Digwyddiad cyntaf swyddogol yr Eisteddfod fydd y Sioe Ieuenctid Sbri! gan Gwmni'r Frân Wen a fydd yn agor yr ŵyl ar nos Wener, Mehefin 1 yn y Galeri, Caernarfon.
Mae'r sgript, gan Beth Angell, wedi ei seilio'n fras ar y gyfres boblogaidd Glee ac yn dweud hanes criw o ddisgyblion mewn gwersyll gorawl sy'n gwirioni ar ganu a dawnsio. Mae hi'n defnyddio caneuon poblogaidd Cymraeg ar eu newydd wedd ac yn ôl Iola Ynyr, y cyfarwyddwr, mae talentau pobl ifanc yr ardal yn disgleirio.
"Beth sydd wedi ein synnu ni fel tîm creadigol," meddai "ydy'r talent sydd gan y bobl ifanc ac mae wedi bod yn anodd dewis pwy sy'n cymryd y prif rannau. Mae'r talent yn fendigedig."
"Mae'n braf gweld pobl ifanc sydd yn yr ysgol ac sydd wedi gadael yr ysgol yn cymysgu â'i gilydd, mae 'na elfen gymdeithasol gref i'r sioe," ychwanegodd.
I ychwanegu at yr elfen gymdeithasol yma mae aelodau Cymdeithas Rhieni-Athrawon Ysgol Dyffryn Nantlle, lle mae'r criw yn ymarfer, wedi sefydlu caffi i'r bobl ifanc a'r hyfforddwyr. Gan agor ffreutur yr ysgol y tu allan i oriau ysgol maen nhw'n gwirfoddoli i wneud paneidiau, diodydd, cawl a brechdanau i'r criw sychedig.
Dywedodd Iola hefyd fod y tocynnau ar gyfer y tri pherfformiad yn y Galeri bron â mynd i gyd (nos Wener Mehefin 1, nos Sadwrn Mehefin 2 a nos Lun Mehefin 4), felly brysiwch os ydych chi am sicrhau eich sedd.