Ym mis Mawrth 2005 sefydlwyd Dosbarth Dysgu Cymraeg gan Gymdeithas Dewi Sant Pittsburgh.
Yn ystod y sesiwn gyntaf bu'r dosbarth yn dilyn rhaglen Catchphrase y 麻豆社 dros gyfnod o ddeg wythnos.
Erbyn hyn rydyn ni ar ein trydedd sesiwn ac yn defnyddio'r llyfr Welcome to Welsh gan Heini Gruffudd. Mae'r nifer yn y dosbarth yn dal i gynyddu. Ar hyn o bryd mae gyda ni tua 13 aelod. Mae'r aelodau'n dysgu Cymraeg am amrywiol resymau. Mae rhai wedi darganfod fod eu cyndeidiau'n Gymry, mae un aelod wedi priodi Cymro sy newydd symud i'r Unol Daleithiau, tra mae eraill wedi'u hudo gan ddiwylliant Cymru, y bobl ac, wrth gwrs, yr iaith.
Rhob Evans, siaradwr Cymraeg a ddysgodd Saesneg fel ail iaith, yw ein tiwtor. Ganwyd Rhob yn Aberystwyth ac fe'i magwyd ym mhentrefi cyfagos Penuwch a Llanilar, lle'r oedd mwyafrif y boblogaeth yn siarad Cymraeg. Ar ôl cyfnod yn astudio biocemeg, daeth draw i Ogledd America ym 1974. Bu'n byw yn Indiana, California, Ottawa ac Ohio cyn symud i Pittsburgh ym 1985. Mae'n aelod o staff Prifysgol Pittsburgh. Cymraes yw ei wraig, Liz, ac mae ganddynt bedwar o blant: Idris, Rhiannon, Eleri a Teyrnon, a thri chorgi Sir Benfro: Gwen, Dewi a Myfi.
Beth am anfon gwybodaeth am eich gweithgareddau Cymraeg chwi mewn gwledydd tramor. Clicio i anfon e-bost - gan roi'r pennawd "Tramor" iddo.
|