Â鶹Éç

« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Cadair deilwng i dri ar ddeg

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü:

Glyn Evans | 18:15, Dydd Mawrth, 26 Gorffennaf 2011

Un deg tri sydd wedi ymgeisio am y Gadair yn Eisteddfod Wrecsam eleni - ac fe all pa un bynnag ohonyn nhw wnaiff ennill gyfrif ei hun yn ffodus o'i gadair.

Mae'r gadair yn un hynod o hardd ac yn rhodd gan
Gwmni Teithio Seren Arian, sydd, fel mae cyd-ddigwyddiad yn mynnu, a'i brif swyddfa yn - 13 Y Maes, Caernarfon!


Dim ond gobeithio na fydd yr holl dri ar ddegau yna yn felltith ac y bydd yna enillydd - yn enwedig o gofio mai dyma'r nifer fwyaf i gystadlu am y Gadair ers eisteddfod Yr Wyddgrug, 1991.

Dadorchuddio'r gadair y pnawn 'ma

Dilwyn Jones, Celfi Derw, wnaeth y gadair ond dywedodd iddo fod yn ymgynghori â myfyrwyr Prifysgol Glyndwr, Wrecsam.

O'i chymharu ag ambell i gadair ddiweddar y mae'n fwy traddodiadol ei gwedd ond yn drawiadol serch hynny

Mae gan Wrecsam eitha traddodiad o gadeiriau trawiadol yn bennaf honno a waned yn China ar gyfer Eisteddfod 1933 wedi ei rhoi gan y Dr John Robert Jones, bargyfreithiwr llwyddiannus yn Shanghai.

Yn frodor o Lanuwchllyn bu farw yn Hong Kong yn 1976.

Comisiynodd ef grefftwyr o gartref plant amddifad Catholig yn Shanghai i wneud y gadair ac un arbennig oedd hi hefyd mewn coedyn du, du, a chyda phob math o addurniadau.

Er nad mor addurniadol mae cadair 2011 - gyda phedwar gwahanol goedyn ynddi; cedrwydd, sycamor, Wenge Affricanaidd a derwen Gymreig o gaeau'r Rhiwlas, Y Bala - yn diogelu traddodiad Wrecsam o gadeiriau gwerth chweil.

Mae gan Wrecsam hefyd, wrth gwrs, draddodiad o eisteddfodau dwbwl ac mae dyfalu yn barod ai'r un bardd fydd yn ennill y gadair a'r goron yno eleni eto gan efelychu camp Syr T H Parry-Williams a Donald Evans yn y dref.

Byddwn hanner ffordd at wybod hynny ddydd Llun - dim ond gobeithio nad oes arwyddocâd i'r triarddegau 'na.

Â鶹Éç iD

Llywio drwy’r Â鶹Éç

Â鶹Éç © 2014 Nid yw'r Â鶹Éç yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.