麻豆社

Explore the 麻豆社
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

MERCHER
18fed Mehefin 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Legacies - Gogledd Ddwyrain Cymru

麻豆社 Homepage
 Legacies
 UK Index
 Gogledd Ddwyrain Cymru
 Erthygl
Lluniau
Fideo
Digwyddiadau
Eich straeon
 Archif
 Gwybodaeth Safle
 麻豆社 Hanes
 Lleol i Mi

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

 
Immigration and Emigration
Pwyliaid Penley

Tyfu i fyny ym Mhenley

Y teulu Bereza yn y 50au hwyr
Y teulu Bereza yn y 50au hwyr . O’r chwith i’r dde – Andy, Stanley, Dr Bereza a Mrs Zofia Bereza.
Ganwyd Andy Bereza ym Mhenley ym 1949. Tyfodd ef a’i frawd a’i chwaer iau i fyny yn y gwersyll, fe aethon nhw i’r ysgol yno, ac roedden nhw’n rhan o’r gymdeithas Bwylaidd. Mae’n cofio cael, “ ... magwrfa anhygoel ... fe siaradon ni Bwyleg nes ein bod yn bump neu chwech oed, yna fe ddysgon ni Saesneg yn yr ysgol – gydag acen Lerpwl, gan mai oddi yno y deuai’r athro”.

Roedd rhieni Andy ill dau yn Bwylaidd. Ganed tad Andy, Dr Michael Bereza, yng Ngwlad Pwyl ym 1903. Roedd Dr Bereza yn Gyrnol yng Nghorfflu Meddygol y Fyddin Bwylaidd ar ddechrau’r rhyfel. Ar ôl yr ymosodiad, fe ddihangodd drwy Rwmania i ymuno ag unedau byddin Gwlad Pwyl oedd yn cael eu ffurfio yn Ffrainc. Yn dilyn yr ymosodiad gan yr Almaen ym 1940 fe barhaodd ei daith a dihangodd i’r Dwyrain Canol.
Plac Carpathaidd
Mae’r plac hwn yn dathlu’r Adran Carpathaidd, sydd â’i glwb feteraniaid wedi ei leoli ym Manceinion. Mae’r symbolau ar y plac yn cynnwys un yr Wythfed Fyddin Brydeinig, y bu’r Pwyliaid yn ymladd ochr yn ochr â nhw.
Yna fe’i gwnaed yn Brif Swyddog Meddygol y Frigâd Garpathaidd enwog a fu’n ymladd fel rhan o’r Wythfed Fyddin Brydeinig yng Ngogledd yr Affrig a’r Eidal ac fe amlygodd ei hun ym mrwydrau Tobruk a Monte Cassino. Cyfarfu â’i wraig, Zofia Gallot, a oedd yn ferch i gyn Weinidog Trafnidiaeth Gwlad Pwyl, tra ar wyliau ym Mhalestina.

Ar ddiwedd y rhyfel cyrhaeddodd Dr Bereza y DU ac fe’i benodwyd yn Ddirprwy Bennaeth y Corfflu Meddygol Pwylaidd, yn cefnogi Byddinoedd Gwlad Pwyl ar gyfer y DU gyfan, oedd â tua 200,000 o dan eu hadain. Ar ôl dadfyddino ym 1947, bu’n gweinyddu Penley ar gyfer y Weinyddiaeth Iechyd ac yn ddiweddarach o dan y Gwasanaeth Iechyd Gwladol. Parhaodd i gadw ysbyty Penley ar agor hyd ei ymddeoliad, gan gynnwys pledio’r achos gydag Enoch Powell, pan oedd ef yn Weinidog Iechyd. Wedi gweithio mewn cynifer o wledydd, roedd Dr Bereza wedi datblygu arddull rheoli anarferol. Eglura Andy: “Cyflwynodd Dad rhai arferion diddorol yn yr ysbyty. Tra yn yr Affrig roedd wedi arfer cael egwyl rhwng un a thri y prynhawn, oherwydd y gwres. Ym Mhenley fe fynnodd bod gweddill y staff yn cymryd un hefyd, ac fe greodd hyn awyrgylch gweithio gwell”.


Tudalennau: Blaenorol [ 1, 2, 3, 4 ] Nesaf


Eich sylwadau




Argraffu tudalen
English
Archive
Look back into the past using the Legacies' archives. Find nearly 200 tales from around the country in our collection.

Read more >
Internet Links
Nid yw'r 麻豆社 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd gwe allanol.
Wiltshire
Related Stories




About the 麻豆社 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy