Anafu cefnogwr pêl-droed yn ystod gêm Caerdydd Wedi hanner cyntaf ddi-sgôr fe aeth yr ymwelwyr ar y blaen wedi 49 munud gydag ergyd Chris Burke yn curo'r golwr David Forde.
Ond o fewn tri munud roedd Millwall yn gyfartal gyda Liam Trotter yn sgorio o'r smotyn ar ôl i Kevin Lisbie gael ei lorio gan Gabor Gyepes.
Wedi i'r dyfarnwr wrthod cic o'r smotyn i'r ymwelwyr fe sgoriodd Lisbie gyda pheniad o groesiad Hameur Bouazza i roi tîm Kenny Jackett ar y blaen.
Ond cafwyd ymateb da gan Gaerdydd ac fe ddaethant yn agos at unioni'r sgôr pan beniodd Craig Bellamy yn erbyn y trawst.
Ac roeddynt yn gyfartal wedi 73 munud gyda Bellamy yn creu ar gyfer Peter Whittingham i sgorio gyda chynnig rhwydd.
Saith munud yn ddiweddarach roeddynt ar y blaen gyda Burke yn sgorio ei ail o'r prynhawn a hynny wedi i Forde arbed y cynnig gwreiddiol gan Bellamy.
Ond gyda thri munud yn weddill roedd Millwall i sicrhau pwynt gyda Bouazza yn canfod ymosodwr Cymru Steve Morison, dyma'n rhwydo.
Yn yr eiliadau olaf cafodd amddiffynnwr Millwall Alan Dunne ei anfon o'r maes ar ôl derbyn ei ail gerdyn melyn o'r prynhawn.
Dyma oedd yr ail benwythnos yn olynol i Gaerdydd fethu â sicrhau'r pwyntiau llawn ar ôl ildio gôl hwyr.
Millwall: Forde, Dunne, Craig, Trotter, Robinson (Purse 26), Ward, Townsend (Bouazza 60), Mkandawire, Lisbie (Harris 78), Morison, Henry.
Eilyddion: Mildenhall, Barron, Rowlands, McQuoid.
Cerdyn coch: Dunne (90).
Cerdyn melyn: Robinson, Townsend, Dunne, Morison.
Goliau: Trotter 52 pen, Lisbie 62, Morison 87.
Caerdydd: Bywater, Quinn (Blake 72), McNaughton, Hudson (Gyepes 42), Keinan, Bellamy, McPhail, Bothroyd (Parkin 29), Whittingham, Burke, Olofinjana.
Eilyddion: Brown, Naylor, Rae, Emmanuel-Thomas.
Cerdyn melyn: Gyepes, Bellamy.
Goliau: Burke 49, Whittingham 73, Burke 80.
Torf: 15,039
Dyfarnwr: Anthony Taylor (Sir Gaer).