Cerddi Rownd 2 2023
1 Trydargerdd: Uchafbwyntiau’r Gyllideb
Dwy Ochr i’r Bont (GEJ)
Hawliodd yr Heliwr y llawr a’i ffolder yn darian
o bwyntiau mân.
Rhannodd y newydd, y diwygiadau-dwtsh-bach,
yr o-raid i wneud pethau’n o-reit eto,
a hynny drwy bwyso’n wennog ar y di-waith i ddychwelyd,
i droi at y canolfannau gwyrdd a dilyn y ‘Dos!’
gan nad oes dim yn well nag ennill
eich bara (Morrisons own) a menyn (cogio),
yn nag oes?
Bethan Eirian Jones yn darllen gwaith Gareth Evans-Jones 9
Llewod Cochion
Fy ffrindiau lu rwyf yma ‘nawr
yn torri’r dorth, o’m bwrdd (a’r llawr);
fe rof yn hael, i hwn a’r llall,
gan ddiolch wir - fod pawb yn ddall
Iwan Parry 8.5
2 Cwpled caeth: arwyddair i unrhyw undeb rygbi
Dwy Ochr i’r Bont (OWO)
Clywch y waedd groch, anochel:
“Ewch, bois, a gadewch y bêl.”
Osian Wyn Owen 8.5
Llewod Cochion
[arwyddair i Undeb Rygbi Cymru]
Am drist yw’r ffeministiaid.
Boys will be boys, yn ddi-baid.
Angharad Penrhyn Jones 8.5
3 Limrig yn cynnwys y llinell ‘mae teithio i’r gwaith yn fy mlino’
Dwy Ochr i’r Bont (AB)
O’r llofft, hyd y landing a heibio
i’r gegin a’r lolfa cyn pasio
y ’stafell bi-pi,
llofft y plant, gwely’r ci,
mae teithio i’r gwaith yn fy mlino!
Anest Bryn 8.5
Llewod Cochion
Mae teithio i’r gwaith yn fy mlino
i gyrraedd yn saff erbyn cinio.
‘Rôl paned am ddau
â hithau’n hwyrhau,
af adref yn syth i ddadflino.
Iwan Parry 8
4. Cywydd (heb fod dros 12 llinell): Ganol Nos
Dwy Ochr i’r Bont (OWO)
Checio’r napi. Mae’n crïo’n
ei chot fel rhywbeth o’i cho’,
ond dim ond mymryn sy’na.
Ydi o werth fy nerth? Na.
Be bynnag, be a’i boeni
am fymryn patshyn pi-pi?
Ond… dwi’n ei dal. Cydio’n dynn
a dwi’n dad sy’n stond wedyn.
Ydi lleisiau’r golau gwan,
y llygaid, fel llo egwan
yn dweud, gefn nos, nad ydw-i
yn dad da iawn? Duda di.
Osian Wyn Owen 9.5
Llewod Cochion
Y nos hir sydd yn nesáu.
Araf yw llif yr oriau.
Heno, y lloer sy’n oeri;
yn ei chrud, clywaf ei chri.
Y golau’n frau dros y fro,
yn offrwm i’r un effro.
Noson hir yw’r noson hon,
a sibrwd brwd ysbrydion
yn ris i lawr i’r isfyd.
Awr y bardd. Mor oer y byd.
Pob drws a gorddrws ar gau.
Araf yw llif yr oriau.
Angharad Penrhyn Jones 9
5 Triban neu bennill telyn yn seiliedig ar unrhyw ddihareb
Dwy Ochr i’r Bont (AB)
Roedd Anti Jên drws nesa'
yn dda am wneud pwdina',
a Mot ei chi oedd wrth ei fodd
nes tagodd ar baflofa.
Anest Bryn 9
Llewod Cochion
Ail-wylltio hen warineb,
Gwreiddio coed mewn dolydd haidd,
A chwalu’n cymunede
I gadw’r drws o’r blaidd.
Arwyn Groe 9
6 Cân ysgafn: Troedigaeth
Dwy Ochr i’r Bont (AB)
Newyddion da a ddaeth i'm rhan fod Gatland wrth y llyw,
ac ynddo rhoddais fy holl ffydd fel 'tai'n rhyw fath o Dduw.
Fy ffiol oedd yn orlawn cyn gemau y Chwe Gwlad,
ond gwagio wnaeth yn fuan iawn a mi mewn diawl o stâd.
San Padrig ac Andreas a chwarddodd ar ein penna',
buasai'n well petai San Siôr a'i griw 'di aros adra!
Yn Stadio Olimpico, llygedyn bach o obaith,
ond 'deja vu' yn Stade de France a'r grasfa oedd yn artaith.
Y golau bylodd, aeth yn ddim ym mhendraw'r twnnel hwn,
ond yna daeth yr alwad fawr gan bêl sy'n hollol grwn.
Troi cornel, troi tudalen lân a phethau'n dod yn gliriach,
y d诺r 'di troi yn win coch drud a'r gêm yn para'n hirach.
Fy nghwpan oedd yn hanner llawn, roedd mymryn bach o waddol
r'ôl clywed fod Joe Allen, Bale a Gunter yn ymddeol.
Ond Ramsey ddaeth fel bugail da a'm codi o'r dyfnderoedd
gan arwain praidd o Gymry coll tra'n siarad iaith y nefoedd.
Er, pan ddaw'r gwledydd oll ynghyd fis Medi, dwi'n reit si诺r
o gael tröedigaeth arall fel rhyw gwpan byd mewn d诺r.
Ni wadaf Warren, ni fradychaf Rob, ni roddaf sws ar foch,
nid siâp y bêl sy'n bwysig, ond eu bod nhw'n gwisgo coch.
Anest Bryn 8.5
Llewod Cochion
Yn y dechrau, roedd popeth wrth fodd Dewi Jones:
dyma deulu newydd, a phob dyn mewn trôns,
pawb yn chillaxed, yn noeth ar y traeth,
yn un â’r elfennau, a neb yno’n gaeth
i sothach materol a chwistrelli Big Pharma.
Newidiodd ei enw i Dewi Krishna.
Wrth sgwrio’r llawr gyda’r wawr roedd hi’n dawel, dim twrw,
ac roedd y gr诺p goleuedig dan ufflon o Guru,
dyn awdurdodol yn gaeth i jacuzzi,
ac er ei dueddiad i fod twtsh yn sleazy
’fo’r merched, roedd yn ddoeth ac yn dyfynnu’r Buddha,
yn myfyrio bob bore dan haul Califfornia,
ond un dydd wrth sgwrio teimlai Dewi yn ôffyl,
a doedd wnelo hyn ddim oll â’r ffalaffel:
fe glywodd ei Guru ar Zoom â’i gyfrifydd
a deallodd yn syth fod ei Buddha’n filiynydd,
ac yntau, Dewi, ’di rhoi’r gorau i’w gyfoeth
er mwyn byw yn San Fran, yn ysbrydol a throednoeth.
A dyna pryd cafodd ei ail droedïgaeth.
Aeth nôl i Gaerdydd - a threfn cyfalafiaeth.!”
Pryderi Jones 8
7 Ateb Llinell ar y pryd – Ar y doc mae ‘nghariad i
Dwy Ochr i’r Bont
Ar y doc mae ‘nghariad i
Jillian y sgodyn jeli
Osian Wyn Owen 0.5
Llewod Cochion
Ar y doc mae ‘nghariad i
Yn yr eigion mae ‘ngwraig i
Arwyn Groe 0.5
8 Telyneg (heb fod dros 18 llinell): Grisiau
Dwy Ochr i’r Bont (MD)(i ben T诺r Marcwis)
Dim ond dwy yn dal diferion olaf haul hydref
oedden ni’r diwrnod gwag hwnnw,
y tymor ar fin troi,
minnau’n cloi pnawniau fel hyn yn y cof
cyn i flas rhyddid neu fws i Fangor
ddwyn ei bryd a’i Sadyrnau hi.
Llwybro drwy’r coed at odre’r t诺r
dan gasglu sgyrsiau ac enwau’r dail,
cynnig cyngor (digroeso), trio swnio’n ddidaro,
hithau’n gwrido rhyw fymryn,
yn mwytho’r mes yn ei phoced.
Mi ddudish i y baswn i’n dod â ti yma, yn do,
iti weld dy deyrnas drwy lygad brân,
i grafu amlinell y Carneddau yn ddwfn i gledr dy law
a phaentio dy ddychymyg â gwyngalch Gorad Goch.
Dringo’n droellog, hithau’n rhuthro o’m blaen
nes ein bod yn dri delw ar d诺r,
yn hawlio’n hy ein darn bach o dir,
yn gwylio’r ceir yn sglefrio dros edau’r pontydd
a ninnau’n llonydd am hanner awr fach.
Manon Wynn Davies 9
Llewod Cochion
Dwi’n cofio eich cyfarfod am y tro cynta’.
Ro’n i’n chwilio am gartre’. Y fechan yn dawel
yn fy mreichiau.
Roedd eich gwely yn y lolfa, llond gwlad
o bacedi ffisig ar y bwrdd. Roeddech chi’n hoff
o’r drysau gwydr, meddech chi, yn hoff
o weld y blodau, yr adar bach â’u brigau.
Wnes i addo edrych ar eu holau.
Dydi’r fechan ddim angen fy llaw, bellach,
wrth gamu o un gris i’r nesa’. Mae hi’n llamu,
yn gyhyrog fel eog, yn sblash
o s诺n a drama, heb amser
i fwynhau golygfa.
Symudoch chi i fyngalo. Doedd ‘na fawr o ardd,
dim ond sgwâr bach llwyd. Dim adar
yn nythu, dim coed yn blaguro.
Heddiw, mae’r fechan yn dalach na fi,
ac yn y bore bach
mae ’mhennau-gliniau innau
wedi dechrau brifo
wrth gamu i lawr y grisiau.
Angharad Penrhyn Jones 9
9 Englyn: Parafeddyg
Dwy Ochr i’r Bont (EWJ)
Â’r dwylo’n gwella’r dolur - yn ysgwydd
a’i hosgo’n llawn cysur.
Mae’n rhadlon galon i gur;
Mae’n dyst a’i rwym yn dostur.
Elin Walker Jones 8.5
Llewod Cochion
[Er cof am y nyrs a’r para-feddyg Rouzan al-Najjar, saethwyd yn Gaza ym Mehefin 2018 tra’n trin protestwyr a anafwyd. Roedd hi’n ugain mlwydd oed.]
Yr hen lein ym Mhalesteina yn goch
â gwaed dynion Gaza.
Eu gwewyr fel y gaea’,
a’i gwedd hi fel hedd yr ha’.
Angharad Penrhyn Jones 9