Bydd , sydd wedi sgorio 11 gôl i'r Adar Gleision y tymor yma, yn colli gweddill yr ymgyrch ar ôl anafu llinyn y gar yn y gêm ddiwethaf yn erbyn Barnsley. "'Da ni'n edrych ar y posibilrwydd o arwyddo rhywun ond pwy fedrwch chi gael yr adeg yma?" dywedodd rheolwr Caerdydd Dave Jones. "Fedrwch chi ddim dweud 'reit dyma beth 'dw i eisiau' a mynd allan a'u cael nhw. Dydi o ddim yn gweithio fel yna." Ategodd Jones ei fod wedi gofyn i Arsenal pe bai modd i Aaron Ramsey ddychwelyd i'r clwb ar gyfnod arall ar fenthyg. Chwaraeodd Ramsey chwe gêm ar fenthyg i Gaerdydd ym mis Chwefror, gan ennill pedair a chael dwy gêm gyfartal. "Mae'n eithaf sicr y bydd Rambo yn aros gydag Arsenal," cyfaddefodd Jones. "Ond gawn ni weld." Dywedodd Jones fod yr anaf i Chopra yn golygu y bydd mwy o bwysau a chyfrifoldeb ar ysgwyddau Jay Bothroyd i ddechrau sgorio eto. Mae'r ymosodwr wedi mynd naw gêm heb ganfod y rhwyd, a dywedodd Jones: "Mae o angen sgorio. "Mae'n rhaid iddo weithio'n galetach i roi'r bêl yn y rhwyd. Dim ots gen i sut maen nhw'n mynd i mewn. Mae o'n mynd yn rhwystredig fel ni gyd. "Fo ydi prif sgoriwr y clwb a'r gobaith ydi y bydd o'n dechrau sgorio eto."
|