Cerddi'r Chwarteri
1 Trydargerdd (sef cerdd gaeth neu rydd sydd, fel un o negeseuon Twitter, heb fod dros 280 o nodau cyfrifiadurol): Rhybudd Argyfwng
Dros yr Aber
Mae golau’r seiren heno’n oer o las
yn Nhrelái, a deffro
i rannu’i briw a wna bro
y ddau na all ddihuno.
Carwyn Eckley 10
Dwy Ochr i’r Bont (GEJ)
Fe'n pingwyd ar awr benodol
â neges nad odd cweit mor ddymunol,
ond ni raid ofni, ddarllenwyr Cymraeg,
canys bathwyd term newydd inni;
a thra for byd fel morgrug yn ofni,
cawn ninnau a'n hadenydd, neu'n cyrn, oedi,
a chrafu pen am hynodwydd (angheuol)
ein novissimo:
ein bod yn berffaith vogel.
Gareth Evans-Jones 9
2 Cwpled caeth yn cynnwys y gair ‘ochr’ neu ‘ochor’
Dros yr Aber
Weithiau, ceir golau mewn gwyll,
a cheir da i ochr dywyll.
Iwan Rhys 8.5
Dwy Ochr i’r Bont (OO)
Tîm Dwy Ochor ’di’r gorau
a’r lleill sy’n dioddef o'r llau.
Osian Owen 8.5
3 Limrig yn cynnwys y llinell ‘Fe dyngais y byddwn yn ufudd’
Dros yr Aber
Fe dyngais y byddwn yn ufudd
wrth iddynt fy urddo yn dderwydd,
ond es braidd yn rôg
ar ben y mae'n llog
a thwyrcio i Myrddin ap Dafydd.
Marged Tudur 8.5
Dwy Ochr i’r Bont (OO)
Fe dyngais y byddwn yn ufudd
i’r gyfraith, nad awn i yn llofrudd
na chwaith droi yn lleidr
na ’myrryd â neidr
mi barodd yr holl beth rhyw ddeuddydd.
Bethan Eirian Jones yn darllen gwaith Osian Owen 8.5
4 Hir-a-thoddaid yn cynnwys ‘Dewisais aros. Dywedais “sori”
Dros yr Aber (CE)
Fe aeth hi’n anos ymdrin â ’mos-i,
a’i sioe gyhoeddus o wae a gweiddi.
Finnau’n ysgwyd, cyn mynd o fy nesg-i
i wylo wedyn yn y toiledi.
Addo wnes y cerddwn i, sawl hwyrnos.
Dewisais aros. Dywedais “sori”.
Carwyn Eckley 10
Dwy Ochr i’r Bont (OO)
Yr Alban 18 Medi 2014
Fe ddaeth fy hanes o gicio'r tresi
yn fyw yr eilwaith yng nghynwrf rali
am un awran ym môr fy maneri
mi nes i stwyrian, ond mae'n hen stori:
Heddiw, daeth fy rhyddid i - mor agos...
Dewisais aros, dywedais "sori."
Osian Owen 10
5 Pennill mawl neu ddychan (rhwng pedair ac wyth llinell): Ymwelwyr
Dros yr Aber
Casâf, bob haf, y teip hy
sy’n niwsans, sy’n busnesu
yn fy nhref, ar fy nhir i;
yr heidiau sy’n hir oedi
cyn ymlwybro heibio’n braf.
Wir, rywddydd, fe lofruddiaf
efo rhaw’r malwod di-frys,
l诺tars fy ngwely letys.
Rhys Iorwerth 9
Dwy Ochr i’r Bont (EWJ)
Dan fflip-fflopian fyny’r Wyddfa
gadael Coke ar ochor lôn
ac ochneidio nad oes toiled
na wi-fi na signal ffôn.
Daw yr haid yn llu i giwio
ar y top i dynnu llun.
diolch am bob copa walltog
sy’n ein cynnal ni bob un.
Elin Walker Jones 8.5
6 Cân ysgafn: Beth hoffwn i wedi ei wybod pan oeddwn i’n iau
Dros yr Aber (IRh)
(i’w chanu ar dôn Gwenno Penygelli)
Ro'wn bump ar hugain oed ac arnaf chwant priodi
geneth â dwy droed oedd 'rioed di gweld Pengelli.
Fe fagem deulu iawn a llond y nyth o arian
A byddai'r ffrj yn llawn, er ei bod hi'n vegetarian.
Di-wec ffa la la la la...
I frecwast, ffa ar dost a brechdan wy i ginio,
I swper wylys rhost, neu gyrri pys 'di stiwio.
Ond ar ôl tynnu crys ni ddylwn innau synnu
Fy mod i'n shwps o chwys a shîts y gwely'n crynu.
Di-wec ffa la la la la...
Rwy 'leni'n ddeugain oed ac ar fy ail briodas;
Fe ddes i at fy nghoed a ffeindio un fwy addas.
Mae'n hoff o fwydydd da, a chig a gwin a physgod.
Dwi ddim yn bwyta ffa, ac mae na lai o ddrewdod.
Di-wec ffa la la la la...
Rwy'n llystad i ddau grwt sy'n cerdded nid yn cropian;
Dwi 'rioed di newid clwt, fel J Rees-Mogg ei hunan.
Er 'mod i'n dlotach dyn, mae gen i ffortiwn hynod
O gael fy nyth fy hun a 'nghywion ynddo'n barod.
Di-wec ffa la la la la...
Iwan Rhys 8.5
Dwy Ochr i’r Bont
Pan oeddwn i yn 'fengach, roedd fy meddwl bach chwilfrydig
yn gofyn ambell gwestiwn oedd bryd hynny'n eithaf pwysig.
Fel pam, 'r'ôl oriau'n syllu ar sgrîn, na chefais lygaid sgwâr?
A'r cwestiwn mawr, pa un a ddaeth yn gynta' - yr wy neu'r iar?
Sut’n y byd arhosodd fy nhrwyn 'run maint ar ôl dweud c'lwydda'?
A 'ngwallt i dal mor syth ar ôl 'mi fwyta'r ffasiwn grystia'?
A'r un un oedd y cwestiwn ymhob gwers yr Ysgol Sul -
Sut lwyddodd O i deithio'r pellter mwya' ar gefn mul?
Pam aflwydd fod y cwpwl sydd drws nesa'n codi st诺r
fod y plant yn ymdebygu fwy i'r postmon nag i'r g诺r?
A pham, yn ôl fy Nain, mai dim ond cam neu'r wobr gynta'
oedd yr unig bethau oedd ar gael wrth ganu mewn 'Steddfoda'?
Rwyf wedi ceisio ateb rhai o'r rhain wrth fynd yn h欧n
Ond mwy a mwy sy'n dod i'r fei a rheini'n drysu dyn.
Fel sut all rhywun gadw'i swydd a'i methu gwneud hi'n iawn?
Neu beth sy'n ffuglen neu yn ffaith wrth imi wylio'r 'Crown'?
A'r cwestiwn sy'n enigma, fel ceisio datrys pôs,
Sef os mai dim ond saith dydd sydd, pam ei alw yn wyth-nos?
Ond er yr holl gwestiynau dwl, a'r edrych braidd yn syn,
Mi wnaf yn siwr o beidio gofyn pam fod eira'n wyn.
Anest Bryn 8.5
7 Ateb llinell ar y pryd – Y mae’r môr rhy oer i mi
Dros yr Aber
 rhywun ynddo’n rhewi
Y mae’r môr rhy oer i mi
Carwyn Eckley 0.5
Dwy Ochr i’r Bont
Y mae’r môr rhy oer i mi
A’r dwr r诺an mor drewi
Osian Owen
8 Telyneg (heb fod dros 18 llinell): Baglu
Dros yr Aber (MT)
Wrth ddarllen y specials mewn sialc,
dwi’n ei gweld yn crymu dros y pram a’r bag napis
ac yn sylwi bod siâp ei chefn yn wahanol.
Mae cadair yn crafu ar y teils
a dwi’n cyfri’r cyllyll a’r ffyrc ar y cownter,
yn trio peidio meddwl am lanast glân fy nh欧
a’r prynhawn segur sydd o ’mlaen.
Ac er ’mod i’n holi am rwtîn bwydo,
trafferthion torri dannedd a cholli cwsg,
mae hi’n gwisgo’r geiriau’n rhy dynn
ac yn rhannu gwên sy’n ddiarth imi
efo Mam arall ar y bwrdd drws nesaf.
Wrth i fysedd trwsgl y babi daro’r gwydr gwag,
dwi’n ei ddal cyn iddo falu’n deilchion ar y llawr.
Marged Tudur 9.5
Dwy Ochr i’r Bont (MWD)
Yn nwrn rhyw awr effro,
mae hi’n mynnu heno,
droi a throsi hen sgwrs,
hen ddagrau, hen ddewis,
drwy gynfasau blêr ei chof;
yn golchi’r blynyddoedd trwm
yn lân, a’i llygaid yn pigo
wrth gofio jôcs a phen-blwyddi.
Ac mae hi’n sbecian, eto, drwy’r droriau gwag
un ochr i’r gwely,
rhag ofn,
a’r hen amau’n llithro i mewn drwy gil y ffenest,
yn siffrwd heibio’r llenni, yn magu pwysau.
Mae hi’n chwilio’i arogl ar y gobennydd
a’i lais ar hen neges ar ei ffôn,
yn ildio, am eiliad, wrth ddal ei bys uwch ben hen enw,
cyn oeri
a chau’r ffenest yn glep.
Manon Wynn Davies 9.5
9 Englyn: Actor
Dros yr Aber (RhI)
Drwy’i gwêst, clywn stori’i gastio yn y rhan
fu’n rhy anodd iddo:
rhan ei felan aflan o
a gwagedd y wên gogio.
Rhys Iorwerth 10
Dwy Ochr i’r Bont (EWJ)
Gwisga wên ar dy enau, a chela
â cholur liw’r briwiau.
Dere â sgript dy eiriau’n
barêd i’r ddrama barhau.
Elin Walker Jones 9.5