Mae Rhian Jones wedi rhedeg tair ras fawr yn ddiweddar i godi arian at Glefyd Motor Niwron, sef Marathon Belfast, Marathon Caeredin a'r Great North Run. Llwyddodd i redeg amseroedd gwych - 4 awr a 3 munud yn Belfast, a 4 awr a 18 munud yn y gwres llethol yng Nghaeredin.
Mae Rhian wedi penderfynu cyfuno'r nawdd ar gyfer y tair ras. Mae syniad ar y gweill i godi arian yn hytrach na gofyn am nawdd, sef 'Dewch i droffio!', sef 'Come Dine With Me' yn Abertawe. Mae angen grwp o 3 neu 4 i gymryd rhan, ac yna bydd pawb yn cymryd tro i weini swper 2 neu 3 chwrs i weddill y gwesteion. Gall y nosweithiau ddigwydd unrhyw bryd cyn diwedd Medi, ac yna fe fydd pawb sydd yn aelod o'r grwp yn cyfrannu £25 tuag at yr elusen ac yn cael 3 swper am y pris yn nhai cyfeillion, a'r cyfan sydd angen iddyn nhw wneud nôl yw coginio pryd i'w ffrindiau.
Os oes diddordeb, cysylltwch â RhianJones@sheltercymru.org.uk neu catrin_rowlands66@hotmail.com
|