麻豆社


Explore the 麻豆社

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Tramor

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf



Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



麻豆社 Homepage

Cymru'r Byd
» Tramor
Gogledd a Chanol America
De America
Ewrop
Affrica
Dwyrain Canol
Asia
Awstralasia a'r M么r Tawel

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb


Kate Ymlacio a dysgu termau newydd

Diwedd yr haf a chyfnod Kate yn y gwersyll yn dod i ben.

Dydd Mercher, Hydref 31 2001

Mae Kate Jones o Grughywel yn treulio cyfnod yn America yn gweithio mewn gwersyll i blant. Yma, mae'n rhannu ei phrofiadau gyda darllenwyr 麻豆社 Cymru'r Byd.

Erbyn diwedd yr haf mae'r tywydd yma yn New Hampshire yn fwy sefydlog ac yn llai stormus; fel petai'r awyr wedi ffeindio patrwm sy'n plesio pawb o'r diwedd. Yn bendant rydan ni, y counselors, wedi setlo ac yn medru ymlacio i ryw raddau.


Rwyf wedi altro fy ngeirfa i fedru cyfathrebu'n well â'r plant sy'n cynnwys dweud all set yn lle ready, line yn lle queue a two weeks yn lle fortnight, sy'n cael ei ystyried yn dra llenyddol - os ydyn nhw'n gyfarwydd â'r gair o gwbl.

Mae'r plant wrth eu boddau yn dysgu termau slang newydd imi gan fod fy acen yn swnio'n wirion bost wrth ddweud word to yo' Motha a shake yo' booty! Rwyf wedi arfer bellach efo'u defnydd o wahanol arddodiaid i gyfleu'r un peth ac weithiau maen nhw'n hepgor yr arddodiad yn gyfan gwbl, er enghraifft, write (to) me.

Mwy profiadol
Fe ymddengys fod y plant gwyllt, neu mi ddylwn i ddweud "y rhai sydd ag issues" wedi bod am yr haf hwn. Neu, yn hytrach, mae'r raddfa'n gallach - 1 o bob 10 merch, yn lle 1 o bob 3. Hefyd rydan ni'n fwy profiadol i ddelio gyda nhw; mae pawb yn fwy cyfforddus yng nghwmni ei gilydd.

Does dim dianc o'r ffaith eich bod chi yng nghanol coed ac anifeiliaid gwyllt ac yn wirioneddol ar eu tir nhw. Mae llygod wedi nythu a magu eu rhai bychain yng nghornel sawl caban. Hefyd mae ystlumod yn byw uwch ein pennau ac yn hedfan allan i chwilota am fwyd bob nos.

Darganfyddais dyllau mawr mewn sawl dilledyn cyn bod yn fwy gofalus o'r herwydd. Wrth reswm, oherwydd polisïau'r gwersyll, dydan ni ddim yn cael lladd yr un anifail sy'n siom i'r genod o Wlad Pwyl; maen nhw'n cymryd y peth yn bersonol ac eisiau eu lladd nhw i gyd.




Seremoni'r fanerSeremoni'r Faner
Bob dydd ar ôl te ceir Seremoni'r Faner. Mae pawb o'r gwersyll yn mynd allan a sefyll o amgylch y polyn, saliwtio, tra bod rhai o'r genod yn tynnu'r faner i lawr. Ni ddylai'r faner fyth gyffwrdd y llawr ond gan mai plant saith oed oedd yn gwneud weithiau roedd sawl "Wps".

Does dim amheuaeth cymaint mai'r Americanwyr yn caru eu gwlad. A fedrwch chi ddychmygu ymateb pobl petai ysgolion Cymru'n mynnu fod eu plant yn saliwtio baner Cymru bob dydd? Peth nesa' bydd pobl yn awgrymu y dylech chi ddysgu'r anthem genedlaethol!

Mi fues i'n ffodus i gael fy newis i arwain sawl taith gerdded a chanwio - yn cynnwys y daith olaf i lyn Winnipesaukee, sef llyn mwyaf New Hampshire. Roedd angen trefnu a phacio digon o ymborth a dwr am bum niwrnod. Roedd y daith yn ardderchog gan fod y tywydd yn sych a'r plant yn hyn (rhyw bedair ar ddeg oed). Doedd dim angen cadw trefn arnynt.

Popeth yn fwy yn America
Ymadrodd poblogaidd ydi fod "popeth yn fwy yn 'Merica" ond, wel, mae o'n wir. Mae'r llyn yma'n anferth ac yn fwy nag unrhyw beth sydd gennym ni yng Nghymru. Ond eto, mae'r llyn yma yn bitw o'i gymharu â llynnoedd enwog America: Ontario, Superior, Michigan ac Erie. Mae Lake Winnipesaukee yn 72 o filltiroedd sgwâr ac yn cynnwys 274 o ynysoedd.
Fe wnaethon ni badlo o ynys i ynys a gwersylla lle bynnag y cawson ni le. Roedd y daith yn wych ac fe welais i dai ofnadwy o foethus ar lannau'r llyn - a thai haf oedd y rheiny.

Yn anffodus gan ei bod hi'n ganol haf, a'r llyn fel lle chwarae i oedolion, roedd gormod o gychod cyflym o gwmpas a oedd yn creu cryn dipyn o helynt efo olion eu cychod, neu eu wakes. Mi fuasai troi'r canws drosodd wedi bod yn drychineb am fod ein heiddo a'n lluniaeth ynddynt.

Dilyn eu trwynau
Fe rwyfon ni ryw bymtheg milltir bob dydd - rial dilyn ein trwynau. Ffordd berffaith i ddiweddu'r haf; roedd fy ngwallt yn oleuach o lawer a 'nghroen yn frown - hyd yn oed os mai dim ond blaen fy nghoesau oedd wedi dal yr haul!
Wedyn roedd rhaid cau'r gwersyll am y gaeaf a ffarwelio â'm cydweithwyr. Roedd yn syndod pa mor agos oedden ni ar ôl yr haf ac mi wnes i ffrindiau da iawn. Rwan mae gen i gysylltiadau dros y byd ac rwyf yn benderfynol o fynd i ymweld â'm cyfeillion rhyw ddydd.

Felly ar ddiwedd y cyfnod yma roeddwn i'n all set i fentro i weddill New England nes mod i wedi gwario fy mhres i gyd. Taith fer fydd hi felly, gwaetha'r modd.





ewrop

Unol Daleithiau America
Barddoniaeth mewn maen a phren

Gŵyl Dewi 2007
Taffia Chicago


Profiad Cymro ym
Marathon Boston


Ceisio cerflun i Madog

Dysgu Cymraeg ym
mro John Wayne!


Dathlu yng Nghwm Jones!.

Aloah Hawaii

Hawaii: Rhywbeth i bawb yn Kauai

Cwyn Cymry Arizona am y Wall Street Journal

Cofio Goronwy ymhell o gartref

Etholiad America

Lobsgows etholiadau'r Unol Daleithau

Dysgu Cymraeg yng nghefn gwlad Efrog Newydd

Cymraes yn Chicago

Dosbarth Cymraeg Pittsburgh

Cyfarchion o Siapan, Dubai a'r America

Dathlu Gwyl Dewi yng Ngwlad y Chwys...

Ci'r Cymry fu'n nofio gydag Arlywydd America

Cymdeithas Gymraeg yn yr Unol Daleithiau

Côr sy'n uno cyfandir

Neges Gŵyl Dewi Bush!

'Pawb a'i Farn' yn Efrog Newydd

Cynghrair Gymraeg Arizona

Ymlacio a dysgu termau newydd

Ar yr hewl yn America

Ymgartrefu mewn ardal gyfeillgar

Etholiad Arlywyddol 2004

Dilyn yr etholiad

Cyhoeddi buddugoliaeth

Galwadau ffôn wrth y miloedd

Dilyn yr etholiad - 3

Dilyn yr etholiad arlywyddol

Aled Edwards yn yr America




About the 麻豆社 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy