麻豆社

Cystadleuwyr Ysgoloriaeth Bryn Terfel 2012

Glain Dafydd yn siarad yn Eisteddfod yr Urdd 2012

11 Mehefin 2012

Mae'r chwech a fydd yn ymgeisio am Ysgoloriaeth Bryn Terfel Urdd Gobaith Cymru eleni, ac yn ceisio efelychu camp y delynores Glain Dafydd yn 2011, wedi eu henwi.

Enillwyr wyth o brif gystadlaethau unigol Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd i'r rhai rhwng 19 a 25 a gynhaliwyd ddydd Gwener a dydd Sadwrn yr 诺yl fydd yn cystadlu am y wobr.

Ond chwech unigolyn sydd gan fod yr un cystadleuydd wedi ennill dwy o'r cystadlaethau, sef:

  • Cerian Phillips, Aelwyd Hafodwennog, Gorllewin Myrddin - enillydd Dawns Werin Unigol i Ferched Bl10 a dan 25
  • Huw Ynyr Evans, Adran Bro Idris, Meirionnydd - enillydd yr Unawd Cerdd Dant 19-25 a'r Unawd 19-25.
  • Lois Eifion, Aelwyd JMJ, Eryri - enillydd y Cyflwyniad Alaw Werin Unigol 19-25 a'r Unawd Offerynnol 19-25
  • Glesni Euros, Aelod Unigol Cwm Tawe - enillydd Llefaru Unigol 19-25
  • Ceri Wyn, Aelwyd Llundain - enillydd y Cyflwyniad Theatrig
  • Rachel Lee Stephens, Aelwyd y Drindod, Gorllewin Myrddin - enillydd yr Unawd Sioe Gerdd.

Dros yr haf, bydd yr enillwyr yn derbyn dosbarthiadau meistr yn eu maes, cyn cyngerdd mawreddog ar 14 o Hydref, 2012, a fydd yn penderfynu pa un ohonyn nhw fydd yn deilwng o'r Ysgoloriaeth yn 2012.

Dywedodd Urdd Gobaith Cymru fod yr ysgoloriaeth gelfyddydol yn cael ei gweld fel un o uchafbwyntiau'r calendr perfformio i ieuenctid Cymru gyda'r enillydd yn ennill gwobr ariannol o 拢4,000.

Yn 么l Bryn Terfel a fagwyd yn Eryri: "Mae'r ymdrechion yn sicr yn mynd o nerth i nerth. Gobeithio y gallwn barhau i gefnogi ein talentau ifanc yn ariannol ar ddechrau eu gyrfaoedd."

Bu enillydd Ysgoloriaeth 2011, Glain Dafydd, yn cymryd rhan yng Nghyngerdd Agoriadol yr Eisteddfod yn y pafiliwn nos Sul Mehefin 3. Ond roedd rhaid i'r delynores 20 oed o Fangor hedfan yn 么l i Baris ar gyfer ei harholiadau yng ngholeg yr Ecole de Musique, lle mae hi'n astudio cerddoriaeth, yn syth wedyn.

"Roedd canu yn y cyngerdd agoriadol nos Sul yn benllanw anhygoel i'm profiadau fel cystadleuydd yn Eisteddfodau'r Urdd dros y blynyddoedd," meddai Glain Dafydd. "Dyma lle ces i'r cyfle i fwrw fy mhrentisiaeth, ac mae ennill yr Ysgoloriaeth wedi bod yn wefr i mi fel perfformwraig.

"Ar lefel ymarferol, mae cefnogaeth ariannol yr Ysgoloriaeth wedi bod yn anhygoel i mi dros y misoedd diwethaf, gan fy nghynorthwyo i dalu am ffioedd coleg. Mae wedi bod yn fodd o godi fy mhroffil fel perfformwraig - gan fod Bryn Terfel yn gawr yn ei faes. Mae wedi bod yn deimlad braf iawn wrth astudio gwaith opera ymysg y myfyrwyr eraill ym Mharis, bod enw un o gantorion opera mwya'r byd ar fy CV perfformio i!"

Dros yr haf, ac wedi cwblhau ei harholiadau a'i hail flwyddyn yn y coleg cerdd ym Mharis, bydd Glain yn dychwelyd adref i Gymru. Bydd y delynores yn perfformio ar lwyfan Noson Lawen, yn Eglwys Llandanwg ger Harlech a chyda Ch么r y Penrhyn dros yr haf cyn dychwelyd i Baris fis Hydref i'w thrydedd flwyddyn yn y coleg. Yn ystod y flwyddyn sydd i ddod, ei gobaith yw paratoi ar gyfer cystadlu mewn cystadleuaeth ryngwladol i delynorion yn Bloomington, Indiana, America.

Yn 么l Aled Si么n, Cyfarwyddwr Eisteddfod yr Urdd: "Mae'n hynod o braf cael clywed hanes enillydd yr Ysgoloriaeth yn rhannu ei phrofiadau wedi cipio'r teitl. Mae Glain Dafydd yn sicr yn ysbrydoliaeth i gystadleuwyr ifanc yr Urdd yn Eisteddfod Eryri eleni. Rydyn ni'n edrych ymlaen yn arw at y wledd o gystadlu sydd i ddod a chael gweld pwy fydd yn mynd ymlaen i'r rownd nesaf i ymgeisio am y teitl ym mis Hydref."


Bitesize TGAU

Logo Bitesize

Cymorth adolygu

Gweithgareddau, testun adolygu, fideos, clipiau sain a phrofion!

Plant

Bobinogi

Hwyl a sbri

Bobinogi, Bob y Bildar, Fimbles a chymeriadau difyr eraill

C2

Huw Stephens Yn ei Gr诺f!

G锚m: Yn y Gr诺f

Rhowch dro ar g锚m C2 - hwyl a sbri wrth ddewis Huw a mwy fel cyflwynydd!

Plant

Dewch i fyd hudol Tree Fu Tom am gemau, anturiaethau a swynau!

麻豆社 iD

Llywio drwy鈥檙 麻豆社

麻豆社 漏 2014 Nid yw'r 麻豆社 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.