Mae Dydd Iau yn gyfle arall i ddisgyblion ysgolion cynradd gystadlu ac yn ddiwrnod dechrau cystadlaethau'r ysgolion uwchradd. Ar y diwrnod hwn hefyd mae cyfle i fardd ifanc newydd ddisgleirio.
Prif seremoni'r dydd yw Defod y Cadeirio (Bl. 10 a dan 25 oed) am 2.30pm.
Y dasg i brifardd yr ŵyl yw cyfansoddi cerdd gaeth neu rydd, heb fod dros 100 llinell ar y testun Cylchoedd.
Mae'r yn cael ei rhoi er cof am dad a mab, Meirion a Ceredig Parry o Roslan, Cricieth.
Nia Peris yw Meistr y Ddefod a'r beirniaid Rhys Iorwerth ac Ifan Prys.
Enillydd y llynedd oedd Llyr Gwyn Lewis o Gaernarfon, yn ennill y gadair am yr eildro yn olynol.
Fin nos, am 6.45pm yn y Pafiliwn cyflwynir medal John a Ceridwen Hughes, Uwchaled, i gydnabod cyfraniad gwirfoddol dros ieuenctid yng Nghymru. sy'n enill y fedal eleni.
Gan fod y tlws yn dathlu 20 mlynedd o fodolaeth ers ei chyflwyo gyntaf yn 1992, mae'r Urdd wedi gwahodd yr holl gyn enillwyr i'r Eisteddfod i fod yn rhan o'r dathliad.
Bydd y cystadlu ar gyfer Ysgolion Uwchradd yn parhau wedyn am 7pm gyda chystadleuaeth Monolog Bl 10 a dan 19, Unawd allan o Sioe Gerdd, Bl. 19 a dan 19 oed, a'r Cyflwyniad Dramatig i Bl. 10 a dan 19 oed. Cyfle i weld rhai o sêr y dyfodol o bosib!