Â鶹Éç

« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Nia Lloyd Jones - o gefn llwyfan dydd Sadwrn

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü:

Blogiwr Gwadd | 01:26, Dydd Sul, 31 Gorffennaf 2011

Bob dydd bydd Nia Lloyd Jones Â鶹Éç Radio Cymru yn cyfarfod cystadleuwyr yng nghefn llwyfan Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam.

Dyma ei chyfraniad cyntaf:

Dydd Sadwrn:

Wel blwyddyn newydd dda i chi unwaith eto!!
Ia dyma fi nôl yng nghefn llwyfan - y lle gorau yn yr Eisteddfod o ran gweld pobl a rhoi'r byd yn ei le!

Mae pawb yma; yn gystadleuwyr, yn gefnogwyr, yn bobl yno dan orfodaeth heb anghofio ambell i anti hefyd!

Brwydr y bandiau oedd hi'n bennaf heddiw, ac ambell i gystadleuaeth dan 12 fel pupur a halen ar y wledd hefyd.

Mae Band Crwbin yn sioe deuluol go iawn gyda'r tad, Julian Jones yn arwain a'r ddau fab, Trystan a Meredydd yn y band hefyd.


Meredydd

Tro Meredydd oedd hi i ddisgleirio ddoe gan fod ganddo unawd ar y drymiau. Dychmygwch yr holl sŵn wrth ymarfer ar gyfer hynny....

Y corau cymysg ddaeth i'r llwyfan wedyn - clamp o gystadleuaeth gyda phum côr yn cystadlu - a dau ohonyn nhw o Rosllannerchrugog!

Côr Llanddarog a'r Cylch ddaeth i'r brig - am yr ail flwyddyn yn olynol dan arweiniad meistrolgar Meinir Richards, Côr Rhuthun yn ail a Chôr Bro Meirion yn drydydd.

Iwan Wyn Parry oedd yn arwain Côr Bro Meirion - a'r creadur bach yn socian wrth ddod oddi ar y llwyfan. Wir i chi! Socian go iawn.

Mi roeddwn i wedi bod yn rhagbrawf y llefaru dan 12 oed bore ma - gyda thua 45 yn cystadlu! Braf iawn wedyn oedd cael sgwrs efo'r tair ar y llwyfan, Ania Moore, Anest Non Eirug a Leisa Gwenllïan.
A sôn am sgwrsio!!

Roedd Leisa yn cyfaddef ei bod wedi gwirioni'n lan cael bod ar y llwyfan - a hynny am y tro cyntaf - a'i fod yn brofiad ffantastig!! Mae'n amlwg bod y beirniaid yn cytuno hefyd - gan mai Leisa ddaeth i'r brig heddiw.

At yr Unawd Cerdd Dant dan 12 oed, a'r tri ar y llwyfan oedd Llio Meirion Rogers, Erin Meirion a Cai Fôn Davies.

Mae Llio ac Erin yn dipyn o ffrindiau, ond mi ro'n i'n poeni braidd eu bod nhw wedi bod yn cwffio cyn dod i'r llwyfan gan fod gan Erin lygad ddu. Ond na, wedi bod yn dringo gol yn nhÅ· Nain a Taid oedd Erin ac wedi disgyn.

Yn amlwg mae hi'n athletwraig yn ogystal a bod yn gantores!

Cai Fon enillodd heddiw - ac mi roedd o'n cyfaddef ei fod o'n nervous wreck pan ddechreuodd o ar y busnes steddfodta 'ma ond erbyn hyn mae hi'n mynd yn haws! (11 oed ydi o!!)

Ac i gloi, llongyfarchiadau mawr i Fand Llanrug - enillwyr Bandiau pres Dosbarth 2. Dyma ichi fand ifanc a bywiog dan arweiniad Paul Hughes. Dim ond ei gefn o welson ni heddiw, ond fe fydd Paul yn ôl ar y llwyfan mawr sawl gwaith yn ystod yr wythnos yn chwythu'r corn gwlad hefyd.

Bydd blog newydd gan Nia yfory . . .

Â鶹Éç iD

Llywio drwy’r Â鶹Éç

Â鶹Éç © 2014 Nid yw'r Â鶹Éç yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.