cerdded ar dân

Tymor y dathlu yng Ngwlad Groeg

Antur wrth gael gwared a char dros y ffin

Cyfarfod â Seren Thermi !

Canu'n iach â hen offeryn cerdd

Siom wrth ddychwelyd i Gymru

Sinema yn yr awyr iach

Balchder Cenedl

Cysur a hanes mewn rhes o fwclis

Rhamant yr wyau

Hwyl urddasol

Joch o'r Tebot

Gwe-fr e-steddfodol

Bendithio siop Yannis

Samos - ynys Pythagoras

Rygbi'n hudo'r Groegiaid

Rygbi'n gafael

Pencampwyr pêl-rwyd

Ennill Cwpan Ewrop

Arwyddion y Pasg

Wy coch ac oen rhost

Duwiau newydd - enwau newydd

Anrhydeddau Olympaidd

Y Campau Olympaidd yn cyrraedd adref

Yr arwyr yn fy nheulu

'Milwr bychan ydyw . . .'

Dathliadau Mawrth

Masticha - cnwd sy'n cydio

Marathon - y fwyaf o'r rasus

Hiraeth oddi cartref

Helyntion byd

Gweld y Fflam Olympaidd

Groeg - cael cynnig rhan mewn ffilm

Ffasiwn le

Cyrraedd copa'r byd

Chwifio baneri llwyddiant

Ymweliad brenhinol

Dylanwadau tramor

Gwlad Groeg - bore coffi Cymreig

Cymry Olympaidd

Dydi'r dathlu ddim yn darfod wedi'r Nadolig

Fy niwrnod yn y Gemau Olympaidd

Mwgwd, gwin a serch

Pryder y Groegiaid

Bendithio'r dyfroedd

Paradwys Ceffalonia

Carnafali

Dyfodol ansicr yr arth frown

Gwisg Genedlaethol Groeg

Etholiadau gwlad Groeg




About the 麻豆社 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy