'Bydoedd' gan Ned Thomas yw Llyfr y Flwyddyn 2011.
Derbyniodd yr awdur wobr o £10,000 mewn seremoni fawreddog yng Nghaerdydd nos Iau, Gorffennaf 7, 2011.
Disgrifiodd y Dr Simon Brooks, cadeirydd y panel beirniaid, y llyfr fel "campwaith" sy'n "hunangofiant Cymraeg gorau'r ganrif".
"Mae Bydoedd Ned Thomas yn gampwaith. Dyma hunangofiant rhyfeddol mewn arddull gwaraidd, yn bwrw golwg ar hanes Ewrop a Chymru ers yr Ail Ryfel Byd," meddai.
"Cymro gwlatgar yw Ned, ond nid ar gyfer y Gymru fewnblyg mae'n ysgrifennu. Wedi'i nodweddu gan dreiddgarwch hynod, mae Ned yn manteisio ar ei brofiadau rhyngwladol i'r eithaf, gan ddadansoddi lle Cymru yn y byd. Gyda sylwgarwch cymdeithasol ar bob tudalen bron, dyma hunangofiant Cymraeg gorau'r ganrif," ychwanegodd.
Derbyniodd awduron y ddau lyfr arall oedd ar y rhestr fer, Dewi Prysor ac Angharad Price, £1,000 yr un a nofel Dewi Prysor, Lladd Duw oedd dewis y bobl yn dilyn pleidlais ar-lein..
Newid y drefn
Hon yw'r flwyddyn olaf i'r gystadleuaeth gael ei chynnal ar ei ffurf bresennol gyda phob math o wahanol lyfrau yn cystadlu yn erbyn ei gilydd.
Y flwyddyn nesaf penderfynodd 'Llenyddiaeth Cymru' y bydd gan farddoniaeth, ffuglen a ffeithiol eu hadrannau eu hunain o fewn y gystadleuaeth gyda thebyg yn cystadlu yn erbyn eu tebyg.
Ond er nad oes fawr neb neb yn hapus â'r drefn bresennol mae'r dadlau wedi dechrau ynglŷn â phriodoldeb y drefn newydd hefyd gyda rhai yn amau a oes digon o farddoniaeth Gymraeg addas yn cael ei chyhoeddi i haeddu ei hadran ei hun.
Eleni, dim ond un gyfrol o farddoniaeth oedd ymhlith y deg uchaf, Murmuron Tragwyddoldeb a Chwnigod Tjioclet gan Gwyn Thomas ond ni lwyddodd honno i gyrraedd y rhestr fer o dri.
Codi bwganod
Cyn belled yn ôl a mis Mai, yn Barn yr oedd John Rowlands yn codi bwganod am y drefn newydd arfaethedig.
"Rhyfedd yw meddwl," meddai am rannu'r llyfrau'n gategorïau ffuglen, ffeithiol a barddoniaeth, "y gall hynny hefyd greu annhegwch.
"Ystyrier," medda fo, "mai dim ond un gyfrol o gerddi sydd ar y Rhestr Hir eleni, sef eiddo Gwyn Thomas. Petai yna gystadleuaeth ar gyfer y beirdd yn unig, byddai llyfr Gwyn Thomas yn cael buddugoliaeth rwydd, heb lawer o gystadleuaeth.
"Ond y mae pedair nofel ar y Rhestr Hir, ynghyd â chyfrol o straeon byrion, sy'n awgrymu bod ffuglen Gymraeg yn rhagori ar farddoniaeth ar hyn o bryd.
"Wrth gwrs, fe all pethau newid yn ddisymwth. Ac a fydd raid dewis beirniaid gwahanol ar gyfer y gwahanol gategorïau?
"Diddorol fydd gweld sut bydd y gystadleuaeth yn esblygu," meddai.
Beth bynnag, fydd hynny yn mennu dim ar lawenydd Ned Thomas eleni wrth iddo dderbyn y llu o longyfarchion yn dilyn siom methu a chael mae papur dyddiol Cymraeg i'r wal.
Yr un wasg
Cyhoeddwyd y tri llyfr ar y rhestr fer eleni - dwy nofel a chofiant - gan yr un wasg, Y Lolfa:
- Lladd Duw , nofel gan Dewi Prysor.
- Caersaint , nofel gan Angharad Price.
- Bydoedd: Cofiant Cyfnod , hunangofiant gan Ned Thomas.
Dewiswyd y tri llyfr o blith deg o lyfrau ar Restr Hir a gyhoeddwyd fis Ebrill gan Llenyddiaeth Cymru sy'n trefnu'r gystadleuaeth.
Disgrifiodd cadeirydd y beirniaid, y Dr Simon Brooks, y ddwy nofel fel rhai gwych a chofiant Ned Thomas fel "campwaith".
"Dyma ddwy nofel wych am ddylanwad y byd ar Gymru ac un campwaith o gofiant am Gymru yn y byd. Rwy'n siŵr y bydd cyfraniad y tri awdur i lenyddiaeth Gymraeg yn arhosol, ac rydym yn llongyfarch y tri llenor ar eu camp," meddai ar ran ei gydfeirniaid Gerwyn Williams a Kate Crockett.
Llyfrau Saesneg
Cloud Road gan John Harrison enillodd y wobr Saesneg.
Y ddau lyfr arall ar y rhestr fer oedd;
- What the Water Gave Me gan Pascale Petit (Seren, 2010)
- Terminal World gan Alastair Reynolds (Gollancz, 2010)
Fireball gan Tyler Keevil oedd ffefryn y bobl.
Disgrifiodd 'Llenyddiaeth Cymru', sy'n trefnu'r digwyddiad, y seremoni wobrwyo yn Cineworld, Caerdydd fel un "steil Oscars carped coch" gydag adloniant gan Bois yr Ysgol Gerdd a'r DJs The Vinyl Vendetta.