麻豆社

Ifor ap Glyn

Bardd Plant newydd

'Mwynhau - nid dadansoddi'

Ifor ap Glyn - un o feirdd perfformio amlycaf Cymru fydd y Bardd Plant cenedlaethol nesaf.

Mae'n dilyn Caryl Parry Jones.

"Mae'n fraint derbyn y swydd a dwi'n edrych ymlaen at weithio hefo plant a phobl ifainc ar draws Cymru. Dwi'n gobeithio defnyddio rhyw gymaint ar fideo a cherddoriaeth wrth greu cerddi hefo nhw," meddai.

Ef yw'r nawfed bardd i dderbyn y teitl gan ddilyn Myrddin ap Dafydd, Meirion McIntyre Huws, Menna Elfyn, Ceri Wyn Jones, Tudur Dylan, Mererid Hopwood, Gwyneth Glyn a Caryl.

Yn awr yn byw yng Nghaernarfon cafodd cafodd Ifor ap Glyn ei eni a'i fagu yn Llundain, y bedwaredd genhedlaeth o'i deulu i gael ei fagu yno. Mae'n briod a chanddo bedwar o blant.

Yn dilyn cyfnod yn sgriptiwr theatr a theledu mae'n awr yn gynhyrchydd teledu.

Enillodd y Goron yn Eisteddfod Genedlaethol M么n 1999 am gasgliad o gerddi yn ymwneud 芒 dysgwyr a'r broses o ddysgu iaith ac mae'n fardd perfformio hynod o boblogaidd yn perfformio mewn tafarndai, clybiau, festri capel a darlithfeydd.

Dywedodd ei fod yn hoff o gyflwyno'i gerddi yn fyw ac o gyfuno barddoniaeth a chyfryngau eraill a'i fodf yn edrych ymlaen at arbrofi yn ystod ei gyfnod yn fardd plant.

Ond nid yw'n ymddangos y bydd yna lawer o ddadansoddi barddoniaeth yn ystod ei dymor.

"Rhywbeth i'w fwynhau ydi barddioniaeth - dydw i ddim yn gweld lot o bwynt mewn dadansoddi. Mwynhau teisen gri ydych chi - nid ei dadansoddi," meddai gan ychwanegu mai ei fwriad yw annog plant i fwynhau barddoniaeth nid yn unig trwy wrando ond trwy farddoni eu hunain.

Perfformiodd o flaen cynulleidfa o 10,000 mewn dathliad i agor Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn 1999, gan rannu llwyfan 芒 Tom Jones a Shirley Bassey! Mae wedi perfformio hefyd yn America, Gwlad Pwyl a Lloegr, gan deithio sawl gwaith yn Iwerddon.


麻豆社 iD

Llywio drwy鈥檙 麻豆社

麻豆社 漏 2014 Nid yw'r 麻豆社 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.