In order to see this content you need to have both enabled and installed. Visit for full instructions
Arferion Calan y Cymry
Yr Hen Galan
Roedd yr Hen Galan yn cael ei ddathlu ar Ionawr 13. Fe newidiwyd yr hen galendr Iwlaidd i'r calendr Gregori newydd, gan symud dydd Calan yn ei sgil, yn 1752.
Ond roedd y newid yn amhoblogaidd iawn. Un ardal yng Nghymru sydd wedi cadw at draddodiad yr hen galendr ydy Cwm Gwaun yn sir Benfro. Yno, maen nhw'n dathlu'r Calan ddwywaith, unwaith ar Ionawr 1 ac eto ar Ionawr 13, gyda phlant yr ardal yn mynd o amgylch y fro yn canu a hel calennig.
Mabwysiadwyd llawer o ddathliadau'r Hen Galan i ddathlu'r Calan newydd ac mae rhai ohonynt wedi cael eu hadfywio mewn rhai rhannau o Gymru heddiw.
Y Fari Lwyd
Arferiad hynod o ryfedd a gysylltir â'r Calan a chyfnod y Nadolig yw'r Fari Lwyd, a welir yn y clip uchod a ffilmiwyd ym mhentref Llangynwyd yn y 1960au.
Penglog ceffyl wedi'i orchuddio â lliain a rhubanau oedd y Fari. Byddai'r penglog yn cael ei roi ar bolyn fel bod modd i berson oedd o dan y lliain agor a chau'r geg.
Byddai grŵp o ddynion yn tywys y Fari ac yn ymweld â phob tŷ neu dafarn yn yr ardal gan ganu penillion hwyliog yn gofyn am wahoddiad i ddod i mewn. Byddai perchennog y tŷ yn ateb her y penillion cyn penderfynu rhoi mynediad ai peidio. Gallai'r cyfnewid yma barhau am dipyn o amser a byddai'n anlwcus gwrthod mynediad i'r Fari Lwyd.
Yn y tŷ wedyn byddai'r grŵp yn diddanu'r teulu ac yn derbyn bwyd a diod yn gyfnewid am eu gadael i mewn.
Ond nid pob cartref oedd yn croesawu'r cwmni swnllyd a gwelwyd dirywiad yn yr arferiad erbyn diwedd y 19eg ganrif.
Er bod traddodiadau'r Fari yn digwydd dros gyfnod y Nadolig a'r Flwyddyn Newydd, mae'n cael ei chysylltu'n arbennig â Nos Ystwyll, Ionawr 6.
Mae gwreiddiau'r Fari, sy'n gyffredin i wledydd eraill hefyd, yn ddwfn mewn arferion hynafol o'r cyfnod cyn-Gristnogol ac, yn ôl rhai, yn adlewyrchiad o'r cyfnod pan y daeth y ceffyl yn anifail mor werthfawr i ddyn. Cred eraill ei bod yn gysylltiedig â chwedl Rhiannon yn y Mabinogi neu'n gysylltiedig â seremonïau ffrwythlondeb.
Roedd penglog y ceffyl yn cael ei baratoi yn ofalus at yr achlysur drwy gael ei gladdu mewn calch am dri mis cyn cael ei sgwrio'n lân. Wedi hynny, byddai'n cael ei wisgo a'i addurno.
Mae pentref Llangynwyd yng Nghwm Llynfi yn cael ei gysylltu'n arbennig â'r Fari Lwyd. Yn y ffilm uchod o raglen Â鶹Éç Cymru, Lloffa, (1966) gwelir tri o ddynion lleol, ac un wedi ei wisgo fel y Fari Lwyd, yn ymweld â ffermdy yn yr ardal. Cenir amryw o benillion ac yna ceir ateb gan y ffermwr, cyn cael eu gadael i mewn i fwynhau lluniaeth. Ar ddiwedd y ffilm mae un o'r dynion yn adrodd ychydig o hanes traddodiad y Fari yn yr ardal yn nhafodiaith nodweddiadol Llangynwyd. Anfonwyd rhai o benglogau Mari Lwyd o Langynwyd i Amgueddfa Werin Cymru yn Sain Ffagan.
Calennig
Mae'r mwyafrif o'r traddodiadau Cymreig ym ymwneud â'r Calan.
Dyma ddiwrnod pwysig iawn yng nghalendr y Cymry ers talwm ac roedd y plant yn edrych ymlaen i gael cyfle i lenwi eu pocedi â'r arian a'r rhoddion yr oedden nhw'n ei dderbyn fel calennig.
Byddai'r plant yn mynd i gasglu calennig yn ystod y bore ar ddiwrnod cynta'r flwyddyn. Fe fydden nhw'n ymweld â'r ffermydd a'r tai yn yr ardal gan ganu pennill a gofyn am galennig.
Ond byddai'n rhaid gwneud hyn i gyd cyn hanner dydd.
Rhan bwysig o hyn i gyd oedd addurno afal. Byddai'r plant yn cludo hwn gyda nhw o dÅ· i dÅ· ac fe fyddai'n cynrychioli lwc dda.
Fe fydden nhw'n gosod tri darn o bren ar waelod yr afal i wneud coesau. Byddai darnau o almwnd yn cael eu gosod yn yr afal wedyn a dail bytholwyrdd yn cael eu gosod ar ei ben.
Wedi'r daith o amgylch yr ardal byddai'r afal naill ai'n cael ei arddangos yn y cartref neu'n cael ei roi'n anrheg i ffrindiau fel arwydd o lwc dda.
Mewn rhai ardaloedd o'r de 'perllan' oedd yr enw am yr afal calennig yma. Bu Eurwen Richards yn egluro arwyddocâd y 'berllan' (uchod) ar raglen Â鶹Éç Cymru, Y Chwilotwyr yn 1975. Roedd yr afal yn cael ei addurno â gwahanol blanhigion am wahanol resymau, e.e. llawryf er gogoniant; celyn ar gyfer rhagweld; rhosmari er mwyn cofio; bocs er mwyn dewrder a lafant i sicrhau digonedd dros y flwyddyn. Y rhigwm y cofiai hi ei ganu i hel calennig oedd:
Blwyddyn Newydd dda i chi
Ac i bawb sydd yn y tÅ·
Dyma fy nymuniad i
Blwyddyn Newydd dda i chi
Ysbrydion
Coel arall yn ymwneud â'r Calan oedd bod ysbrydion y meirw yn crwydro'r wlad ar ddiwrnod ola'r flwyddyn er mwyn ffarwelio â'r flwyddyn honno.
Dyma pam mae'n debyg fod pobl yn closio at ei gilydd ar y noson arbennig hon gan adrodd straeon a chynnal nosweithiau llawen, tipyn gwahanol i'r dathliadau heddiw.
Coelcerth y Calan
Ers talwm hefyd arferid croesawu'r flwyddyn newydd drwy adeiladu coelcerth fawr.
Byddai hon yn cael ei chodi yng nghanol y dref neu'r pentref a byddai pawb yn ymgasglu o'i chwmpas.
Byddai'r trigolion wedyn yn gadael i'r tanau oedd ganddyn nhw yn eu cartrefi ddiffodd. Byddai hyn wedyn yn rhoi diwedd ar yr hen flwyddyn.
Wedyn cynhelid y goelcerth a byddai hyn yn rhoi croeso gwresog i'r flwyddyn newydd.
Dyledion
Cred arall yw fod yr hyn yr ydych chi'n ei wneud ar ddydd Calan yn penderfynu'r hyn y byddwch chi'n ei wneud weddill y flwyddyn.
Fe ddylech chi felly sicrhau nad ydych chi'n benthyg arian i neb nac yn benthyg arian eich hun neu dyna fyddwch chi'n ei wneud weddill y flwyddyn.
Hefyd mae'n bwysig sicrhau fod pob dyled wedi ei thalu cyn hanner nos ar nos Galan neu fe fyddwch mewn dyled am flwyddyn gyfan.
Ymwelydd
Mae'r sawl sy'n dod i ymweld â chi gyntaf ar ddydd Calan yn bwysig hefyd.
Yn draddodiadol dim ond dynion â gwallt tywyll sy'n derbyn croeso yng nghartrefi Cymru ar fore Calan. Bydd gŵr tywyll sy'n troedio dros y trothwy yn dod â lwc dda i'r cartref drwy'r flwyddyn.
Ond er mwyn i chi gael lwc gwirioneddol dda fe ddylai'r gŵr hwn gludo darn o lo, tafell o fara a darn o arian. Bydd hyn wedyn yn sicrhau cynhesrwydd, bwyd a chyfoeth i chi drwy'r flwyddyn.
Ers talwm roedd yr arferiad hwn yn amrywio ar hyd a lled Cymru.
Mewn rhannau o Geredigion roedd hi'n lwcus i ferch weld dyn yn gyntaf ond yn anlwcus i ddyn weld merch gyntaf.
Yn Sir Gaerfyrddin a Sir Benfro roedd hi'n anlwcus i ferch weld merch yn gyntaf. Mewn rhai ardaloedd wedyn roedd hi'n anlwcus i weld dyn â gwallt coch yn gyntaf.
Cludo dŵr
Mewn rhai ardaloedd yng Nghymru roedd hi'n arferiad i gludo dŵr i gartrefi cyfagos.
Byddai grwpiau o fechgyn yn ymweld â chartrefi'r ardal yn gynnar yn y bore gan gludo dŵr ffres o'r ffynnon a changen o ddail bytholwyrdd.
Fe fydden nhw wedyn yn cael eu gadael i bob ystafell ac fe fydden nhw'n gwasgaru'r dŵr yn ysgafn ar ddwylo a wynebau'r teulu gan adrodd pennill.
Arferion gwerin
Cysylltiadau'r Â鶹Éç
Cysylltiadau Rhyngrwyd
Chwedlau Myrddin
Straeon a gemau
Ewch ar anturiaethau gyda'r cymeriadau yn ein gemau a straeon cyfoes.