麻豆社


Explore the 麻豆社

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Tramor

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf



Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



麻豆社 Homepage

Cymru'r Byd
» Tramor
Gogledd a Chanol America
De America
Ewrop
Affrica
Dwyrain Canol
Asia
Awstralasia a'r M么r Tawel

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb


Gorsedd y Beirdd! Dysgu Cymraeg ym
mro John Wayne!

Junko Salmon o Oklahoma yr Unol Daleithiau - ond o Siapan yn wreiddiol - yn sgrifennu am gwrs Madog 2008


Bum ar gwrs Cymraeg yn Indianola, Iowa Gorffenaf 13 - 20, 2008.
Tre fach daclus ydy Indianola. Gerllaw mae'r fan lle ganwyd John Wayne.

Trefnwyd y cwrs gan Gymdeithas Madog. Mae cwrs Cymraeg yn cael ei gynnal ganddi hi am wythnos mewn lle gwahanol bob blwyddyn ers dros 30 mlynedd.

Ces i gyfle i'w fynychu am y tro cynta eleni.

Dosbarth yr awdur Caethon ni wythnos lawn iawn: dosbarthiadau, gweithdai o'ch dewis, Twmpath dawns - mi wnes i fwynhau dawnsio'n fawr er bod fy mhengliniau'n brifo tipyn wedyn! - côr, gwibdaith i weld "covered bridges" a lle geni John Wayne, noson gwis, ffilm Cymraeg - Solomon and Gaenor - yr Eisteddfod, Noson Lawen a gwasanaeth boreol.

Daeth tri o diwtoriaid o Gymru a phedwar o Ogledd America ac roedden nhw i gyd yn ardderchog.

Roedd '54 o ddysgwyr ar lefelau gwahanol o'r Unol Daleithiau a Canada. Mae nifer ohonyn nhw wedi bod ar y cwrs droeon.

Rôn i ar lefel 7 ac roedd 'na naw ohonon ni. Geraint Wilson-Price - Cyfarwyddwr Canolfan Gymraeg i Oedolion, Canolfan Gwent - oedd y tiwtor.

Y coleg Roedd ein dosbarth ni'n hollol Gymraeg. Mi wnaethon ni "wrando a deall" gan ddefnyddio rhaglenni Radio Cymru, trafod pynciau amrywiol efo partneriaid a gwaith gramadegol.

Sgen i ddim cyfleoedd i siarad Cymraeg lle dw i'n byw yn Oklahoma ar wahân i Skype. Felly roedd yn hyfryd cael gwneud popeth yn Gymraeg yn y dosbarth.

Yr Eisteddfod oedd uchafbwynt y cwrs.
Mewn gwisgoedd gwynion - dillad gwely a thyweli, a dweud y gwir! - wnaeth y tiwtoriaid gymryd rhan fel Gorsedd y Beirdd.

Mi wnaeth llawer o ddysgwyr gystadlu i ennill y Gadair (tua throedfedd) a gafodd ei gwneud yng Nghymru ar gyfer yr achlysur.

Ginny Grove o Colorado oedd yr enillydd.

Telynores Ar ôl gwledd wych, cawsom Noson Lawen.
Roedd 'na sgitiau, côr, offeryn cerddorol, adroddiad storiâu, ac yn y blaen.

Ces i hwyl yn chwarae sgit y dosbarth a chwaraeodd Geraint ran John Wayne!.

Roedd yn hyfryd clywed y côr yn canu Aderyn Pur a Myfanwy hefyd. Mi wnaethon ni orffen y noson wrth ganu Hen Wlad Fy Nhadau.

Gwasanaeth dwyieithog oedd rhaglen ola'r cwrs ddydd Sul. Ar ôl pregeth gan y Parch. Deian Evans o Toronto oedd yn un o'r tiwtoriaid, roedd pawb dipyn yn drist wrth ffarwelio.

Dawnsio gwerin Yn Edmonton, Alberta, Canada, y bydd y cwrs y flwyddyn nesa.
Ac mae Madog yn gobeithio mynd ag ef i Gymru yn 2010!

Lle bynnag y bydd, mae'n siŵr o fod yn wythnos lawn o hwyl.






ewrop

Unol Daleithiau America
Barddoniaeth mewn maen a phren

Dathlu yng Nghwm Jones!.

Aloah Hawaii

Hawaii: Rhywbeth i bawb yn Kauai

Cwyn Cymry Arizona am y Wall Street Journal

Cofio Goronwy ymhell o gartref

Etholiad America

Lobsgows etholiadau'r Unol Daleithau

Dysgu Cymraeg yng nghefn gwlad Efrog Newydd

Cymraes yn Chicago

Dosbarth Cymraeg Pittsburgh

Cyfarchion o Siapan, Dubai a'r America

Dathlu Gwyl Dewi yng Ngwlad y Chwys...

Ci'r Cymry fu'n nofio gydag Arlywydd America

Cymdeithas Gymraeg yn yr Unol Daleithiau

Côr sy'n uno cyfandir

Neges Gŵyl Dewi Bush!

'Pawb a'i Farn' yn Efrog Newydd

Cynghrair Gymraeg Arizona

Ymlacio a dysgu termau newydd

Ar yr hewl yn America

Ymgartrefu mewn ardal gyfeillgar

Etholiad Arlywyddol 2004




About the 麻豆社 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy