In order to see this content you need to have both enabled and installed. Visit for full instructions
Arferion Nadolig
Yn y clip hwn, mae Robin Gwyndaf, cyn Guradur Bywyd Gwerin San Ffagan, yn sôn am arferion fel gwneud drygau ar noswyl Nadolig, gwneud cyflaith, y Plygain, gemau wedi cinio (gŵydd fel arfer), rhoi'r cyff Nadolig ar y tân i gadw'r ysbrydion drwg i ffwrdd ac arferion gŵyl San Steffan.
Darlledwyd y clip yn wreiddiol ar raglen Merched yn Bennaf yn 1967.
Canu Plygain
Mae nifer o'r traddodiadau sy'n ymwneud â'r Nadolig a'r Calan ers talwm yn gwbl unigryw i Gymru. Un o'r rhain yw gwasanaeth y Plygain sy'n dal i gael ei gynnal mewn rhai rhannau o Gymru.
Gwasanaeth cwbl Gymreig yw'r Plygain a gynhelir mewn capel neu eglwys yn gynnar ar fore'r Nadolig neu ar noswyl Nadolig fel arfer. Bydd dynion a merched yn canu carolau hynafol, digyfeiliant fel arfer ac mewn tri neu bedwar llais. Er mai dathlu geni a hanes Crist mae'r geiriau - mae gwreiddiau cerddorol carolau'r Plygain yn ddwfn yn nhraddodiad gwerin Cymru.
Ers talwm, roedd Plygeiniau yn cael eu cynnal mewn gwahanol lefydd yn y plwyf dros gyfnod y Nadolig a hyd at yr hen Galan, Ionawr 12fed.
Gwneud cyflaith
Byddai nosweithiau gwneud cyflaith yn achlysur cymdeithasol gyda'r taffi weithiau'n cael ei wneud ar garreg yr aelwyd ac yn cael ei 'dynnu' i'w siâp nodweddiadol.
Yn draddodiadol roedd yn digwydd ar noswyl Nadolig cyn y gwasanaeth Plygain.
Traddodiad arall oedd rhagweld pwy fyddai rhywun yn ei briodi drwy ollwng darnau o'r taffi i mewn i ddŵr oer a gweld pa lythyren a ffurfiai.
Hela'r dryw
Mae gŵyl y Nadolig yn dod i ben ar Nos Ystwyll, Ionawr 6ed, ddeuddeg diwrnod wedi dydd Nadolig.
Ar y diwrnod hwn ers talwm fe arferid hela'r dryw, sy'n aderyn bach, cyflym â chân uchel, brysur ganddo. Mae'n mesur tua phedair modfedd mewn hyd ac yn pwyso cymaint â darn punt.
Byddai dryw yn cael ei ladd, ei addurno a'i roi mewn tÅ· bychan.
Byddai grŵp o ddynion wedyn yn cludo'r tŷ o gwmpas y pentref. Byddai trigolion y pentref yn rhoi arian iddyn nhw am y fraint o gael cipolwg ar yr aderyn bach.
Wrth gwrs mae'r arferiad hwn wedi dod i ben ers tro a does dim llawer o arwyddocâd i Nos Ystwyll yng Nghymru bellach.
Yn ôl traddodiad hefyd, mae'n rhaid sicrhau eich bod yn tynnu'r goeden Nadolig a'r holl addurniadau ar y diwrnod hwn neu fe fydd anlwc yn dod i chi weddill y flwyddyn.
Yn y clip uchod mae sôn hefyd am hela anifeiliaid bach eraill adeg y Nadolig.
Mae mwy am arferion eraill y cyfnod rhwng y Nadolig a'r flwyddyn newydd