Â鶹Éç

Explore the Â鶹Éç
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Caerdydd

Â鶹Éç Homepage
Â鶹Éç Cymru
Â鶹Éç Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

De Ddwyrain

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi a dinasoedd

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

³Ò·É±ð²µ²¹³¾±ð°ùâ³Ü

Eich Llais

Â鶹Éç Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Butetown a Bae Caerdydd
Yr Eglwys Norwyeg Yr Eglwys Norwyeg
Adeiladwyd yr Eglwys Norwyeg yn 1869 ar dir a ddyrannwyd gan ardalydd Bute. Roedd yn lle o addoliad ar gyfer nifer mawr o forwyr Scandinafaidd a hwyliai i'r porthladd, nifer ohonynt wnaeth Caerdydd yn gartref iddynt.
Cafodd yr adeilad nodedig ei greu gan ddeunydd a gariwyd dros y dŵr o Norwy a'i godi'n wreiddiol i'r de-orllewin o Ddoc Gorllewin Bute.

Cenhadaeth forwrol oedd yr eglwys yn y lle cyntaf, ond roedd hefyd yn lle tebyg i gartref y morwyr, ble gallent ddarllen papurau newydd a chylchgronau o adref, ysgrifennu llythyrau at eu cariadon, ymlacio a sgwrsio â ffrindiau.

Bu i deulu'r awdur Roald Dahl fynychu'r eglwys ac fe gafodd ef ei hun ei fedyddio yno yn 1916.

Yn ystod yr ail ryfel byd gweithredai'r eglwys fel banc yn ogystal, lle gallai'r morwyr ddiogelu eu heiddo tra ar y môr. Ar un cyfnod, penderfynwyd paentio'r eglwys yn wyrdd fel na fuasai mor amlwg i'r gelyn.

Wrth i Ddociau Caerdydd ddirywio, felly hefyd y gynulleidfa ac ymwelwyr i'r eglwys. Dadgysegrwyd yr eglwys a'u chau yn 1970, gan droi'n adfail drwy ddiffyg cynnal a chadw a fandaliaeth.

Ynghanol yr 1980au arweiniodd Dahl yr ymdrech i gychwyn Ymddiriedolaeth Cadwraeth yr Eglwys Norwyeg i achub yr adeilad ac i godi arian i'w datgymalu a'i hadleoli yng nghanol dociau hanesyddol Caerdydd.

Datgymalwyd yr eglwys yn 1987 a'i symud i leoliad newydd ger Basn y Rhath. Roald Dahl oedd llywydd cynta'r ymddiriedolaeth ond bu farw ar 23 Tachwedd 1990, cyn cwblhau'r adluniad.

Ail agorwyd yr eglwys gan y Dywysoges Martha Louise o Norwy ar 8fed Ebrill 1992. Er nad yw'r eglwys a ailadeiladwyd wedi ei chysegru, mae'r adeilad heddiw yn adlewyrchu naws heddychlon a thawel yr eglwys.

Mae gan yr Eglwys Norwyeg yn awr le i gaffi bychan ac fe'i defnyddir fel lleoliad ar gyfer cyngherddau cerddorol bychan, arddangosfeydd a derbyniadau priodas.

Wrth i chi adael yr eglwys gwnewch eich ffordd ar hyd y lanfa. Fe welwch arysgrifau wedi eu cerfio yn y wal isel gerllaw. Dyma siantis y môr wedi eu hysgrifennu mewn ieithoedd gwahanol i adlewyrchu natur gosmopolitan Bae Caerdydd.

  • Cliciwch ar yr erthyglau yn y rhestr ar ochr dde y dudalen hon i barhau â'r daith.

  • Yn ôl i gychwyn y daith

  • Cyfrannwch
    Cyfrannwch i'r dudalen hon!

    Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
    Enw a lleoliad (e.e. Angharad Jones o Gasnewydd):

    Sylw:




    Mae'r Â鶹Éç yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch â ni.



    Caerdydd
    Cynulliad Cenedlawthol Cymru


    About the Â鶹Éç | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
    Ìý