Atyniadau'r Maes
Pob math o ddigwyddiadau ar y maes
Arddangosfa Celf, Dylunio a Thechnoleg
Thema'r adran Gelf, Dylunio a Thechnoleg eleni yw 'Cyswllt' gyda'r gwaith buddugol yn cael ei arddangos ar y maes.
"Bydd hefyd gyfle i dorchi llewys a chymryd rhan yn yr hwyl," medd yr Urdd.
Pentref Mistar Urdd
Am y tro cyntaf bydd gweithgareddau'r Urdd o dan un to ym Mhentref Mistar Urdd sydd mewn darn arbennig o'r maes ac yn cynnwys pob math o weithgareddau i ddiddanu pawb o bob oed. Yma y bydd siop Mistar Urdd, arddangosfa Lego, Clwb Podledu, soffa S4C, tipi a'r maes chwaraeon.
Tipi
Pabell draddodiadol yr helwyr ceirw Sami o Lapland yw'r Tipi ym Mhentref Mistar Urdd. Gweithgareddau yno gydol yr wythnos. Bandiau byw bob dydd; gweithdai roc a phop ar y dydd Mawrth. Brecwast Masnach Deg bob bore rhwng 9 ac 11.
Y Maes Chwaraeon
Ychwanegiadau newydd eleni.
Ynghyd â'r ddarpariaeth arferol o rygbi, pêl-droed a Champau'r Ddraig bydd cyfle i flasu pob math o chwaraeon newydd.
Bydd cyfle i chwarae hoci, golff a gwneud rhywfaint o athletau a chynhelir sawl gweithgaredd gan Adran Hamdden Conwy.
Yn ôl yr arfer, bydd trampolîn yr Urdd a wal ddringo Gwersyll Glan-llyn hefyd ar gael drwy'r wythnos. Parc Chwarae ar gael i'r plant lleiaf.
Llwyfan Dawns
Llwyfan arbennig lle y gellir gwylio holl fwrlwm y cystadlaethau dawns amrywiol.
Pafiliwn Y Dysgwyr
Digwyddiadau gwahanol bob dydd ar gyfer plant a phobl ifanc. Cyfle i bawb gymryd rhan mewn gweithdai amrywiol a mwynhau adloniant lleol. Hefyd, gellir gweld yma holl waith cartref cystadlaethau'r dysgwyr yn ogystal â chyfle i brynu adnoddau a meddalwedd o bob math i ddysgwyr.
Y Ganolfan Groeso
Ar gael yn y Ganolfan Groeso mae offer cyfieithu i'w ddefnyddio yn y Pafiliwn ac fe ellir gwneud ymholiadau am yr hyn sy'n digwydd o amgylch y maes oddi yno.
Map Yr Eisteddfod
Bydd map o'r maes am ddim yn dangos lle mae popeth a gwybodaeth am brif ddigwyddiadau'r wythnos.
Neuadd Gorawl Llywodraeth Cynulliad Cymru
Bydd rhaglen lawn o berfformiadau a chystadlaethau, yn cynnwys y rhagbrofion corawl, i'w gweld yn y Neuadd Gorawl. Noddir y Neuadd Gorawl gan Lywodraeth Cynulliad Cymru.
Man ymarfer
Bydd man ymarfer i'w gael yng nghaffi Mistar Urdd, lle bydd piano ar gael i'w ddefnyddio. Bydd perfformiadau yno yn ystod yr awr ginio hefyd.
Dosbarthiadau Meistri
Eleni bydd cyfle i fuddugwyr elwa o brofiad meistri yn eu maes. Gwahoddir cynulleidfa hefyd.
Pafiliwn Perfformio Cyngor Celfyddydau Cymru
Bydd rhagbrofion yma yn y bore. Yn y prynhawniau bydd perfformiadau gan artistiaid a grwpiau yn cynnwys Theatr Na'n Og, Arad Goch, Cwmni Theatr Ieuenctid yr Urdd a Chelfyddydau Ieuenctid Cenedlaethol Cymru.
Caffi Mistar Urdd
Lluniaeth o bob math rhwng 8.30 yb - 6.30 yh.
Lluniau Llwyfan
Archebu llun cystadleuwyr.