Â鶹Éç

Explore the Â鶹Éç
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Caerdydd

Â鶹Éç Homepage
Â鶹Éç Cymru
Â鶹Éç Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

De Ddwyrain

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi a dinasoedd

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

³Ò·É±ð²µ²¹³¾±ð°ùâ³Ü

Eich Llais

Â鶹Éç Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Butetown a Bae Caerdydd
Canolfan y Mileniwm yn y Basn Hirgrwn Y Basn Hirgrwn
O'r Gyfnewidfa Lo, trowch i'r dde i James Street. Ewch tuag at gyfeiriad adeilad mawreddog Canolfan Mileniwm Cymru, sydd wedi ei leoli yn y basn hirgrwn.
Roald Dahl Plass neu'r Basn Hirgrwn fel yr arferid ei alw oedd y mynediad tua'r môr i Ddoc Gorllewinol Bute, y doc gwaith maen mwyaf yn y byd ar un cyfnod. Os edrychwch o gwmpas yr adeiladwaith sydd ar ffurf amffitheatr gellir gweld amlinelliad cerrig y doc blaenorol.

Agorwyd y doc ar 8 Hydref 1839, y diwrnod y dywedir gan lawer oedd geni Caerdydd fel prif borthladd allforio glo y byd.

Perswadiwyd ail Ardalydd Bute i gyllido'r gwneuthuriad £350,000 gan mai ef oedd yn berchen ar y rhan fwyaf o'r tir yn yr ardal. Roedd yn swm enfawr hyd yn oed i'r Ardalydd.

Fe gymrodd pedair blynedd i drawsnewid y 18 acer o gors fwdlyd i yn ddoc oedd 1400 llath o hyd, 200 llath lydan gyda lle i 300 o longau.

Roedd diwrnod yr agoriad yn ddigwyddiad o bwys gyda miloedd o bobl yn tyrru i'r dref a'r tafarnau i gyd yn orlawn.

Dechreuodd gorymdaith yn gynnar y bore hwnnw o erddi'r Castell i sain trwmpedwyr Band Sir Forgannwg a chlychau Sant Ioan - gyda seiri maen, labrwyr, gwyr bonheddig y dre a masnachwyr yn gwneud eu ffordd i ardal y doc.

Roedd gweld y llong enfawr y Manalaus yr holl ffordd o Quebec yn profi bod Caerdydd ar y brig.

Adeiladwyd mwy o ddociau er mwyn gwasanaethu'r fasnach oedd yn tyfu mewn haearn a glo gan gynnwys Doc Dwyreiniol Bute (1855), Basn y Rhath (1874) a Doc y Rhath (1887). Agorwyd yr olaf o bum doc Caerdydd, Doc y Frenhines Alexandra, yn 1907, erbyn hyn y ddinas oedd y porthladd allforio glo mwyaf yn y byd.

Wedi'r Ail Ryfel Byd fodd bynnag, cwymp wnaeth y gofyn am lo a chollwyd marchnadoedd rhyngwladol wrth i wledydd eraill ddatblygu eu diwydiant dur eu hunain. Erbyn dechrau'r 1980au tir diffaith o ddociau segur docks a fflatiau llaid oedd Bae Caerdydd.

Fel rhan o adfywiad yr ardal, llanwyd y Basn Hirgrwn er mwyn creu man i'r cyhoedd sydd wedi cynnal digwyddiadau cerddorol awyr agored, gwyliau bwyd a llawer mwy. Cafodd ei ail-enwi y Roald Dahl Plass fel teyrnged i'r awdur a anwyd yng Nghaerdydd.

Codwyd twr dwr 70 troedfedd o uchder o ddur di-staen yn rhan ogleddol y basn yn 2000.

Ond yr ychwanegiad mwyaf arwyddocaol i'r ardal yw'r ganolfan gelfyddydau nodedig, Canolfan Mileniwm Cymru Centre neu'r Armadilo fel y'i gelwir ambell dro, agorwyd fis Tachwedd 2004.

  • Yn ôl i gychwyn y daith


  • Caerdydd
    Cynulliad Cenedlawthol Cymru


    About the Â鶹Éç | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
    Ìý