Roedd yn ddisgybl i William Burges, y pensaer a oedd yn gyfrifol am Gastell Coch ac elfennau diweddaraf Castell Caerdydd. Fe'i codwyd yn lle pencadlys Cwmni Doc Bute a losgwyd yn 1892. Ailenwyd y cwmni â'r teitl Cwmni Rheilffordd Caerdydd yn 1897. Mae arfbais ar wyneb yr adeilad yn cynnwys arwyddair y cwmni "wrth ddŵr a than" sy'n cynnwys yr elfennau greodd y pŵer stem a drawsnewidiodd Cymru.
Gan gynnwys thema'r Dadeni Gothig Ffrengig, mae'r Pierhead yn cynnwys manylion megis simneiau chwe-ochrog, ffrisiau cerfiedig, gargoiliaid, a thŵr cloc addurniadol. Mae'r wyneb allanol o frics melyngoch llyfn.
Y nodweddion yma, ynghyd â rôl y Pierhead yn natblygiad y dociau, Caerdydd a'r Gymru ddiwydiannol a enillodd iddo'r statws o adeilad rhestredig gradd un.
Daeth adeilad Pen y Pier yn swyddfa weinyddol Porthladd Caerdydd yn 1947 ac yn awr yn lleoliad 'Y Cynulliad yn y Pierhead', y Ganolfan Addysg ac Ymwelwyr ar gyfer Cynulliad Cenedlaethol Cymru.
Mae'r arddangosfa yn rhoi cyfle unigryw i ymwelwyr gael mynediad ar y wybodaeth ddiweddaraf o bwy yw pwy, beth sy'n digwydd a sut mae'r Cynulliad yn gweithio.
Yn ôl i gychwyn y daith
|