麻豆社

Explore the 麻豆社
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

MERCHER
18fed Mehefin 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Legacies - Gogledd Ddwyrain Cymru

麻豆社 Homepage
 Legacies
 UK Index
 Gogledd Ddwyrain Cymru
 Erthygl
Lluniau
Fideo
Digwyddiadau
Eich straeon
 Archif
 Gwybodaeth Safle
 麻豆社 Hanes
 Lleol i Mi

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

 
Immigration and Emigration
Pwyliaid Penley

Yr ysbyty

Y bloc gweinyddol ym Mhenley
© A Bezera
O’r tu allan roedd y barics yn yr ysbyty yn edrych yn sylfaenol, ond y tu fewn roedden nhw wedi eu haddurno â chelfyddyd werin draddodiadol a delweddau o ffigurau diwylliannol a hanesyddol Pwylaidd. Byddai’r cleifion yn paentio lluniau ac yn creu symbolau o dreftadaeth Pwylaidd. Roedd cleifion iau ym Mhenley yn cymryd rhan mewn nifer o weithgareddau chwaraeon. Byddai timau yn cael eu hanfon yn aml i gystadlaethau cenedlaethol yn Stoke Mandeville.

Câi’r ysbyty ei chefnogi gan elusen Cymdeithas Cyfeillion lleol, a gododd arian i’r ysbyty a chynllunio digwyddiadau a gweithgareddau ar gyfer y cleifion a’r preswylwyr. Pan oedd Andy Bereza yn 13, rhoddodd Gymdeithas y Cyfeillion ddwy rîl o ffilm 8mm iddo er mwyn iddo wneud ffilm am fywyd yn y gwersyll. Gwnaeth nifer o ffilmiau 8mm byrion, ac mae’r rhain ganddo hyd heddiw – cliciwch yma i weld un a ffilmiwyd yn yr ŵyl haf ar dir yr ysbyty yn y 1960au cynnar.

delwedd: Llun llonydd o ŵyl haf ym Mhenley yn dangos grŵp mewn gwisgoedd Pwylaidd.
© A Bereza
Ar ei brysuraf roedd yr ysbyty’n gartref i fwy na 2000 o gleifion a staff. Dechreuodd y rhifau ostwng oherwydd y cynnydd anochel yn oed y cyn filwyr. Pan gaewyd yr ysbyty yn 2002 dim ond 6 o gleifion oedd yn yr ysbyty a oedd yn aros ar un ward allan o’r 30 gwreiddiol. Ond, fel y dywedodd Andy Scotson o Ymddiriedolaeth GIG Gogledd Ddwyrain Cymru “Mae’r ysbyty yn dal yn weithredol, ac fe fydd yn parhau felly o dan dermau cytundeb a arwyddwyd gan Syr Winston Churchill ar ddiwedd yr Ail Ryfel Byd. Roedd y cytundeb hwn yn rhoi addewid i gynnal gwasanaethau i gyn-bersonél milwrol Pwylaidd am faint bynnag o amser y bydd eu hangen.”

Ar hyn o bryd mae cyfleuster newydd yn cael ei adeiladu a fydd yn cartrefu gweddill y cleifion a’r staff, sydd wedi eu symud i adeilad cyfagos hyd nes bydd yr adeilad newydd wedi ei gwblhau.

Roedd cau’r ysbyty ym Mis Mawrth, 2002, yn nodi diwedd cyfnod i’r gymuned Bwylaidd ym Mhenley. Ym Mis Medi 2002 cafodd ffilmiau Andy eu dangos ochr yn ochr â gwaith celfyddydol a chreiriau cofiadwy o Benley mewn arddangosfa yn Amgueddfa Wrecsam, a oedd yn dathlu hanes y gymuned yn yr ysbyty. Gallwch weld rhai o’r pethau gaiff eu harddangos drwy glicio yma.

Mae Andy Bereza wedi ymweld â Gwlad Pwyl droeon dros y blynyddoedd, gan ddarganfod bod y bobl o’r un genhedlaeth ag ef yng Ngwlad Pwyl wedi cael magwraeth wahanol iawn. Mae’n credu bod y bobl a’u diwylliant wedi dioddef o dan bwysau rheolaeth Sofietaidd.

Darganfu Andy bod ei fagwraeth ef yn gyfoethog mewn cymhariaeth, gan fod traddodiadau, arferion a chymdeithas Bwylaidd yn cael eu hybu ym Mhenley, hyd yn oed os mai rhai’n dyddio o Wlad Pwyl cyn y rhyfel oedd y rhain. Mae ganddo atgofion annwyl iawn am gartref ei blentyndod ac mae’n teimlo, “mewn ffordd, nad oes gen i wreiddiau, gan eu bod wedi dymchwel Penley erbyn hyn, mae fy ngwlad wedi diflannu.”

Diolch i Andy Bereza, Jonathan Gammond – Amgueddfa Bwrdeistref Sirol Wrecsam a Chymuned Bwylaidd Penley yn Wrecsam.


Tudalennau: Blaenorol [ 1, 2, 3, 4 ]


Eich sylwadau




Argraffu tudalen
English
Archive
Look back into the past using the Legacies' archives. Find nearly 200 tales from around the country in our collection.

Read more >
Internet Links
Nid yw'r 麻豆社 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd gwe allanol.
Highland
Rosal monument
Related Stories




About the 麻豆社 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy