Â鶹Éç

Jac y gath ddu

Ofergoelion

Ceir cannoedd o ofergoelion yn ymwneud â bywyd dydd i ddydd, y byd chwaraeon, byd y theatr, crefydd, a sawl maes arall - ond beth yw rhai o'r rhai amlycaf?

Gellir diffinio ofergoeledd fel 'cred afresymol fod gwrthrych, gweithred neu amgylchiadau nad ydynt yn berthnasol i'r digwyddiad yn gallu dylanwadu ar ei ganlyniad'.

Gall gwahanol ofergoelion ymwneud â phethau da, neu bethau drwg, ac maent yn amrywio o gyfandir i gyfandir, ac o wlad i wlad. Dyma rai o'r ofergoelion amlycaf ym Mhrydian:


  • Mae llawer yn credu os chwythir yr holl ganhwyllau ar gacen penblwydd allan ar un anadl, tra'n gwneud dymuniad distaw, y daw'r dymuniad yn wir.

  • Caiff y rhif 13 ei ystyried i fod yn anlwcus, ac mewn rhai achosion bydd pobl yn dewis peidio ei ddefnyddio. Mae rhai adeiladau tal yn galw y trydydd llawr ar-ddeg yn llawr 12a, neu yn defnyddio'r llawr hwnnw fel storfa.

  • Dywedir i golli halen ar y bwrdd achosi ffrae neu ddadl yn ystod y dydd. Un ffordd o ddadwneud hyn yw i daflu halen dros eich ysgwydd chwith gyda'ch llaw dde.

  • O bryd i'w gilydd gwelir pedol ceffyl uwchben drysau. Pan fydd y bedol wedi ei gosod fel 'U' arferol dywedir iddi gasglu lwc dda. Fodd bynnag, os yw wedi ei gosod fel 'U' ben i waered, mae'r lwc yn llifo i ffwrdd.

  • Mae'r ofergoel o weld cath ddu yn croesi eich llwybr yn ddibynnol ar ddiwylliant. Mae rhai yn ei ystyried yn arwydd o lwc dda, tra bo eraill yn ei weld yn arwydd o lwc ddrwg.

  • Os ydych yn torri drych, dywedir fod 7 mlynedd o lwc ddrwg o'ch blaen. Honnir fod claddu y darnau o wydr dan olau'r lloer yn dadwneud hyn.

  • Mae agor ymbarel dan-do (neu tu mewn i adeilad) yn anlwcus.

  • Os yw rhywun yn cerdded o dan ysgol, dywedir iddo ddod â lwc ddrwg. Mae rhai yn credu fod modd dadwneud hyn trwy gerdded am yn ôl o dan yr ysgol.

  • Mae'r frawddeg "See a pin and pick it up then all day you'll have good luck" yn ofergoel gafodd ei chreu o linell gyntaf y llyfr cerddi "The Real Mother Goose" a gyhoeddwyd yn 1916. Mae fersiynau modern weithiau yn newid y gair "pin" i "penny".

  • Pan yn siarad am lwc ddrwg, dywedir y dylsech gnocio ar ddarn o bren. Yn ôl y sôn, mae cnocio pan yn siarad am lwc dda hefyd yn helpu.

  • Fel gyda chath ddu, gall pioden ddod â lwc dda neu lwc ddrwg. Mae gweld un bioden i fod yn anlwcus, tra bo gweld dwy bioden gyda'i gilydd yn arwydd o lwc dda. Credir i'r ofergoel yma ddeillio o'r gerdd "One for sorrow, two for joy, three for a girl, four for a boy, five for silver, six for gold, seven for a secret never to be told".


Chwedlau Myrddin

Morgana

Straeon a gemau

Ewch ar anturiaethau gyda'r cymeriadau yn ein gemau a straeon cyfoes.

Y Gymraeg

Barddoniaeth Taliesin

Hanes yr iaith

O'i gwreiddiau Celtaidd i frwydrau iaith y 1960au a'r 70au.

Dysgu

Celtiaid yr Oes Haearn

Celtiaid

Dewch i ddysgu mwy am fyd Celtiaid Oes yr Haearn yng Nghymru.

Â鶹Éç iD

Llywio drwy’r Â鶹Éç

Â鶹Éç © 2014 Nid yw'r Â鶹Éç yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.