Dim ond 27 munud o'r gêm yn erbyn Millwall gwblhawyd gan Bothroyd cyn iddo orfod gadael y cae. Cadarnhaodd rheolwr Caerdydd, Dave Jones, fod Bothroyd wedi tynnu llinyn y gar. Fel petai hynny ddim yn ddigon o gur pen i'r rheolwr, bu'n rhaid i'r amddiffynnwr canol, Mark Hudson, adael y cae hefyd, ar ôl dioddef anaf i'w ben-glin yn y munud olaf o'r hanner cyntaf. Daeth Jon Parkin ymlaen fel eilydd yn lle Bothroyd, gyda Gabor Gyepes yn cymryd lle Hudson. Un cysur i Dave Jones yw nad oes gan Gaerdydd gêm tan 2 Ebrill oherwydd y gemau rhyngwladol wythnos nesaf. Derby County fydd eu gwrthwynebwyr cyntaf ar ôl y toriad. Mae Jones yn siŵr o ystyried arwyddo ymosodwr ar fenthyg am dymor byr, o gofio mai dim ond Parkin a Craig Bellamy sy'n ffit ar hyn o bryd; a chan fod Chopra allan am weddill y tymor ar ôl iddo rwygo llinyn y gar yn ystod y gêm yn erbyn Barnsley. O ran yr amddiffyn, mae Gyepes, Darcy Blake a Dekel Keinan ar gael i gymryd lle Hudson.
|