Mae Caerdydd wedi arwyddo'r amddiffynnwr, Jlloyd Samuel, ar fenthyg o Bolton am weddill y tymor.
Roedd Caerdydd yn awyddus i arwyddo amddiffynnwr, gan fod Mark Hudson yn debygol o fod yn absennol am gyfnod o chwe wythnos, ar ôl rhwygo gewyn ei ben-glin yn ystod gêm yr Adar Gleision yn erbyn Millwall.
Nid yw Samuel, sy'n 29 oed, wedi chwarae yn nhîm cyntaf Bolton ers 27 Mawrth,2010, ac fe fydd ei gytundeb â'r clwb yn dod i ben ar ddiwedd y tymor.