麻豆社

Explore the 麻豆社
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

MERCHER
18fed Mehefin 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Legacies - De Ddwyrain Cymru

麻豆社 Homepage
 Legacies
 UK Index
 De Ddwyrain Cymru
 Erthygl
Digwyddiadau
Eich straeon
 Archif
 Gwybodaeth Safle
 麻豆社 Hanes
 Lleol i Mi

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

 
Myths and Legends
Sieffre O Fynwy - Crêwr Chwedlau

Mabwysiadodd y Cymry'r llyfr yn awchus, gan ei ail-gyfieithu mewn adegau o argyfwng mewn llu o gopïau, gan ddod o hyd ynddo gadarnhad o'u gobeithion Meseianaidd a'u cynhaliodd nes iddi ymddangos bod y rhain wedi eu gwireddu yn nyfodiad y llinach Tuduraidd.

Er bod yr Eingl Normaniaid a'r Saeson, wedi gwrthod y proffwydoliaethau hyn, fe groesawon nhw'r hanes hwn o'u mamwlad newydd a'r gorffennol gwych y gallen nhw nawr fod yn rhan ohono. Mae peth o boblogrwydd y llyfr hwn yn ei apêl ddwbl, i'r gorchfygedig a'r gorchfygwyr fel ei gilydd; ond mae yna awdurdod yn ei ddilysrwydd a gafodd ei dderbyn gan y rhan fwyaf, a’i amau ond gan nifer fach iawn o bobl.

Hybodd yr ‘Hanes’ y syniad o lys marchogaidd
© 麻豆社
Gadawodd ei awdurdod ei farc ar hanesyddiaeth; daeth yr 'Hanes' yn gyfrif unigryw a safonol o Brydain gynnar, yn enwedig y cyfnod cyn-Rufeinig, y sail i rannau agoriadol pob cronicl a hanes 'ab origine'. Rhoddodd achres i frenhinoedd a phendefigion, a gosodd gynseiliau hanesyddol i lywodraethwyr taleithiau a'r eglwys.

Pan ddeliwyd â'r materion hyn yn effeithiol gan gyfryngau eraill a thestunau eraill, parhaodd Sieffre’n ffigwr o bwys, nid fel hanesydd ond fel crëwr, ffynhonnell a throsglwyddydd chwedlau llenyddol: Cynfelyn a'i feibion, cariad Locrine a Sabrina, Ferrex a Porrex ac, yn fwyaf cofiadwy, y Brenin Llŷr a'i ferched.

Ei greadigaeth fwyaf yw Arthur, - mae ei deyrnasiad ef yn ganolog i'r Hanes. Nid Sieffre ddyfeisiodd chwedl Arthur ond ei gamp ef yw cyflwyno brenin-ymrerawdwr hanesyddol credadwy, gan roi iddo lys marchogaidd a fyddai wedyn yn leoliad i'r ‘genre' llenyddol canoloesol mwyaf grymus, y stori garu llysaidd. Mae rôl 'Historia regum Britanniae' yn y portread o Arthur yn cadarnhau Sieffre o Fynwy fel un o'r crewyr chwedlau gorau erioed.

Diolch i Briordy Mynwy

Words: Brynley F Roberts

Tudalennau: Blaenorol [ 1, 2, 3, 4, 5 ]


Eich sylwadau




Argraffu tudalen
English
Archive
Look back into the past using the Legacies' archives. Find nearly 200 tales from around the country in our collection.

Read more >
Internet Links
Nid yw'r 麻豆社 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd gwe allanol.
Bradford
Related Stories
Home to Lord of the Rings?
Ossian: Fact or Fiction
Jersey - The fabled life of St Helier




About the 麻豆社 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy