麻豆社

Explore the 麻豆社
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

MERCHER
18fed Mehefin 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Legacies - Gogledd Ddwyrain Cymru

麻豆社 Homepage
 Legacies
 UK Index
 Gogledd Ddwyrain Cymru
 Erthygl
Lluniau
Fideo
Digwyddiadau
Eich straeon
 Archif
 Gwybodaeth Safle
 麻豆社 Hanes
 Lleol i Mi

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

 
Immigration and Emigration
: Barics y staff ym Mhenley, o ddarlun gan W Wernick
© A Bereza / W Wernick
Pwyliaid Penley

Dechreuadau’r Ysbyty Pwylaidd

Ym 1941, ymosododd yr Almaen ar yr Undeb Sofietaidd, ac arweiniodd hyn at arwyddo’r Cytunde brhwng y Pwyliaid a’r Sofietiaid. Bu Churchill yn gyfryngwr i gytundeb rhwng Cadfridog Sikorski, yr arweinydd Pwylaidd, a Stalin, a hyrwyddodd greu byddin Bwylaidd yn yr Undeb Sofietaidd. Ffurfiwyd y fyddin gan y Pwyliaid oedd wedi eu dal yn gaeth yn yr Undeb Sofietaidd. Teithiodd gwyr a gwragedd Pwylaidd a ryddhawyd gan y Cytundeb, o bob cwr o’r Undeb Sofietaidd i Buzuluk, i’r de-ddwyrain o Moscow, i ymuno â’r rhengoedd.

Ffurfiwyd y Corfflu Meddygol Pwylaidd, neu’r ysbyty fel rhan o’r Fyddin, a gadawodd yr Undeb Sofietaidd gyda’r milwyr a’u dibinyddion ar gyfer y Dwyrain Canol ym Mis Awst 1942. Hyfforddodd y fyddin ym Mhersia, gan symud ymlaen wedyn i Iraq, lle daeth yr ysbyty o dan reolaeth y Prydeinwyr. Wedyn bu’n teithio, i Balestina, yr Affrig a’r Eidal, lle treuliodd y Fyddin Bwylaidd dair blynedd yn ymladd mewn cefnogaeth i’r cynghreiriaid, a thrin y rhai gafodd eu hanafu.

Wedi’r rhyfel

Pan ddaeth y rhyfel i ben, roedd rhai o’r Pwyliaid oedd wedi dod o ddwyrain Gwlad Pwyl mewn dau feddwl ynglŷn â dychwelyd adref. Roedd gwlad Pwyl wedi ei rhannu’n ddwy ran, ac roedd eu mamwlad o dan reolaeth Sofietaidd, ac felly rheolaeth gomiwnyddol.

Ym 1946, hwyliodd y Fyddin a’r ysbyty Bwylaidd o Naples i Lerpwl, a dewisodd nifer o’r Pwyliaid ymgartrefu yn yr ardal. Daethpwyd o hyd i gartref i’r ysbyty ym Mhenley, 50 milltir i’r de orllewin, er mwyn medru parhau i drin hen filwyr a’u teuluoedd. Arferai’r gwersyll, a oedd erbyn hynny bron yn adfail, fod yn safle Ysbyty Gyffredinol Byddin Rhif 129 yr Unol Daleithiau ond roedden nhw wedi gadael y safle dair blynedd ynghynt pan adawsant ar gyfer ‘D Day’.

Wedi cyrraedd, roedd yr amodau oedd yn disgwyl y Pwyliaid yn wahanol iawn i’r rhai yn yr Eidal. Roedd yr hinsawdd gryn dipyn yn oerach, roedd bwyd yn cael ei ddogni, a llugoer oedd y croeso gafodd y Pwyliaid gan y Prydeinwyr, a oedd ei hunain yn ei chael yn anodd i gael dau pen llinyn ynghyd. Er hynny sefydlwyd yr Ysbyty Pwylaidd Rhif 3 a dechreuwyd wneud cartref o’r ychydig a oedd ar gael.


Tudalennau: [ 1, 2, 3, 4 ] Nesaf


Eich sylwadau




Argraffu tudalen
English
Archive
Look back into the past using the Legacies' archives. Find nearly 200 tales from around the country in our collection.

Read more >
Internet Links
Nid yw'r 麻豆社 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd gwe allanol.
Wiltshire
Related Stories




About the 麻豆社 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy