Â鶹Éç

Explore the Â鶹Éç
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Caerdydd

Â鶹Éç Homepage
Â鶹Éç Cymru
Â鶹Éç Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

De Ddwyrain

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi a dinasoedd

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

³Ò·É±ð²µ²¹³¾±ð°ùâ³Ü

Eich Llais

Â鶹Éç Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Butetown a Bae Caerdydd
Y Gyfnewidfa Lo Y Gyfnewidfa Lo
Gyda Techniquest y tu nôl i chi, croeswch y ffordd a cherddwch i lawr Adelaide Street. Croeswch eto i mewn i Sgwâr Mount Stuart.
Cyn adeiladu'r Gyfnewidfa Lo yn Sgwâr Mount Stuart man preswyl ydoedd â gardd yn y canol. Cafodd ei ddisodli gan fasnach wrth i'r ddinas dyfu mewn llewyrch, a dyna pam nad yw'n edrych fel sgwâr rhagor.

Arferai masnachwyr glo ddangos pris cyfnewidiol y glo ar lechi tu allan i'w swyddfeydd neu daro bargeinion yn y tafarnau lleol.

Wrth i Gaerdydd dyfu'n brif borthladd y byd teimlwyd ei bod hi'n briodol cael adeilad pwrpasol ar gyfer hyn felly adeiladwyd y Gyfnewidfa Lo rhwng 1883 a 1886 yn ôl cynlluniau'r pensaer Edwin Seward.

Yn dilyn ei agoriad, buasai perchnogion y pyllau glo, perchnogion llongau a chwmnïau cysylltiedig yn cwrdd yn ddyddiol ar lawr y neuadd fasnach ble cytunwyd ar lafar a lle gellid defnyddio offeryn newydd yr oes, y teleffon. Yn ystod yr awr brysura o ran masnach rhwng hanner dydd ac un o'r gloch gellid gweld hyd at 200 o ddynion yn gweiddi a gwneud ystumiau. Tybir bod hyd at 10,000 yn mynychu'r adeilad ryw ben bob dydd.

Cafwyd tipyn o gynnwrf yn 1907 pan darwyd bargen gwerth miliwn o bunnau yn y Gyfnewidfa. Ar un cyfnod, yma y penderfynwyd ar bris glo drwy'r holl fyd.

CerflunAgorwyd nifer o fanciau a swyddfeydd goludog o gwmpas y sgwâr - Tŷ Baltic, Adeilad yr Ocean, Adeiladau Cory, Adeiladau Cambrian, nifer ohonyn nhw dal yn sefyll ac yn arddangos cerfluniau morol ardderchog.

Ond gyda Chaerdydd yn ymwneud ag un cynnyrch yn unig roedd y ddibyniaeth ar lo yn gwneud dociau'r Bute yn fregus i unrhyw dorri ar y gofyn am lo, ffaith ddaeth yn boenus o amlwg yn y blynyddoedd rhwng y rhyfeloedd. Gyda diwedd y rhyfel dirywio fwyfwy wnaeth y dociau. Cau wnaeth y Gyfnewidfa Lo yn 1958 gyda diwedd ar allforio glo yn 1964.

Yn adeilad urddasol o hyd, clustnodwyd y Gyfnewidfa Lo yn 1979 fel cartref posibl i Gynulliad arfaethedig Cymru, ond cafodd y cynllun hwnnw am ddatganoli ei wrthod gan bobl Cymru mewn refferendwm.

Heddiw, mae'r Gyfnewidfa Lo yn cael ei defnyddio fel canolfan adloniant a chelfyddyd.

  • Yn ôl i gychwyn y daith


  • Caerdydd
    Cynulliad Cenedlawthol Cymru


    About the Â鶹Éç | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
    Ìý