麻豆社

Seremoni Gwobr y Dysgwyr 2007

Ennill Medal y Dysgwyr


Dysgwraig yn methu dychmygu byd heb y Gymraeg

"Allaf i ddim dychmygu yn awr fywyd heb yr iaith Gymraeg."

Wedi ei magu ar aelwyd ddi-Gymraeg yng Nghaerdydd dyna ymateb Rachel Perry yn awr ei bod wedi dysgu Cymraeg.

Yn ddisgybl yn Ysgol Uwchradd Caerdydd Rachel enillodd Fedal y Dysgwyr yn Eisteddfod heddiw.

Canmolwyd "dyfnder ac aeddfedrwydd" cerdd, ysgrif a llythyr a sgrifennodd am Lywelyn ap Gruffydd - Llywelyn Ein Llyw Olaf.

Dywedodd iddi ddod i edmygu Llywelyn ar 么l darllen amdano fel rhan o'i chwrs hanes yn yr ysgol ac ar 么l darllen cerdd Cilmeri Gerallt Lloyd Owen.

"Yr wyf wastad wedi bod 芒 diddordeb mewn Hanes," meddai, "ac rwy'n gobeithio astudio Hanes yn y Brifysgol ym Mryste. Y mae cyfnod a hanes Llywelyn yn ddiddorol iawn ac rwy'n ei edmygu yn fawr oherwydd ido ymladd dros ei wlad," meddai yn dilyn y seromni i'w hanrhydeddu ar lwyfan yr Eisteddfod.

Gofidiodd beirniaid y gystadleuaeth, Lynne Mortell ac Enfys Thomas, mai chwech yn unig a ymgeisiodd am y Tlws eleni.

"Yr oedd hyn yn dipyn o siom i ni," meddai Lynne Mortell wrth draddodi'r feirniadaeth ac anogodd athrawon i gymell dysgwyr i gystadlu ar y gystadleuaeth bwysig hon.

"Mae r么l athrawon yn y gystadleuaeth hon yn hanfodol," ychwanegodd.

Dywedodd fod y chwe ymgeisydd yn haeddu canmoliaeth ond gosododd ymgais Rachel a dau arall mewn dosbarth ar wah芒n.

Ynglyn 芒'i phenderfyniad i astudio ym Mryste yn hytrach na Chymru dywedodd Rachel:

"Rwy'n credu ei bod yn bwysig i bobl Gymraeg gymryd yr iaith i rannau gwahanol ond mae'n bwysig peidio a cholli sgiliau iaith ac ar 么l y Brifysgol hoffwn ddychwelyd i Gymru ac efallai weithio yn y cyfryngau - ac yn y Gymraeg efallai," meddai.

Tinc o dristwch

Yr oedd tinc o dristwch yn llawenydd y fuddugoliaeth fodd bynnag wrth i Rachel ddatgelu mai un o'r rhai a fu'n ysbrydoliaeth iddi ddyfal barhau gyda'i Chymraeg oedd Si么n Ifan Evans o Goleg Ieuenctid y Presbyteriad yn Y Bala.

Dywedodd iddi ei gyfarfod ef pan yn ymweld 芒'i chwaer oedd yn mynychu'r coleg.

"Yno fe wnes i lawer o ffrindiau oedd yn medru Cymraeg yn iawn ac yn eu plith Si么n Ifan Evans a fuo farw mewn damwain yn y coleg fis Chwefror. Yr oedd o bob amser yn fy annog i ymarfer fy Nghymraeg. Yr oedd yn ysbrydoliaeth imi a phe byddai yma nawr byddai mor falch," meddai.


麻豆社 iD

Llywio drwy鈥檙 麻豆社

麻豆社 漏 2014 Nid yw'r 麻豆社 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.