麻豆社


Explore the 麻豆社

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Tramor

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf



Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



麻豆社 Homepage

Cymru'r Byd
» Tramor
Gogledd a Chanol America
De America
Ewrop
Affrica
Dwyrain Canol
Asia
Awstralasia a'r M么r Tawel

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb


Kate gyda merched y gwersyll Ymgartrefu mewn ardal gyfeillgar

Llythyr o America gan Kate Jones

Dydd Llun, Awst 20

Mae Kate Jones o Grughywel yn treulio cyfnod yn America yn gweithio mewn gwersyll i blant. Yma, mae'n rhannu ei phrofiadau gyda darllenwyr 麻豆社 Cymru'r Byd.

pythefnos wedi mynd heibio ers i mi gyrraedd New Hampshire yn yr Unol Daleithiau ac rydw i wrth fy modd yma.

I brofi'r pwynt yn llwyr rwyf wedi sgwennu hyn ar ddoc, neu jeti bach, ar lan llyn yng nghanol coedwig. Mae'r adar yn canu eu caneuon anghyfarwydd ac mae dwr y llyn yn taro'n ddistaw bach yn erbyn pren y doc. Mae'r cymylau'n isel a sudda'r haul y tu ôl i'r mynyddoedd sy'n creu cysgodion hirion hudolus o 'mlaen. Llonydd yw'r llyn heno.

Mi benderfynais roi'r gorau i'm swydd, a oedd yn ddigon difai, i fentro dramor am sbel. 'Merica amdani gynta felly a'r haf yma fe fydda i'n gweithio mewn gwersyll i blant.

Newydd gael fy mhenblwydd yn 25 ydw i ac, a dweud y gwir, dwi wedi cael fy nychryn gan ffrindiau o'r un oed sydd wedi dilyn y drefn.

Pobol gallach na fi ydyn nhw mae'n siwr sydd wedi gadael coleg, cael swydd, prynu ty a setlo. Fedra i ddim ond teimlo eu bod wedi colli eu fflam rhywsut.

Mid-life crisis cynnar
Dwi'n cael mid-life crisis cynnar iawn os mynnwch ond bobol bach mae bywyd yn fyr.

Mae gwersylloedd yn yr Unol Daleithiau yn dipyn mwy nac yng Nghymru. Maen nhw'n fwy na Glan Llyn a Llangrannog gyda chyfleusterau eitha ffantastig o ystyried eu bod 'mond yn cael eu defnyddio am ryw ddeg wythnos bob haf.



Merch yn chwarae efo'r parachuteMae cyfle i ganwio, cerdded, marchogaeth, nofio a gwneud gweithgareddau awyr agored eraill, yn ogystal â drama, arlunio ac yn y blaen.

Yn y gwersyll lle dwi'n gweithio rydym ni'n canolbwyntio ar weithgareddau felly. Mae'r plant yn wych ar y cyfan ond am y sesiwn gynta' pan gawsom ni blant eitha' gwyllt.

Sioc diwylliannol
Nid yw plant 'Merica'n wahanol i blant eraill am wn i. Er bod rhaid dweud bod eu safon byw'n uwch na llawer o bobol os ydyn nhw'n dod o gyrion y dinasoedd. Ond pan ddaw'r plant o ganol y dinasoedd mae 'na gryn dipyn o sioc diwylliannol.

Maen nhw'n cyfathrebu trwy weddi a defnyddio eu dwylo. O leiaf unwaith bob dydd roeddwn i'n teimlo fel pe bawn i ar raglen Jerry Springer.

Mae ngeirfa i wedi tyfu ac ehangu ers i mi fod yma. Yn ogystal â dysgu tafodiaith sarhaus America, rydw i wedi ychwanegu sawl gair newydd at yr iaith Gymraeg! Peth byw yw iaith, dyna ddweda i.

Delwedd wael
Yn anffodus mae'r Americanwyr yn llwyddo i greu delwedd wael iddyn nhw'u hunain trwy gynhyrchu ffilmiau a chyfresi am droseddwyr y wlad a phethau drwg eraill fel lladd, dwyn ac yn y blaen.

Os ydych chi wedi darllen gwaith nofelwyr y genedl hwyrach y bydd gennych chi ddarlun gwell. Mewn gwirionedd, ac yn gyffredinol, mae'r wlad a'r bobol i'r gwrthwyneb. Mae pawb mor ofnadwy o glên a ffeind fel eich bod chi'n ddrwgdybus ohonyn nhw. Maen nhw'n codi ofn arnoch chi hyd yn oed.

Mae gen i gymaint o enghreifftiau'n barod nes ei bod hi'n anodd dewis.

Ddoe fe es i i'r diner Americanaidd yma yn y dre agosaf (diner go iawn sy'n cynnig bwyd poeth, seimllyd, rhad, prysur ac yn gwerthu damned fine coffee) ac yn gorfod rhanu bwrdd efo'r hen ddyn yma.

Doedd dim byd yn amheus am y sefyllfa, roedd o'n rial cymeriad Grampa Walton. Fe siaradom ni am ryw dri chwarter awr am ein teuluoedd, ein gwledydd a ballu - a dyna fo.

Dim cyfle i ddiolch
Mi aeth yntau, ac ar ôl sgwennu llythyr at ffrind, mi es innau. Ond pan es i at y cownter i dalu, roedd fy nghyfaill newydd wedi'i wneud yn barod. Ches i ddim cyfle i ddiolch na dim byd.

O fewn 15 munud roeddwn i wedi cyrraedd swyddfa bôst ac wedi cyfarfod dwy ddynes oedd yn gwerthu tocynnau raffl.

Wrth gwrs mi brynais i docyn am ddoler ac fe holon nhw o lle roeddwn i'n dod oherwydd yr acen. Roedd un ohonyn nhw'n dod o Rhyl ac wedi gadael Cymru fach yn 19 oed.

Wedyn dyma dynes arall yn pasio ac roedd ei gwr yn dod o Dredegar, rhyw 10 milltir i lawr y lôn o'm cartref. Byd bach ynte? Rydw i'n disgwyl galwad ffôn unrhyw ddiwrnod ganddyn nhw yn fy ngwahodd draw i gael pryd efo nhw.

Lle gwledig, cyfeillgar

Rhaid cyfaddef fy mod i'n byw mewn ardal sy'n wledig iawn ac mae'r tai yn dai gwyliau yn y rhan yma o New Hampshire.

Yn y gaeaf mae'r tai yn cael eu defnyddio gan bobol sydd am sgïo ac yn yr haf mae pobol yn dod yma i hwylio, canwio a cherdded.

Lle cyfeillgar iawn, mae'n siwr, gan fod pawb yn ymlacio yma. Mi soniais i gynt am y doc lle'r oeddwn i'n eistedd ar lan y llyn. Digwydd pasio'r tai yma wnes i, wedyn dewis doc da a gofyn am gael eistedd arno gan fod yr eiddo i gyd o amgylch y llyn yn breifat.

Mi wnaeth y dieithriaid yma roi caniatâd, chwarae teg, wedyn cynnig diod, bwyd, gwahoddiad i barti, caniatâd i ddefnyddio eu doc unrhyw bryd a choeliwch chi fyth - cynnig cael defnyddio eu ty ar benwythnosau pan nad ydyn nhw yno.

Maen nhw'n fy nhrystio efo'u ty ar ôl fy nabod am awr! A wir yr maen nhw'n ei feddwl o hefyd.

Codi pac
Erbyn hyn mae'r haul wedi machlud, mae'r moscitos yn fy mwyta'n fyw ac mae hi'n eitha oer. Mae'r lleuad a'r sêr yn glir yn yr awyr ddu. Does dim swn yn dod o'r llyn gan fod y pysgotwyr wedi glanio am y noson. Mae ystlumod yn chwifio heibio yn prysur wledda ar bryfaid ac rydw i'n codi fy mhac i ddychwelyd tua'r gwersyll eto.

Mae'n siwr y bydd y plant yn effro am 5.30 yn y bore eto felly cwsg fuasai orau.

Os ydw i'n lwcus, os bydd y plant wedi tawelu ers amser, fe fydda i'n medru gweld ceirw yn pori o ffenestr fy nghabin eto.

Mae yna lot o anifeiliaid gwyllt yn yr ardal ond does 'na ddim eirth diolch byth yn wahanol i'r gwersyll diwetha fues i ynddo bedair blynedd yn ôl.

Rydw i'n teimlo fel pe bawn i wedi ymgartrefu'n dda yma. Mae pawb yn codi llaw wrth basio ar y stryd neu mewn cerbyd sy'n gwneud i mi deimlo fel rhywun lleol yn barod.

Wrth gwrs rydw i'n colli nheulu a'm ffrindiau ond mae'r profiad yn un gwerthfawr ac eitha byr hefyd - sy'n debyg iawn i fywyd yn gyffredinol - ew dwys te!


Ydych chi o Gymru ac yn byw dramor?
Anfonwch eich hanes i'r ddalen hon a chreu cysylltiad gyda Chymry tramor eraill drwy Gymru'r Byd.




ewrop

Unol Daleithiau America
Barddoniaeth mewn maen a phren

Gŵyl Dewi 2007
Taffia Chicago


Profiad Cymro ym
Marathon Boston


Ceisio cerflun i Madog

Dysgu Cymraeg ym
mro John Wayne!


Dathlu yng Nghwm Jones!.

Aloah Hawaii

Hawaii: Rhywbeth i bawb yn Kauai

Cwyn Cymry Arizona am y Wall Street Journal

Cofio Goronwy ymhell o gartref

Etholiad America

Lobsgows etholiadau'r Unol Daleithau

Dysgu Cymraeg yng nghefn gwlad Efrog Newydd

Cymraes yn Chicago

Dosbarth Cymraeg Pittsburgh

Cyfarchion o Siapan, Dubai a'r America

Dathlu Gwyl Dewi yng Ngwlad y Chwys...

Ci'r Cymry fu'n nofio gydag Arlywydd America

Cymdeithas Gymraeg yn yr Unol Daleithiau

Côr sy'n uno cyfandir

Neges Gŵyl Dewi Bush!

'Pawb a'i Farn' yn Efrog Newydd

Cynghrair Gymraeg Arizona

Ymlacio a dysgu termau newydd

Ar yr hewl yn America

Ymgartrefu mewn ardal gyfeillgar

Etholiad Arlywyddol 2004

Dilyn yr etholiad

Cyhoeddi buddugoliaeth

Galwadau ffôn wrth y miloedd

Dilyn yr etholiad - 3

Dilyn yr etholiad arlywyddol

Aled Edwards yn yr America




About the 麻豆社 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy