Â鶹Éç

« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Darlith Undeb

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü:

Glyn Evans | 08:33, Dydd Sadwrn, 30 Gorffennaf 2011

Cenhadon a fu'n gwasanaethu yn India yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg fydd testun darlith Undeb Cymru a'r Byd ar faes yr Eisteddfod yn Wrecsam ddydd Iau.

Traddodir y ddarlith, William a Mary Lewis, Cherrapuji a Wrecsam, gan y Parchedig Elfed ap Nefydd Roberts a fu'n weinidog gyda'r Presbyteriaid yn Wrecsam ac yn bennaeth y Coleg Diwinyddol yn Aberystwyth.

Cymuned ym mynyddoedd Casia oedd Cherrapunji a chyrhaeddodd William a Mary Lewis yno yn 1843.

Traddodir y ddarlith ym Mhabell y Cymdeithasau 2 am 11.30 o'r gloch ac fe'i dilynir gan gyfarfod blynyddol Undeb Cymru a'r Byd.

Â鶹Éç iD

Llywio drwy’r Â鶹Éç

Â鶹Éç © 2014 Nid yw'r Â鶹Éç yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.