Â鶹Éç

Explore the Â鶹Éç
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

Â鶹Éç Homepage
Â鶹Éç Cymru
Â鶹Éç Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

De Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Trefi

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

Natur

³Ò·É±ð²µ²¹³¾±ð°ùâ³Ü

Eich Llais

Â鶹Éç Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Y Cardi Bach
Meirion Prys Jones Bwrdd yr Iaith yn penodi Prif Weithredwr newydd
05 Chwefror 2004
Un a fu'n byw am gyfnod yn Abertawe yw Prif Weithredwr newydd Bwrdd yr Iaith Gymraeg.
Wrth gyhoeddi enw Meirion Prys Jones, dywedodd Rhodri Williams, Cadeirydd Bwrdd yr Iaith Gymraeg:

"Rydym yn falch iawn ein bod wedi llwyddo i benodi Meirion fel Prif Weithredwr i'r Bwrdd. Bu ei gyfraniad fel Prif Swyddog Addysg, Arweinydd y Tîm Cynllunio Ieithyddol ac, yn fwyaf diweddar, fel Dirprwy Brif Weithredwr y Bwrdd yn sylweddol, ac edrychwn ymlaen fel Bwrdd at gydweithio â Meirion yn rhinwedd ei swydd newydd."

Dywedodd Meirion Prys Jones:"Rwy'n edrych ymlaen at yr her o arwain Bwrdd yr Iaith Gymraeg. Mae hwn yn gyfnod cyffrous i'r Bwrdd - ac i'r iaith ei hun. Roedd canlyniadau'r cyfrifiad diweddar yn galonogol ac mae gan y Cynulliad dargedau uchelgeisiol yn ei gynllun strategol ar gyflwr yr iaith Gymraeg, Iaith Pawb. Y dasg nawr yw cynyddu'r nifer o bobl o bob oed sy'n siarad Cymraeg. Mae'n rhaid i ni hefyd roi llawer mwy o gyfle i bobl ddefnyddio'r iaith yn eu bywyd bob dydd - gwaith a hamdden.

"Fel un fu'n gweithio ym maes addysg am flynyddoedd, credaf bod addysg yn gorfod bod yn un o flaenoriaethau pwysicaf y Bwrdd dros y blynyddoedd nesaf, er mwyn ein galluogi i gynyddu'r nifer sydd nid yn unig yn medru'r Gymraeg ond yn dewis ei siarad hi. Mae addysgu rhieni yn hollbwysig hefyd.

"Mae prosiect TWF yn allweddol yn hyn o beth, gan fod yn rhaid i ni annog rhieni i drosglwyddo'r iaith i'w plant. Yn ogystal, rwy'n gredwr cryf mewn prosiectau sy'n dod â chymunedau lleol at ei gilydd, ac mae'r rhwydwaith o fentrau iaith ar hyd a lled Cymru yn enghraifft arbennig o'r iaith ar waith ar lawr gwlad.

Bydd Meirion Prys Jones yn dilyn John Walter Jones fel Prif Weithredwr, ac meddai Rhodri Williams:

"Bu John Walter Jones yn Brif Weithredwr y Bwrdd ers y cychwyn cyntaf, a rhoddodd arweiniad cadarn i'r staff a'r aelodau. Bu cyfraniad John i'r Bwrdd a'r iaith yn gyffredinol yn aruthrol, ac rwy'n hyderus y bydd Meirion yn olynydd teilwng, ac yn adeiladu ar y seiliau sydd eisoes yn eu lle.

"Mae Meirion eisoes yn uchel ei barch ymysg staff ac aelodau'r Bwrdd, a gwn ein bod i gyd yn edrych ymlaen at gydweithio gydag ef dros y Gymraeg. Mae hwn yn gyfnod pwysig, cyfnod pan fydd y Bwrdd yn gallu cynyddu ei waith dros yr iaith yn sylweddol, gan agor swyddfeydd mewn rhannau eraill o Gymru, diolch i gefnogaeth Llywodraeth Cynulliad Cymru."

Ymunodd Meirion Prys Jones â staff Bwrdd yr Iaith Gymraeg yn 1994 fel Prif Swyddog Addysg. Fe'i penodwyd yn arweinydd Tîm Cynllunio Ieithyddol yn 2001 a bu'n gyfrifol am sefydlu sawl prosiect arloesol o ran cynyddu'r defnydd o'r Gymraeg yn y gymuned.

Cyn ymuno â'r Bwrdd, bu'n bennaeth adran Gymraeg yn Ysgol Castell Alun, Yr Hob ac Ysgol Glan Clwyd, Llanelwy, cyn symud i fod yn Ymgynghorydd y Gymraeg yn Adran Addysg Cyngor Sir Gorllewin Morgannwg. Bu hefyd yn Arolygydd Ysgolion.

Yn enedigol o Bontycymer ger Pen-y-bont ar Ogwr, treuliodd ei flynyddoedd cynnar yn Llangadog yn Nyffryn Tywi cyn symud i Wrecsam. Mae'n briod a chanddo ddwy ferch yn eu harddegau, ac mae'n byw bellach yng Nghaerfyrddin.

Bydd Mr Prys Jones yn cychwyn ar ei swydd newydd ym mis Ebrill 2004.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
Â鶹Éç - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the Â鶹Éç | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý