Â鶹Éç

Explore the Â鶹Éç
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Caerdydd

Â鶹Éç Homepage
Â鶹Éç Cymru
Â鶹Éç Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

De Ddwyrain

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi a dinasoedd

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

³Ò·É±ð²µ²¹³¾±ð°ùâ³Ü

Eich Llais

Â鶹Éç Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Butetown a Bae Caerdydd
Cerfluniau Cei'r Fôrforwyn
Ewch dros y bont i'r chwith o adeilad Pen y Pier tuag at Cei y For Forwyn (Mermaid Quay), rhan sydd wedi ei adnewyddu yn gymharol ddiweddar yn llawn tafarndai a thai bwyta.
Ger glan y dŵr fe welwch y cerflun efydd hwn o bâr ifanc gyda'u ci a grëwyd gan John Clinch yn 1993. Mae'n dathlu'r bobl fu'n byw a gweithio'n lleol ym Mae Caerdydd.

Mae Bae Caerdydd, Butetown neu Tiger Bay fel y mae'n cael ei adnabod hefyd, yn wahanol iawn heddiw i'r hyn a fu.

O ganlyniad i'r twf yn Butetown yn ystod y bedwaredd ganrif ar bymtheg ac yn gynnar yn yr ugeinfed ganrif tyfodd yr ardal ddociau gyfagos i fod yn gymuned gosmopolitan gyda morwyr o bob rhan o'r byd yn gwneud Caerdydd yn gartref iddynt. Amcangyfrifir bod pobl o tua 50 o genhedloedd gwahanol wedi setlo yma.

Y gymysgfa yma o wladychwyr gynorthwyodd i adeiladu'r dociau, gweithio ar y llongau gan helpu i wasanaethu'r ddinas ddiwydiannol a morwrol hon.

Mae'r gantores Shirley Bassey, un o bobl enwoca'r ardal, yn esiampl dda o gymysgfa ddiwylliannol yr ardal. Roedd ei mam Seisnig ddosbarth gweithiol Eliza a'i thad Henry, morwr o Nigeria, yn byw yn yr ardal ethnig gymysg ddaeth i'w adnabod fel Tiger Bay.

Ceir sawl theori sut y cafodd Tiger Bay ei enw. Un theori yw bod morwyr ddeuai i Gaerdydd dros Fôr Hafren yn cyfeirio at y dŵr gwyllt fel teigrod cynddeiriog.

Roedd yr ardal yn fagnet i bobl oedd yn caru cerddoriaeth - gan ymweld â llefydd fel y Casablanca, y Quebec, y Big Windsor, y Westgate, y Bute, y Ship and Pilot a llawer mwy. Roedd dros gant o dafarnau yn Tiger Bay, nifer ohonynt bellach wedi diflannu.

Yn ogystal â'r Shirley Bassey ifanc, roedd y cerddorion lleol yn cynnwys y gitaryddion Victor Parker a Joe a Frank Deniz.

Roedd yr ardal yn hafan ar gyfer dynion du Americanaidd y lluoedd arfog oedd yn cael eu hanwybyddu gan gymunedau yn agos i'w canolfannau yn Lloegr.

  • Yn ôl i gychwyn y daith

  • Cyfrannwch
    Cyfrannwch i'r dudalen hon!

    Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
    Enw a lleoliad (e.e. Angharad Jones o Gasnewydd):

    Sylw:




    Mae'r Â鶹Éç yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch â ni.



    Caerdydd
    Cynulliad Cenedlawthol Cymru


    About the Â鶹Éç | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
    Ìý