Cerddi Rownd 1 2023
1 Trydargerdd (sef cerdd gaeth neu rydd sydd, fel un o negeseuon Twitter, heb fod dros 280 o nodau cyfrifiadurol): Crynodeb o 2022
Penllyn
Yma o hyd y mae o - yn canu,
Yn cynnau fflam eto
Yng nghalon cochion a’u co.
Arwr, a’r wal yn morio.
Beryl Griffiths 8
Bro Alaw (JWJ)
Pigiada y ffliw, yr eryr, corona, teimlo fel pincws ond dwi’n dal yma.
Pawb dan y felan ond Carlo sy’n mynnu gwthio ei fab yn dywysog ar Gymru.
4 canghellor a 3 prifweinidog, yr ecomomi’n syrthio o’r ciami i’r codog.
2022 mewn un frawddeg fechan? Cofid i ddechrau a gofid i orffan.
John Wyn Jones 8
Putin a Boris wirion,
Rishi, Truss a Thregaron
Covid, Wcráin, ’Yma o hyd’
Cwpan byd, a thor-calon.
2 Cwpled caeth yn cynnwys enw unrhyw aderyn ysglyfaethus
Penllyn
Cysgod, a dacw’i osgo
A’r ffowls, rhag y gwalch, ar ffo.
Beryl Griffiths 8.5
Bro Alaw (KO)
Uwch y glog mae’r hebog hy’n
Troi ennyd cyn trywanu.
Ken Owen 8
“Y gwalch, hed ar adain gain,
Hela â’i grafanc filain.
Yn ein hoes a welwn ni
Eryrod yn Eryri?
Daw’r gwalch o hyd i gylchu
Uwch llecyn y deryn du.
Ni all y cry’ drechu’r dryw
Yn y rhwyd eryr ydyw.
Un reddf fel fy ngwehelyth:
“Mae barcud yn farcud fyth.”
3 Limrig yn cynnwys y llinell ‘Mae’n gynnar, ond hawdd yw proffwydo’
Penllyn
Mae’n gynnar, ond hawdd yw proffwydo
Na ddylai fy nhad i gonsurio,
Aeth ati mor daer
I lifio fy chwaer,
A dwy hanner chwaer sgen i heno.
Aled Jones 8.5
Bro Alaw
“Mae’n gynnar ond hawdd yw proffwydo,”
Cawn steddfod o gega a chwyno
Yn Ll欧n ac Eifionydd
Oherwydd y lonydd -
Bydd “Yma o Hyd” yn atseinio.
John Wyn Jones 8.5
Mae’n gynnar ond hawdd yw proffwydo
Y byddwn yn sicr o lwyddo,
Rob Page wrth y llyw
I’n cadw yn fyw
A Bale fydd yn dduw ac yn sgorio.
Newydd syrthio i’r môr mae Waldo,
Gan godi ei law i ffarwelio,
Yn awr mae o’n gweiddi
Ei fod ar fin boddi,
Mae’n gynnar ond hawdd yw proffwydo.
Mae’n gynnar ond hawdd yw proffwydo”
Bydd rhywle dan dd诺r leni eto,
Ond pan lifa’r cach
I gartrefi y crach
Mae siawns fach y byddan nhw’n gwrando.
“Mae’n gynnar ond hawdd yw proffwydo”
Bydd gormod ohonom i’n bwydo,
Ond dim ots am hynny
Dan ni’n si诺r o ffynnu,
Fel teulu bach DEADwydd y Dodo!
4. Cywydd (heb fod dros 12 llinell): Papur neu Papurau
Penllyn
Hen gasgliad o doriadau
Yn eu print sydd yn parhau.
Plant a’u llwyddiant mewn llun,
Erthygl am un sy’n perthyn.
Roedd o’i fewn amseroedd fu
Am ei luniau’n melynu.
A boed haf a bywyd dau
I gyd rhwng y plygiadau.
Fe welaf law ofalus
Penteulu lle bu ei bys.
Mae mwyniant mam ei hunan
Yma ymysg y darnau mân.
Al T欧 Coch 8.5
Bro Alaw (RPJ)
Mae ’na 诺r sy’n mynnu wal
O aur coeth yn lle’r cwthwal,
Mynnu mur, i’w bapuro,
Yn ’sblander ei wychder o!
Tra bo arall heb allu
Byth ganddo i dwymo’i d欧,
A phob wal yn creu salwch
Gyda’r llwydni drosti’n drwch;
Yntau’n byw i’w blentyn bach,
Yn llwgu dros fab llegach;
A does dim all godi st诺r,
Anfadyn yw mewnfudwr.
Richard Parry Jones 9
5 Pennill ymson gyrrwr neu yrwraig lori
Penllyn
Hon ydi fy nhaith gynta,
Ond be ydwi’n neud yma?
Yn LlanARTH y mae’r llwyth a’r gêr,
Ond LlanBER ydi fan’ma.
Beryl Griffiths 8
Bro Alaw
Roedd yr M25 yn ddiawchedig,
Protestwyr yn ’nghadw i’n gaeth,
Gorfod croesi fy nghoesa’ am oria’ –
Ond mae’r bont dros y Fenai yn waeth.
John Wyn Jones
Sut mod i yn Llandudno
Dwi’m isio mynd i fanno,
Llandrindod mae y llwyth o de,
Dwi ddim y gore’n teipio.
Y Scania sydd yn mygu
pan rof fy nrhoed i lawr,
A’r Gwyddal yn ‘sgyrnygu
wrth lyw ei Volvo fawr,
Fel gwedd y gwnawn ni gerdded,
gan lenwi y ddwy lôn,
I bawb gael dysgu ciwio
cyn croesi’r bont i Fôn!
6 Cân ysgafn (heb fod dros 20 o linellau): S4C yn Ddeugain Oed
Penllyn
Rhyw fywyd reit unig gadd Cedric, ac yntau yn sengl erioed,
Ond, diwrnod ei ben-blwydd yn ddeugain, cyhoeddodd fod newid ar droed,
’Di syrthio mewn cariad yr oedd o, â hogan a weithiai mewn s诺,
A Swsan oedd enw ei feinwen, a galwai ei hun yn Sw S诺
Roedd Cedric di mopio amdani, ac am ddangos ei serch i Sw S诺
Felly ffwrdd ag o un ben bore, ar ei ben i’r parlwr tat诺!
Roedd awydd tat诺...hir...personol, sef, ‘Swsan for Cedric am oes”,
Ond pwtyn bach byr ydoedd Cedric, a fawr iawn o le ar ei goes!
“Dim ots”, meddai’r artist yn rhadlon, “mi wnaf fersiwn fyrrach i chi.”
Ac yn lle bod “Swsan for Cedric”, yn syml, yr oedd Es Ffor Si ,
Ond o! y siom gafodd Cedric, ni hoffai ei wejen dat诺
A chan droi yn chwim ar ei sawdl, dychwelyd wnaeth S诺 nôl i’w s诺.
A dyna pryd ddalltodd o Cedric fod tat诺 yn rhywbeth am oes
A phetai yn cyfarfod merch arall, byddai raid iddo dorri un goes!
Ond troi ei olygon at arddio a wnaeth i lonni ei galon,
A’i dat诺 sy’n nawr yn dynodi “Swejen 4 Cedric” sydd ddigon!
Aled Jones 8.5
Bro Alaw (GJ)
Mae rhifyn cofrodd crand o “Sbec” yn dathlu’r deugain oed
Fel tun sardîns o luniau’r sêr anwylaf fu erioed.
Holl gymwynaswyr yr “Awr Fawr” o Superted i Cyw
Stwnsh Sadwrn, Wynff, pob Pantomeim yn cadw’n hiaith yn fyw.
Cofnodwyd llwyth o glecs y Cwm ac ambell sgandal fain
Y golygfeydd cofiadwy – bu’n rhaid dewis un o’r rhain,
Sef wagen gaca Densil gynt, yn ddiwyd wrth y gwaith,
A’r ogla’n dal yr un mor gryf ar ôl blynyddoedd maith.
Dramâu, Rhaglenni Dogfen, Cnex, pob Steddfod, G诺yl Gerdd Dant,
Nosweithiau Llawen, troeon trist a’r trwstan – wrth y cant.
Pob smonach gaed i greu “Traed Moch”, y ffars a’r hiwmor sych,
Sylwebwyr rygbi a phêl-droed - yn unllygeidiog wych.
Fe roddwyd deg tudalen lawn i holl raglenni Dai
Ac yn y canol, ar draws dwy, y dyn ei hun – neb llai.
A lluniau eraill o bob steil dros y degawdau hyn,
Pob tei a wisgodd Dewi Llwyd, holl ffrogiau Margaret Bryn.
A’r strocan - llun o Magi Post, i selog griw pêj thri
Gael treulio’r gaea’n meddwl sut caed hon i’w bici-ni.
Geraint Jones 8
7 Ateb llinell ar y pryd – Nid yw hi’n iawn ein bod ni
Penllyn
Nid yw hi’n iawn ein bod ni
Na’r Talwrn ar y teli
Beryl Griffiths
Bro Alaw
Nid yw hi’n iawn ein bod ni
Na’r we y gorfod rhewi
Ken Owen 0.5
8 Telyneg (heb fod dros 18 llinell): Llond Dwrn
Penllyn (HLl)
Hel Hadau
Rwy'n od - meddai,
yn mynnu gwasgu
o bennau gwyw blodau
ha' bach Mihangel,
yr hadau,
a'u dal
yn atgo fel hen lun sepia
yng nghledr llaw,
yna'u tywallt i bapur llwyd
- labelu.
Mor syml heddiw meddai hi,
yw prynu hadau -
sweipa,
pingia -
gold y gors,
blodau'r haul
milddail -
(ond
nid fy milddail i),
yn felyn powld ar sgrîn -
'Gei di baced newydd fory - sbia.'
A minnau'n gwenu
ar ei hôl,
gan gadw fy odrwydd
yn styfnig dynn mewn dwrn-
a gwn,
rhywfodd i mi gyda'r blynyddoedd
esblygu
yn geidwad rhyw hen hen hafau -
a'r hadau'n hepian
mewn droriau a phocedi
hyd y t欧.
Rhag ofn.
Haf Llewelyn 9.5
Bro Alaw (IR).
Llond dwrn o dwyll, a Jordan yn dathlu,
Ei wên ddiddannedd
A’i chwant i guro’n chwalu’r sgrîn.
Minnau’n fachgen seithmlwydd
Yn beichio crio,
Crio heb ddeall sut fod twyll yn ennill,
Crio, ddim ond am yr eiliad honno,
Crio am ein bod yn colli.
Llond dwrn o falchder
Wrth wasgu f’ewinedd i groen caled fy llaw,
Yr anthem yn atseinio,
Y dagrau’n llifo,
Llifo o ddeall nad yw ennill neu golli
Yma nac acw heb gofio’r daith.
Y daith o ‘Wales’ i Gymru
Pellach yw na phendraw’r byd.
Ioan Roberts 9.5
9 Englyn: Llety
Penllyn
Mae dau ar ôl dau yn dod – yn donnau,
Ond anodd cydnabod
Ein gwarth a ninnau’n gwrthod
Eu lle i fyw, lle i fod.
Beryl Griffiths 8.5
Bro Alaw (RPJ)
Nid lloches rhag y byd llachar – na’r cwsg
Wedi’r cawl croesawgar,
Nid y saint sy’n gwneud seintwar
Ond un wên, un lydan wâr.
Richard Parry Jones 8.5
Gwêl yng nghilio’r trigolion – i gelloedd
Y gwyll, ei chur creulon,
Ond dan groen holl hirboen hon
Ni chilia wres ei chalon.