Ychydig o wythnosau yn ôl darlledwyd rhaglen Week In Week Out yn adrodd stori ar y nifer o dafarndai sydd yn cau yng Nghymru. Dechreuwyd y rhaglen ar Sgwâr Fictoria, Aberdâr gan nodi bod y tair tafarn olaf ar y Sgwâr wedi cau. Ar un adeg roedd bob yn ail adeilad yno'n ddioty ond erbyn hyn does 'na ddim un.
Roedd y rhaglen yn berthnasol i fi achos yn y Sgwâr ces i fy mheint cyntaf erioed 'lawr y dre'. Roedd hynny yn y 'Black Lion', un o'r tair i gau yn ddiweddar.
Agorwyd yn 1811 roedd y dafarn yn gartref i Swyddfa Bost gyntaf y dre. Yn hwyrach yn y rhaglen darlledwyd lluniau o'r Lamb yn Hirwaun, lle wnaeth Mam weini peint a phastai i David Parry-Jones unwaith, tafarn sydd bellach ar gau. Mae'r Mount Pleasant, tafarndy hyfryd ar y ffordd i Benderyn, wedi mynd ac mae'r Globe, pyb 'lleol' yn wir ystyr y gair, bellach yn dÅ· bwyta.
Ond pam mae hyn yn berthnasol i chi, ddarllenwyr 'Wilia'? Roedd angen MOT ar y car ychydig yn ôl ac ar ôl gadael y car yn y garej ar Ffordd Cwm Level cerddais i tuag at y dre. Ar y ffordd, rhwng Glandŵr a chanol Abertawe, cerddais i heibio saith tafarn sydd bellach ar gau, neu'n wag ac ar werth. Yn ddiweddar cerddais i heibio'r Garibaldi yn y dre a'r Brooklands yn Sandfields, roedd un
ar werth a'r llall yn disgwyl fel safle adeiladu. O'r tafarndai sydd wedi
cau yn ddiweddar y fwya poblogaidd efallai yw'r Adda ac
Efa yn y Stryd Fawr. Can mlynedd yn ôl roedd 30 o dafarndai ar y Stryd Fawr, heddiw, bron dych chi'n gallu eu cyfri ar un llaw. Pan fues i'n gweithio yn y dref roedd yr Adda ac Efa yn handi iawn ar
ôl gwaith ar brynhawn dydd Gwener yn yr haf.
Ar un adeg hon oedd un o brin lefydd yn Abertawe gallech brynu Brains ac roedd y bar yn fwrlwm o sŵn bandiau roc a blŵs traddodiadol ar nos Wener a nos Sadwrn. Hon hefyd oedd cartref sesiynau nos Wener Tyrfe Tawe. Ymhlith y rhai sydd wedi
canu yno mae Neil Rosser, Crys, Fflur Dafydd, Merched Becca,
Derwyddon Dr Gonzo ac wrth gwrs Meic Stevens. Roedd Meic yn 'regular' yn yr Adda ac Efa ymhell cyn i drefnwyr Tyrfe ddod at ei gilydd i drefnu'r ŵyl. A dweud y gwir roedd Meic yn 'regular' yn
yr Adda ac Efa ymhell cyn i ran fwya trefnwyr Tyrfe gael eu geni, ond stori arall yw honno.
Lan y cwm mae'r un broblem. Daeth y newyddion yn
ddiweddar bod nosweithiau llwyddiannus 'Gigs y Gwach'
efallai o dan fygythiad gydag ansicrwydd bwriad perchennog
newydd Y Gwachel ym Mhontardawe. Mae ffordd o fyw yn
newid ac mae cymunedau'n dioddef.
Beth bynnag yw eich barn chi am yfed mae cwymp y tafarndai
yn adlewyrchu'r hyn sydd wedi digwydd eisoes yn y capeli,
swyddfeydd post a siopau cornel. Efallai bod breuddwyd yr
hen Thatsyr yn ara' bach yn cael ei wireddu. Does dim fath beth â
chymdeithas.....
** Wrth i WILIA fynd i'r wasg, daeth newyddion bod yr 'Adda ac
Efa', ar ôl misoedd ar gau, wedi ailagor. Ar y llaw arall, mae'r
'Builders Arms', lleoliad Clwb Gwener Tyrfe wedi cau......
|