Â鶹Éç

Archifau Gorffennaf 2011

Sibrydion Steddfod

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü:

Glyn Evans | 18:05, Dydd Sul, 31 Gorffennaf 2011

Sylwadau (0)

Mae hi'n nos Sul yn troi at fore Llun ac mae'r sibrydion a'r dyfalu am y prif seremonïau yn hen fagu traed.

Yn y Goron mae'r diddordeb mawr ar y funud gydag un stori fach amhosib cael cadarnhad iddi y bydd y bardd buddugol yn gwrthod ei Goron oherwydd mai rhodd yw hi gan brif gyfrinfa talaith gogledd Cymru y Seiri Rhyddion.

Darllen gweddill y cofnod

Eisteddfod leol go iawn?

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü:

Rhun ap Iorwerth Rhun ap Iorwerth | 13:55, Dydd Sul, 31 Gorffennaf 2011

Sylwadau (0)

Pob clod i Wrecsam a'r Fro. Bron i 18,000 ar y maes ddoe - 3000 yn fwy na'r llynedd, ac ond ychydig gannoedd yn llai nac yn Y Bala yn 2009 - a chanmol mawr yn gyffredinol ar ddiwrnod cynta'r eisteddfod.

Ond beth am heddiw? Y llynedd, diolch i gynllun tocynnau-am-ddim i bobl leol, daeth trigolion Blaenau Gwent a Blaenau'r Cymoedd yn eu miloedd i'r maes yng Nglyn Ebwy ar y dydd Sul. Roedd yn bleser clywed cymaint o acenion cymoedd Gwent yno.

Eleni, 2 docyn am 1 oedd y cynnig i bobl leol ar y penwythnos cyntaf, ond o gerdded o gwmpas y maes tua amser cinio, yr argraff gefais i oedd ei bod yn dawelach yn gyffredinol, a bod llai o acenion lleol i'w clywed.

Cefais sgwrs gyda'r Prifardd Tudur Dylan bryd hynny, a'r ddau ohonom yn gweld yr eironi o fod yn siomedig braidd o glywed cyn lleied o Saesneg ar y maes!

Wedi dweud hynny, roedd un o hoelion wyth Undeb Amaethwyr Cymru yn dweud wrtha' i ar eu stondin gyferbyn â'r pafiliwn, nad oedd modd dal fyny â'r galw am baneidiau y bore 'ma, ac mai pobl ardal Wrecsam oedd llawer o'r rheiny oedd eisiau torri'u syched.

Erbyn ganol y prynhawn, fe sylwais innau ei bod wedi llenwi. Efallai bod pawb yn y pafiliwn pan es i am dro yn gynharach - da o beth!

Uchafbwynt yr eisteddfod i fi hyd yma oedd gweld y barnwr Nic Parri, tra'n westai i fi neithiwr yn ein rhaglen uchafbwyntiau ar S4C, yn ail-greu ei ran ym mhasiant y plant eisteddfod Y Fflint 1969.

Beth oedd y rhan honno? Awyren. "Sut mae actio awyren?" gofynnais i.

"Fel hyn," meddai yntau, "a gwneud lot o sŵn", gan ledu ei freichiau nes bron â tharo fy ngwestai arall, Prydwen Elfed Owens, Llywydd Llys yr Eisteddfod yn ei hwyneb! Allwn i ddim peidio â dychmygu ei weld yn gwiso wig barnwr yn 'hedfan' o gwmpas Llys y Goron.

Roedd hi'n bleser cael ei gwmni o a Prydwen ar y rhaglen neithiwr, a dwi'n edrych 'mlaen yn fawr am sgwrs efo pennaeth cyfathrebu Maer Llundain, Guto Harri ac ennillydd y goron y llynedd, Glenys Roberts, ar y soffa heno. Mi ddylai fod yn raglen ddifyr. Digon o sgwrs a holl uchafbwyntiau'r cystadlu a'r maes.

Sul y Steddfod

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü:

Sian Lloyd Sian Lloyd | 13:15, Dydd Sul, 31 Gorffennaf 2011

Sylwadau (1)

Mae'n ddydd Sul ac yn ddiwrnod prysur iawn yma yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn Wrecsam. Ac am y tro cyntaf, dwi wedi cyflwyno Oedfa'r Bore o'r stiwdio. Cafodd y gwasanaeth ei arwain gan y Parchedig Elfed ap Nefydd Roberts a disgyblion o Ysgol Morgan Llwyd Wrecsam.

Wrth i'r oedfa ddod i ben, roedd yna gannoedd o rieni yn aros tu allan yn barod am berfformiad gan y Mudiad Meithrin. Mae'r Mudiad yn dathlu ei benblwydd yn 40 eleni ac 'roedd hi'n hyfryd gweld y plant bach lleol yn dawnsio a chanu ar y llwyfan, gyda'r rhieni balch yn gwylio. Roedd yna deimlad teuluol iawn i'r achlysur.

Dyw hi ddim mor heulog ar y Maes heddiw-roedd hi'n boeth iawn ddoe -a daeth yr ymwelwyr yn llu gydag agos at 18,000 o bobl yn tyrru i'r Eisteddfod ar y dydd Sadwrn cyntaf. Mae'n cadw'n sych mor belled ac mae'n hwylus i gerdded ar hyd y maes gan fod yna awel fach deg yma. Mae'r Maes yn edrych yn gret-mae yna deimlad o ofod a gwyrddni o'n cwmpas er ei bod hi nepell o ganol tref Wrecsam.

Ces i gyfle i gael sgwrs gyda thri allan o'r pedwar dysgwr sydd wedi cyrraedd rownd derfynol Cystadleuaeth Dysgwr y Flwyddyn. Mae'n mynd i fod yn dasg go anodd i'r beirniaid benderfynu ar enillydd ddydd Mercher nesa. Roedd hi'n ddifyr iawn gwrando ar straeon Kay Holder, Neil Wyn Jones a Sarah Roberts.

Pnawn ma bydd y cystadlu yn ei anterth -mwy o fandiau pres, corau ac mae hyd yn oed dawnsio disgo a hip hop. Rhywbeth at ddant pawb! Yn y Babell Len fydd na ddathliad o waith Aled Lewis Evans-y Bardd Cymreig fu'n gymydog i mi wrth i mi dyfu i fyny yn Wrecsam.

Mae'n andros o brysur a dwi heb gael cyfle i siopa eto. Mae'r stondinau'n edrych yn ddiddorol iawn ac mae gen i fy ffefrynnau -dwi'n siwr wnai ffeindio'r amser cyn diwedd yr wythnos!

Nia Lloyd Jones - o gefn llwyfan dydd Sadwrn

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü:

Blogiwr Gwadd | 01:26, Dydd Sul, 31 Gorffennaf 2011

Sylwadau (0)

Bob dydd bydd Nia Lloyd Jones Â鶹Éç Radio Cymru yn cyfarfod cystadleuwyr yng nghefn llwyfan Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam.

Dyma ei chyfraniad cyntaf:

Darllen gweddill y cofnod

Dyddiau appus Steddfodau fu

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü:

Glyn Evans | 16:41, Dydd Sadwrn, 30 Gorffennaf 2011

Sylwadau (0)

A fuo chi yno neu beidio mae cyfle ichi gael tynnu eich llun yn rhai o eisteddfodau cofiadwy y gorffennol ar faes yr Eisteddfod yn Wrecsam yr wythnos hon.

Mae hynny'n cynnwys eisteddfodau 1977, 1933 a 1912 yn Wrecsam ei hun. Neu Eisteddfod Aberdâr yn 1956.

Darllen gweddill y cofnod

Argraffiadau cyntaf Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam 2011

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü:

Rhun ap Iorwerth Rhun ap Iorwerth | 13:40, Dydd Sadwrn, 30 Gorffennaf 2011

Sylwadau (0)

Mae argraffiadau cyntaf yn rhai pwysig meddan nhw, ac os felly mae'n argoeli'n dda i Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam a'r Fro 2011. Maes bendigedig, (gyda digon o le i'r picnics na chafwyd ar safle carregog yr hen waith dur yng Nglyn Ebwy y llynedd), mae'r safle'n un cyfleus i'w gyrraedd oddi ar ffordd yr A483 ac yn agos at y dref, a'r carafannau a phebyll o fewn tafliad carreg i faes yr Eisteddfod ei hun...Ac mae yna haul, wel, mor belled!

Welais i fawr o faneri a fflagiau ac ati i groesawu'r eisteddfod i'r fro wrth ddod mewn o'r gorllewin - dewch, bobl Bersham! Ond a bod yn deg, dwi ddim eto wedi cael cyfle i fynd i'r cyfeiriad arall eto, tua tref Wrecsam. Ond heb os mae 'na frwdfrydedd mawr ymhlith y rheiny sydd wedi bod yn gweithio mor galed yn yr ardal dros y blynyddoedd diwethaf i baratoi am y brifwyl.

Dwi'n edrych ymlaen i gael cyflwyno rhaglenni nos fymryn yn wahanol eleni. Mi fyddwn ni'n darlledu'n fyw bob nos o'n stiwdio ar y maes, yn crynhoi'r holl gystadlu ac yn rhoi blas i chi o'r amrywiol weithgareddau o gwmpas y maes a thu hwnt.

Ond hefyd eleni bydd gwesteion arbennig yn cadw cwmni i fi yn nosweithiol. Mi gawn ni gyfle i drafod gweithgareddau'r dydd ond hefyd bydd siawns i rannu profiadau eisteddfodol dros y blynyddoedd a thrafod ambell i bwnc llosg.

Heno, bydd y barnwr a'r arweinydd llwyfan, Nic Parry, yn gwmni i fi, yn ogystal â Prydwen Elfed Owens. Hi ydi Llywydd Llys yr Eisteddfod, nid Llywydd ''Llŷr" yr Eisteddfod, fel y dwedais i ar S4C y bore 'ma mae'n debyg! Ymddiheuriadau am hynny. Pwy yw Llŷr tybed? Efallai y dof i o hyd iddo fo ar fy nheithiau o gwmpas y maes dros yr wythnos nesaf!

Cyryglau ar y Maes

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü:

Glyn Evans | 13:06, Dydd Sadwrn, 30 Gorffennaf 2011

Sylwadau (0)

Atyniad poblogaidd ar faes yr Eisteddfod yw pwll lle gellir hwylio mewn cwrwgl.

Trefnwyd y reidiau cwrwgl i dynnu sylw at weithgarwch mudiad Avow ar y Maes - Cymdeithas Mudiadau Gwirfoddol Wrecsam.

Darllen gweddill y cofnod

O Wrecsam

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü:

Elin Dawes Elin Dawes | 10:30, Dydd Sadwrn, 30 Gorffennaf 2011

Sylwadau (0)

Gydol yr wythnos mi fyddwn ar faes y Brifwyl yn Wrecsam yn dod â'r diweddaraf i chi ar wefan yr Eisteddfod. Y straeon, newyddion, a'r canlyniadau diweddaraf a gallwch wylio'r cystadlu'n fyw o'r Pafiliwn, yn rhyngwladol, o 10:00 y bore tan yr hwyr, gydol yr wythnos - yma.

Canlyniadau

Straeon o'r Maes


Darlith Undeb

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü:

Glyn Evans | 08:33, Dydd Sadwrn, 30 Gorffennaf 2011

Sylwadau (0)

Cenhadon a fu'n gwasanaethu yn India yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg fydd testun darlith Undeb Cymru a'r Byd ar faes yr Eisteddfod yn Wrecsam ddydd Iau.

Darllen gweddill y cofnod

Gwobr Pat Neill

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü: ,Ìý

Glyn Evans | 07:59, Dydd Sadwrn, 30 Gorffennaf 2011

Sylwadau (1)

Bydd ferch ifanc sy'n derbyn Gwobr Pat Neill i feirdd ifanc yn y Babell Lên bnawn Iau yn pontio'r blynyddoedd ag Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam 1933.

Cyn Ymryson y Beirdd yn y Babell bydd cadair fechan Gwobr Pat Neill yn cael ei chyflwyno i Magi Tudur, Penisa'rwaun ger Caernarfon.

Darllen gweddill y cofnod

Ar y map - ddim

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü:

Glyn Evans | 14:40, Dydd Gwener, 29 Gorffennaf 2011

Sylwadau (0)

Ambell un mewn straffîg yn barod yn ceisio dod o hyd i leoedd ar y maes.
Ac fel ambell i Sat Nav dydi'r map o'r maes sy'n cael ei rannu ddim o help chwaith.

Y stondinau rhwng 101 a 124 sydd heb eu nodi.


rhan o fap y maes

I'r rhai sy'n dal i grwydro a chwilio maen nhw, ar y map, yn y rhes o dan stondinau 135 a 136 - 'chydig 'uwchben' y Pafiliwn ar ddalen ochr chwith y map.

Geirie Nhw

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü: ,Ìý

Glyn Evans | 12:34, Dydd Gwener, 29 Gorffennaf 2011

Sylwadau (0)

Casgliad o sylwadau a welwyd yn y wasg ac a glywyd ar y cyfryngau Cymreig yn ystod yr wythnos.


Darllen gweddill y cofnod

Clipiau archif o'r Eisteddfod

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü:

Gwenan Rogers Gwenan Rogers | 11:51, Dydd Iau, 28 Gorffennaf 2011

Sylwadau (0)

Gan fod yr Eisteddfod Genedlaethol yn dathlu'i phen blwydd yn 150 oed eleni, mae clipiau archif wedi eu rhoi ar wefan Eisteddfod Genedlaethol Â鶹Éç Cymru.

Mae cyfle i wylio clasuron fel seremoni'r Coroni yn Wrecsam yn 1977, Robat Powell y dysgwr Cymraeg cyntaf i ennill y Gadair yn 1985, a Cynan yn trafod ennill y Goron yn 1921.

Gwyliwch y clipiau yma.

Cofio'r Gadair Ddu gyntaf

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü:

Glyn Evans | 09:25, Dydd Iau, 28 Gorffennaf 2011

Sylwadau (0)

Yr ydym i gyd yn cofio am Eisteddfod Cadair Ddu Hedd Wyn ym Mhenbedw 1917. Ond nid dyna'r unig Eisteddfod Cadair Ddu.

Dyna hanes Eisteddfod Wrecsam 1876 - yr Eisteddfod Cadair Ddu gyntaf.

Darllen gweddill y cofnod

Cyffro a chythrwfl

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü:

Glyn Evans | 08:19, Dydd Iau, 28 Gorffennaf 2011

Sylwadau (0)

A hithau'n dathlu ei chanrif a hanner eleni mi fu na o'r cychwyn bwyslais mawr ar hel atgofion gydag Eisteddfod |Genedlaethol Wrecsam a'r Fro.

Mae hynny'n amlwg iawn yng nghyfrol Rhaglen y Dydd .

Darllen gweddill y cofnod

Cadair deilwng i dri ar ddeg

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü:

Glyn Evans | 18:15, Dydd Mawrth, 26 Gorffennaf 2011

Sylwadau (0)

Un deg tri sydd wedi ymgeisio am y Gadair yn Eisteddfod Wrecsam eleni - ac fe all pa un bynnag ohonyn nhw wnaiff ennill gyfrif ei hun yn ffodus o'i gadair.

Mae'r gadair yn un hynod o hardd ac yn rhodd gan
Gwmni Teithio Seren Arian, sydd, fel mae cyd-ddigwyddiad yn mynnu, a'i brif swyddfa yn - 13 Y Maes, Caernarfon!


Darllen gweddill y cofnod

Geiriau Rhai

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü:

Glyn Evans | 11:13, Dydd Gwener, 22 Gorffennaf 2011

Sylwadau (0)

Casgliad o sylwadau a welwyd yn y wasg ac a glywyd ar y cyfryngau Cymreig yn ystod yr wythnos.

Darllen gweddill y cofnod

Rhai geiriau

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü:

Glyn Evans | 09:31, Dydd Gwener, 22 Gorffennaf 2011

Sylwadau (0)

Casgliad o sylwadau a welwyd yn y wasg ac a glywyd ar y cyfryngau Cymreig yn ystod yr wythnos.

Darllen gweddill y cofnod

Dewis eu geiriau

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü:

Glyn Evans | 10:24, Dydd Gwener, 15 Gorffennaf 2011

Sylwadau (0)

Casgliad o sylwadau a welwyd yn y wasg ac a glywyd ar y cyfryngau Cymreig yn ystod yr wythnos.


Darllen gweddill y cofnod

Beth sy' mlaen yn Eisteddfod Wrecsam

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü:

Elin Dawes Elin Dawes | 16:51, Dydd Iau, 14 Gorffennaf 2011

Sylwadau (0)

Os ydych chi'n brysur yn cynllunio ble i fynd a beth i'w wneud yn ystod wythnos yr Eisteddfod Genedlaethol yn Wrecsam, yna gallwch ddefnyddio calendar digwyddiadau gwefan Eisteddfod Â鶹Éç Cymru sydd â'r manylion diweddaraf.

Am restr lawn o gigs, nosweithiau Maes C, dramâu, sioeau a chyngherddau'r Pafiliwn, cliciwch ar Beth sy' Mlaen.

Geiriau'r wythnos

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü: ,Ìý,Ìý

Glyn Evans | 07:13, Dydd Gwener, 8 Gorffennaf 2011

Sylwadau (0)

Casgliad o sylwadau a welwyd yn y wasg ac a glywyd ar y cyfryngau Cymreig yn ystod yr wythnos.


Darllen gweddill y cofnod

Pobol a beirniaid

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü: ,Ìý

Glyn Evans | 21:41, Dydd Iau, 7 Gorffennaf 2011

Sylwadau (0)

Braf medru dweud "Mi ddeudis i" a llongyfarch Ned Thomas am fynd â gwobr Llyfr y Flwyddyn 2011 gyda'i hunangofiant, Bydoedd.

A'r fath ganmoliaeth gan y Dr Simon Brooks, cadeirydd y beirniaid. Hunangofiant gorau'r ganrif medda fo - ond mae digon o amser i eraill ragori ar hynny gan mai ond deng mlynedd o'r ganrif hon sydd wedi mynd!

Darllen gweddill y cofnod

Gwefan Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü: ,Ìý

Elin Dawes Elin Dawes | 14:51, Dydd Gwener, 1 Gorffennaf 2011

Sylwadau (0)

Gyda mis yn unig i fynd tan yr Eisteddfod Genedlaethol yn Wrecsam, rydyn ni'n edrych ymlaen at yr ŵyl ar wefan Eisteddfod Genedlaethol Â鶹Éç Cymru. Yn ogystalÌýâ chanllaw, mae gwybodaeth am leoliadau'rÌýMaes, y maes carafanau a Maes C a gwybodaeth amÌýarlwy'r nos, gigs Maes B a Chymdeithas yr Iaith. Byddwn yn cyhoeddi map o'r prif leoliadau hyn a thaith y bws wennol ar y wefanÌýddiwedd fis Gorffennaf.

Ìý

Yn ystod wythnos gyntaf mis Awst, dyma'r lle i ddod i wylio'r hollÌýgystadlu'n fyw o'r Pafiliwn, i weld y canlyniadau'n llawn gydol yr wythnos a gwylio clipiau fideo o'r enillwyr yn ogysal â darllen y straeon o'r Maes a'r newyddion diweddaraf.

Ìý

Gallwch hefyd ein dilyn ar Twitter - mwy o fanylion yn fuan.Ìý

Ìý

Am y diweddaraf, ewch i wefan Eisteddfod Genedlaethol Â鶹Éç Cymru.

Ìý

Ìý

Geiriau'r wythnos

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü:

Glyn Evans | 08:40, Dydd Gwener, 1 Gorffennaf 2011

Sylwadau (0)

Casgliad o sylwadau a welwyd yn y wasg ac a glywyd ar y cyfryngau Cymreig yn ystod yr wythnos.


Darllen gweddill y cofnod

Â鶹Éç iD

Llywio drwy’r Â鶹Éç

Â鶹Éç © 2014 Nid yw'r Â鶹Éç yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.