| |
|
|
|
| | | |
Sieffre O Fynwy - Crêwr Chwedlau |
|
Mae argraffiadau o'i lyfrau wedi eu cyflwyno i noddwyr oedd â phwer a dylanwad, - rhai roedd ef, mae'n siwr, yn gobeithio y bydden nhw'n hybu ei yrfa: Yr Esgob Alexander o Lincoln, Robert, Iarll Caerloyw ac Arglwydd Morgannwg, a oedd hefyd yn fab naturiol i Harri 1 ac yn yr olyniaeth ar gyfer yr orsedd, Waleran Iarll Mellent, y Brenin Stephen, ac yn olaf Robert de Chesney, esgob Lincoln, cyn ganon St George.
O'r cliwiau hyn, gwelir amlinell yn dechrau ymddangos o awdur diwylliedig yn symud yn y cylchoedd oedd yn agos i lysoedd y brenin a'r esgob ac yn chwilio am ddyrchafiad. Tybed pa mor siomedig oedd ef o gael dim ond yr esgobaeth newydd dlawd yn Llanelwy,- wyddom ni ddim.
Dyw'r cofnodion ddim yn datgelu natur unrhyw gysylltiad oedd rhyngddo â Mynwy. Fe allwn ni gymryd bod ei deulu'n rhan o'r gymuned Normanaidd/Eingl-Normanaidd o gwmpas y castell a'r priordy, ac roedd nifer o'r rhain o darddiad Llydewig, felly mae’n demtasiwn i awgrymu ei fod ef hefyd o darddiad Llydewig, ond nid yw hyn yn ddim mwy na chasgliad credadwy.
© 麻豆社 | Er hynny, fel Monemutensis, 'o Fynwy', yr adwaenid Sieffre, ac felly y dewisodd gael ei adnabod drwy gydol ei yrfa, a dreuliodd, fel mae’n digwydd, ymhell oddi yno, felly mae'r disgrifiad yn siwr o fod yn nodi rhyw gysylltiad â'r lle.
Mae chwedlau yn ffynnu mewn gwactod, a byddai cenedlaethau diweddarach yn chwilio am gysylltiadau cryfach, ond does dim byd cryfach na'r traddodiad hwn yn cysylltu Sieffre'n bendant â'r priordy ym Mynwy, lle mae'r ffenestr Oriel o'r bymthegfed ganrif yn cael ei galw'n Ffenestr Sieffre.
Mewn rhai o'r dogfennau fe elwir Sieffre hefyd yn Galfridus Arturus, sef 'Sieffre Arthur'. Ai dyma enw'i dad (doedd Arthur ddim yn enw personol cyffredin eto)? Ai llysenw yw hwn sy'n awgrymu mai myfyriwr sydd yma wedi ei hudo gan chwedlau'r Brenin Arthur, a oedd mor gyffredin ar hyd Gororau de-ddwyrain Cymru, ac ar hyd dyffrynnoedd yr afon Hafren a'r Gwy. Mae un peth yn siwr, pan aeth Sieffre ati i ysgrifennu ei 'Historia', fe strwythurodd yr hanes o gwmpas ffigwr Arthur ac fe ddatgelodd pa mor ddwfn y bu'n meddwl am y brenin Prydeinig chwedlonol.
Words: Brynley F Roberts
Eich sylwadau
| | Argraffu tudalen |
| | | |
Archive
Look back into the past using the Legacies' archives. Find nearly 200 tales from around the country in our collection.
Read more > |
| | |
|
|
|
|
Nid yw'r 麻豆社 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd gwe allanol. |
| | |
| | |
| |
|