Am y tro cyntaf, dyma achlysur arbennig iawn o weld tri o gorau'r arweinydd, John S Davies yn uno mewn cyngerdd, a chredir hefyd mai dyma'r tro cyntaf erioed yn hanes Eglwys Gadeiriol Tyddewi i dri chôr berfformio gyda'i gilydd yno.
Bydd y cyngerdd yma'n nodedig hefyd am mai dyma fydd y 75fed tro i John S Davies arwain yn y Gadeirlan hon.
Y prif waith a genir gan dros gant o aelodau Cantorion John S Davies, Côr Caerfyrddin a Chôr Dewi Sant, pedwar unawdydd disglair, ynghyd â cherddorfa lawn Westward, fydd cyfansoddiad Antonin Dvoräk o'r Stabat Mater. Yn rhagarweiniad teilwng i'r gwaith hwn, bydd perfformiad o gerddoriaeth Y Pasg o'r Meseia gan Handel.
Yn sicr, bydd y cyngerdd hwn yn fodd i werthfawrogi ac i fwynhau seiniau cerddoriaeth cysegredig o'r radd flaenaf ym mangre sanctaidd a hanesyddol y Gadeirlan hon.
I wneud yn sicr o'ch lle yno, gwerthir tocynnau fel a ganlyn:
£20 a £17 am sedd gadw yn y Gangell.
£10 i'r seddau ochrau.
Ar werth gan Siop Lyfrau St. David's; Stwidio Gerdd Caerfyrddin; Siop Lyfrau Seaways, Abergwaun; a Manon Butler.
|